Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daeth y newyddion y bore 'ma fod Hitachi yn atal ei waith yn Wylfa Newydd. Mae'r cyhoeddiad hwn yn peri cryn bryder a gofid i Lywodraeth Cymru a hoffwn gydymdeimlo â'r rheini oll y mae'r datblygiadau hyn yn effeithio arnynt yn uniongyrchol. Nid Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y sefyllfa hon ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r rheini y mae'r cyhoeddiad hwn yn effeithio arnynt, gan gynnwys y prentisiaid a'r staff, yn ogystal â'r busnesau sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi.

Yn fy Natganiad Ysgrifenedig dyddiedig 15 Ionawr, amlinellais bwysigrwydd economaidd prosiect Wylfa Newydd i Ynys Môn, i Ogledd Cymru ac i'r DU. Felly, ni allwn ddiystyru arwyddocâd y newyddion hyn heddiw. Mae'n ergyd enfawr.

Fel y nodwyd yn y Datganiad hwnnw, bûm yn siarad â Gweinidog y DU dros Ynni a Diwydiant ar 15 Ionawr. Ysgrifennais hefyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Strategaeth Ddiwydiannol a bûm yn siarad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru.   

Rydym yn parhau i ofyn i Lywodraeth y DU roi sicrwydd inni ar fyrder am y mater hwn.  Rydym yn gofyn i Lywodraeth y DU warantu y bydd yn gwneud popeth posibl i ddod â'r prosiect hwn i Ynys Môn. Gofynnwn hefyd i Lywodraeth y DU egluro’r model cyllido a fydd yn golygu y bydd modd bwrw ymlaen â phrosiectau seilwaith o bwys fel Wylfa Newydd. Gofynnwn i Lywodraeth y DU roi sicrwydd inni am y goblygiadau ehangach i economi ranbarthol y Gogledd ac rydym yn pwyso arni i ddweud sut y gall ein helpu mewn meysydd fel sgiliau a'r gadwyn gyflenwi. Mae potensial mawr yn y Gogledd i ddatblygu sector hanfodol yn y dyfodol ar gyfer y DU i gyd, ond mae angen i Lywodraeth y DU ymateb i’r her a gweithredu.

Wylfa Newydd yw'r prosiect datblygu economaidd mwyaf yng Nghymru ers degawdau, sy'n gallu sicrhau manteision economaidd hirdymor sylweddol. Mae cadw'r gallu craidd yn sefydliad Horizon Nuclear yma yng Nghymru ac yn y DU yn hanfodol er mwyn gwireddu'r prosiect hwn. 

Fy mlaenoriaeth gychwynnol yw deall yr hyn y bydd cyhoeddiad heddiw yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae'n hynod bwysig bod momentwm y gwaith yn parhau, yn enwedig o ran y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu a phrosesau statudol eraill.

Yn ei ddatganiad heddiw, nododd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Strategaeth Ddiwydiannol fod sail Bargen y Sector Niwclear yn dal i barhau. Er bod hyn yn cael ei groesawu, bydd llawer o gwestiynau pwysig iawn yn dal i barhau i Ynys Môn, y Gogledd a Chymru gyfan. 

Heddiw, ces i gyfarfod ag Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn. Byddaf yn mynd i gyfarfod brys y Bwrdd Uchelgeisiau Economaidd ddydd Llun. Rwy'n dal i gadw cysylltiad agos â Horizon Nuclear Power hefyd. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n gilydd dros sawl blwyddyn ar y prosiect hwn a bydd y bartneriaeth hon yn parhau. 

Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i symud y gwaith yn ei flaen. Rhaid i'r prosiect hwn barhau, er mwyn iddo sicrhau gwaddol parhaol ar gyfer Ynys Môn, Gogledd Cymru a'r DU.

Mae hon yn amlwg yn broses sy'n symud yn ei blaen yn gyflym ac mae fy swyddogion yn asesu’r manylion wrth iddynt ddod i'r amlwg. Mewn datganiad heddiw, nododd Hitachi iddo wneud ei benderfyniad ar sail rhesymau economaidd sy'n llywio'i waith fel menter breifat. Byddwn yn gofyn i Hitachi am eglurhad pellach dros y diwrnodau nesaf ar y mater hwn, yn ogystal â Llywodraeth y DU o ran y camau nesaf. 

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r sefyllfa ddatblygu.