Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn dechrau trafod gyda Hitachi ar brosiect arfaethedig Wylfa Newydd.   Yn dilyn fy nhrafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Horizon Nuclear Power, roeddwn yn croesawu'r cyhoeddiad hwn yn fawr iawn.  

Bydd y prosiect gwerth £15 biliwn ar gyfer adeiladu Wylfa Newydd, y prosiect buddsoddi mwyaf yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf.  Yn wir, dyma'r buddsoddiad mwyaf o fewn y sector preifat yng Nghymru o fewn cenhedlaeth, sy'n dod â'r posibilrwydd o drawsnewidiad economaidd gwirioneddol.   Rydym wedi bod yn rhan o'r prosiect dros sawl blwyddyn, gan gydweithio'n agos â Chyngor Sir Ynys Môn, fel yr awdurdod cynllunio lleol, Horizon Nuclear Power a rhanddeiliaid amlwg eraill.  

Mae ein perthynas waith agos gyda'r rhanddeiliaid hyn yn canolbwyntio ar sichrau gwaddol hirdymor i Gymru.  Byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith hwn i liniaru yr effaith a gaiff, ac i wireddu'r manteision ar gyfer Ynys Môn a'r economi ranbarthol ehangach.  Rhan o'r gwaddol hwn fydd datblygu gweithlu dawnus a datblygu cadwyn cyflenwi cadarn a galluog yng Nghymru.  Mae gennym weithlu dawnus ac ymroddedig yn y sector niwclear sy'n golygu bod cwmnïau o Gymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd fydd yn codi, ledled y DU ac yn fyd-eang.  Rydym wedi gosod mesurau priodol i gefnogi'r gadwyn gyflenwi ar draws prif feysydd y prosiect ym maes adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu, megis rhaglenni Fit4Nuclear a Construction Futures Wales am sawl blwyddyn.   Yn yr un modd, rydym yn edrych ymlaen ac yn disgwyl cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU ar Fargen y Sector Niwclear fydd yn ein tyb ni yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir.  Yn ehangach, mae'r cyhoeddiad yn cyd-fynd â'n gweledigaeth o sicrhau ffyniant o fewn y rhanbarthau ac mae'n dilyn y cynnydd sy'n cael ei wneud ar Fargen Twf y Gogledd a'm Cynllun Economaidd Rhanbarthol.

Mae'r cyhoeddiad hefyd yn cyd-fynd â'r newyddion i'r cais am Orchymyn Cydsynio Datblygu Wylfa Newydd gael ei gyflwyno'n llwyddiannus gan Horizon Nuclear Power ar 1 Mehefin i Arolygiaeth Cynllunio y DU.  Dyma'r cam cyntaf i dderbyn yn ffurfiol y cynlluniau angenrheidiol a'r trwyddedau rheoleiddiol ar gyfer y prosiect, ac rydym yn croesawu'r cyflwyniad yn fawr fel carreg filltir bwysig i'r prosiect.  Yn bwysig iawn, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i sicrhau, yn ystod  proses y Gorchymyn Cydsynio Datblygu a thu hwnt, y bydd sefyllfa ein cymunedau lleol a Chymru yn ehangach yn parhau yn gadarn.  Dim ond trwy barhau i gydweithio yn agos y gallwn lwyddo gyda hyn.  

Wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen i gam nesaf y trafodaethau Contract Gwahaniaeth, mae'n hollbwysig bod swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn cael ei chydnabod yn llawn gan Lywodraeth y DU.  Bydd gan y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar lefel y DU a Siapan ddylanwad uniongyrchol ar Gymru.  Rydym felly'n disgwyl i Lywodraeth y DU a'r datblygwyr gydweithio'n agos â ni i sicrhau bod pob cyfle yn cael ei gymryd a bod y manteision yn cael eu sicrhau i'r prosiect seilwaith hwn sydd o bwys mawr i'r Deyrnas Unedig.  Ar yr un pryd, byddwn yn ceisio sicrhau bod modd lliniaru rhywfaint ar effaith hyn, megis unrhyw effaith ar y pwrs cyhoeddus yng Nghymru.  

Rydym yn cydnabod bod rhywfaint o ffordd i fynd o hyd cyn i Hitachi allu gwneud Penderfyniad Buddsoddi Terfynol, ac mae cyhoeddiad ddoe yn rhoi digon o hyder y bydd y canlyniad ar gyfer Wylfa Newydd yn bositif, yn amodol ar gymeradwyaeth lawn gan y Llywodraeth,  cymeradwyaeth reoleiddiol ac eraill, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i werth am arian, diwydrwydd dyladwy a gofynion cymorth gwladwriaethol.

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau pellach.