Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Mae'r wythnos hon yn nodi wythnos 'CaruUndebau' – digwyddiad blynyddol i dynnu sylw at y gwaith hanfodol y mae undebau llafur yn ei wneud, ac rwy'n falch o'i ddathlu yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn llywodraeth sy'n gyfeillgar i undebau, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gweithwyr yn gallu manteisio ar ddod yn aelodau o undebau llafur ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur yng Nghymru, ac mae'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wedi bod ar waith am flwyddyn bellach erbyn y mis hwn.
Mae'r manteision a gynigir gan undebau llafur i weithwyr, cyflogwyr ac i'n cymunedau ehangach yn niferus. Mae mudiad yr undebau llafur wedi helpu i ddatblygu hawliau allweddol gweithwyr, gan gynnwys yr isafswm cyflog, hawliau mamolaeth a thadolaeth, cyflog cyfartal, a hawliau gwyliau a salwch. Gall aelodau undebau llafur ofyn am gynrychiolaeth yn y gweithle, cyngor cyfreithiol a chyfleoedd dysgu drwy eu hundeb.
Yn aml, mae camsyniad mai dim ond gweithwyr sy'n elwa ar undebaeth lafur, ond mae gan gyflogwyr lawer i'w ennill o gydnabod undebau llafur a gweithio gyda nhw.
Mae arbedion maint yn deillio o wella materion yn y gweithle. Ac ar gyfer sefydliadau canolig a mawr, mae'n haws delio â materion yn y gweithle drwy gydfargeinio yn hytrach na delio â phob gweithiwr unigol.
Fel trafodwyr profiadol, mae swyddogion yr undebau yn arbenigwyr yn eu maes, sydd yn eu tro yn cefnogi cyflogwyr wrth iddynt lywio polisïau, gweithdrefnau a rhwymedigaethau cyfreithiol yn y gweithle. Ac mae undebau llafur yn cefnogi datblygu'r gweithlu. Nid oes ond angen inni edrych ar lwyddiant ein Cronfa Ddysgu Undebau Cymru i weld sut y mae rhaglenni dysgu, a arweinir gan undebau ac a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, o fudd i weithwyr a chyflogwyr.
Mae'r gweithleoedd sy'n cydnabod undebau llafur yn fwy diogel, sy'n amlwg o fudd i bawb, gan gynnwys y cyflogwr. Mae'r gweithleoedd hynny hefyd yn tueddu i gael cyflog, telerau ac amodau cyffredinol gwell sy'n helpu i greu gweithlu mwy bodlon a sefydlog, sy’n golygu bod llai o weithwyr yn gadael y gweithle. Ac mae aelodau undebau llafur, ar gyfartaledd, yn aros yn eu swyddi am oddeutu pum mlynedd yn hirach na gweithwyr nad ydynt yn aelodau undebau.
Mae manteision undebau llafur hefyd yn cael effaith fuddiol ehangach ar y gymdeithas gyfan. Mae undebau llafur yn rhan annatod o hyrwyddo Gwaith Teg sy'n cefnogi cymunedau mwy llewyrchus â gweithwyr sydd â mwy o arian yn eu pocedi i'w wario, a mwy o amser i ffwrdd o'r gwaith i wario'r arian hwnnw.
Nid yw manteision yr undebau llafur yn dod i ben ar stepen drws y gweithle. Mae'r undebau llafur yn ymgyrchu am undod cymdeithasol ar lefel fyd-eang hefyd – gan gynnwys newid hinsawdd, masnach deg, a chydraddoldeb.
Felly, er bod yr wythnos hon yn rhoi cyfle inni oedi ac ystyried pwysigrwydd undebau llafur, y gwir amdani yw y dylid eu dathlu bob dydd. Gan hynny, rwy'n bwriadu tynnu sylw at y pethau cadarnhaol am undebau llafur ar bob cyfle.