Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rydym yn nodi Wythnos Caffael Cenedlaethol Cymru am y trydydd tro yr wythnos hon, ac uchafbwynt yr wythnos yw Gwobrau Caffael Cenedlaethol Cymru 2014. Bydd sylw’r byd ar Gymru yn ystod y digwyddiad rhyngwladol hwn, sy’n archwilio gwahanol agweddau ar gaffael cyhoeddus, tendro cyhoeddus, datblygu busnes, datblygiadau o ran hyfforddiant ym maes caffael a chyfraith caffael.  

Mae ymarferwyr caffael blaenllaw o’r sector cyhoeddus, o fyd diwydiant ac o gymunedau cyfreithiol ac academaidd ym mhob cwr o’r byd yn cymryd rhan mewn rhaglen wythnos o gyflwyniadau, gweithdai, seminarau a thrafodaethau. Byddaf i’n rhoi’r anerchiad agoriadol ar 20 Mawrth, sef Diwrnod Cyfraith Caffael. Bydd swyddogion Gwerth Cymru hefyd yn rhoi cyflwyniadau ar agweddau pwysig ar bolisi caffael.

Mae cyswllt sylfaenol rhwng y gallu i gaffael, a defnyddio polisi a dulliau rheoleiddio’r broses gaffael yn ddeallus. Mae sicrhau bod y proffesiwn caffael yn datblygu yng Nghymru yn flaenoriaeth felly. Rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun rai enghreifftiau gwych o gyrff cyhoeddus Cymru yn cyflawni fy nisgwyliadau polisi ac yn mynd ati fel un i wella canlyniadau ym maes caffael.

Penllanw’r wythnos fydd cynnal seremoni’r Gwobrau Caffael Cenedlaethol ar ddydd Gwener, 21 Mawrth. Bydd yn gyfle i ddathlu llwyddiant caffael cyhoeddus yng Nghymru. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn yr wyth categori. Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r gwobrau haeddiannol i’r buddugwyr.