Lesley Griffith AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Mae sicrhau Cymru wyrddach ac iachach wrth i ni ailadeiladu ein heconomi yn sgil y pandemig Covid-19 yn golygu bod yn rhaid i ni wneud newidiadau sylweddol i'n ffyrdd o fyw a'n diwydiannau fel y gall pob cymuned yng Nghymru anadlu aer glân. Heddiw, rwy'n cyhoeddi ein cynigion mewn Papur Gwyn i gefnogi datblygiad y Ddeddf Aer Glân (Cymru).
Mae llygredd aer yn byrhau bywydau yng Nghymru, gyda'r effaith fwyaf yn cael ei theimlo yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, yn enwedig ymhlith plant a phobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd cronig. Mae llygredd aer yn effeithio ar ecosystemau ym mhob rhan o Gymru, i'r pwynt lle rydym yn peryglu niwed iddynt y tu hwnt i fedru ei wneud yn iawn, gan wrthod mynediad cenedlaethau'r dyfodol i'w treftadaeth naturiol. Er ein bod yn cydymffurfio'n bennaf â safonau cyfreithiol ansawdd aer yng Nghymru, rydym yn cydnabod yr angen i leihau amlygiad i lygredd aer ymhellach a'r manteision iechyd ac amgylcheddol cadarnhaol y gall hyn eu cynnig. Mae mynd i'r afael â llygredd aer nid yn unig yn rheidrwydd iechyd cyhoeddus ac amgylcheddol, mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol.
Bydd rhai o'r newidiadau sydd eu hangen i sicrhau aer glân yng Nghymru yn effeithio ar rai diwydiannau sy'n gyfrifol am reoli allyriadau o'u harferion busnes eu hunain – o amaethyddiaeth i ynni a gweithgynhyrchu. Bydd rhai newidiadau sydd eu hangen i sicrhau aer glân yn effeithio ar bob un ohonom – y ffordd rydym yn teithio ac yn gwresogi ein cartrefi, cynllun ffisegol ein cymunedau a phresenoldeb natur o'n cwmpas. Nid yw rhai allyriadau o fewn ein rheolaeth i ddileu'n llwyr, gan gynnwys y rhai sy'n croesi ffiniau rhyngwladol. Felly, mae angen addysgu a hysbysu, gan gynnwys drwy fonitro ac asesu cadarn, fel y gallwn i gyd ddiogelu ein hunain yn well rhag effaith llygredd aer yn y ffordd rydym yn byw ein bywydau.
Ein huchelgais ar gyfer y Ddeddf Aer Glân (Cymru) yw gosod y safonau ansawdd aer mwyaf effeithiol yng nghyfraith Cymru a gofyn am weithredu i'w cyflawni fel y gall pobl yng Nghymru anadlu aer glân, fel y gall plant chwarae'n ddiogel yn eu cymunedau, fel y gallwn leddfu rhywfaint o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd, fel y gallwn leihau anghydraddoldeb.
Drwy gyflwyno'r cynigion yn y Papur Gwyn, ac adeiladu ar y mesurau a gynhwyswyd yn ein Cynllun Aer Glân a gyhoeddwyd yr haf diwethaf, gallwn:
- Osod targedau ansawdd aer, gan gynnwys ar gyfer deunydd gronynnol, sy'n cyfrif am y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf a'r safonau rhyngwladol, gan gynnwys canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.
- Adolygu targedau’n rheolaidd gyda chraffu gan arbenigwyr annibynnol i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau uchaf posibl ac yn sicrhau'r budd mwyaf i'n lles.
- Pennu gofyniad i gynllun neu Strategaeth Aer Glân gael ei adolygu'n llawn o leiaf bob 5 mlynedd.
- Gwneud rheoleiddio Rheoli Ansawdd Aer Lleol yn fwy effeithiol. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i gael ddyddiadau cydymffurfio rhagamcanol ar gyfer Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer a rhoi pwerau i Awdurdodau Lleol ddod â phartneriaethau ynghyd â sefydliadau eraill i ddatblygu a gweithredu atebion ar y cyd.
- Galluogi gweithrediad Parthau Aer Glân a Pharthau Allyriadau Isel yn well lle mae eu hangen.
- Rhoi mwy o bwerau i Awdurdodau Lleol fynd i'r afael â cherbydau sy'n rhedeg yr injan yn segur, gan gynnwys y tu allan i ysgolion a lleoliadau gofal iechyd, a chynyddu'r cosbau y gallant eu cymhwyso.
- Galluogi Awdurdodau Lleol i reoli a gorfodi llosgi tanwyddau anawdurdodedig yn anghyfreithlon drwy bwerau rheoli mwg cryfach.
- Gosod dyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus a phreifat ar draws sectorau i helpu'r cyhoedd i ddeall risgiau llygredd aer, gan gynnwys drwy ddarparu mwy o fonitro, fel y gallwn annog newid cadarnhaol mewn ymddygiad er mwyn lleihau'r risg i ni ein hunain a lleihau llygredd aer yn y ffynhonnell.
- Cefnogi mwy o ddefnydd o ddulliau sy'n seiliedig ar natur lle mae ganddynt allu profedig i gyfrannu at wella ansawdd aer.
Mae consensws eang ar draws y Senedd hon ynglŷn â’r angen i wella ansawdd aer yng Nghymru, a gobeithio y gall y consensws hwn helpu yn awr i’n gweld drwy’r newidiadau anodd sydd eu hangen i wireddu ein nod.
Heddiw, rwyf hefyd yn cyhoeddi adroddiad manwl a gwblhawyd gan y Panel Cynghori ar Aer Glân ar effaith pandemig COVID-19 ar ansawdd aer. Mae canlyniadau cynnar ansawdd aer yn dangos darlun cymhleth ers mis Mawrth 2020. Gwelodd 2 fis cyntaf y cyfyngiadau symud ostyngiadau sylweddol mewn rhai lefelau llygryddion, gan gynnwys ocsidiau nitrogen, sy'n gyson â lefelau traffig is. Fodd bynnag, cynyddodd lefelau llygryddion eraill, gan gynnwys deunydd gronynnol mân ac oson. Mae hyn yn dangos yr effaith gymhleth y gall newidiadau mewn arferion cymdeithasol ac ymyriadau technolegol ei chael.
Mae adroddiad y Panel, o'r enw 'Effeithiau pandemig COVID-19 ar ansawdd aer yng Nghymru: Mawrth i Hydref 2020,' yn cynnwys nifer o argymhellion. Byddwn yn ystyried yr argymhellion hyn wrth i ni ddatblygu ein polisïau a'n deddfwriaeth ar hyn o bryd ac yn y dyfodol o dan y Cynllun Aer Glân. Mae'r panel wedi nodi eu cefnogaeth i fesurau i annog mwy o bobl i weithio gartref i leihau effaith allyriadau traffig o gymudo, yn gyson â'r uchelgais a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru y llynedd i weithio gyda busnesau, cyrff cyhoeddus ac undebau llafur i roi'r cymorth a'r cyfleusterau ar waith i sicrhau bod 30% o weithlu Cymru yn gweithio gartref mewn ffordd sy'n sicrhau'r lles mwyaf posibl.
Yn olaf, ochr yn ochr â'r Papur Gwyn ar y Ddeddf Aer Glân i Gymru, rwyf wedi cyhoeddi ymgynghoriad ychwanegol â ffocws ar leihau allyriadau sy'n deillio o losgi tanwydd solet yn y cartref. Mae hwn yn faes heriol, yn enwedig lle mae cartrefi yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn dibynnu ar danwyddau sydd eisoes yn ddrud ac sy'n llygru'n fawr i wresogi eu cartref. Yn y camau a gymerwn o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd a chyflawni'r Cynllun Aer Glân, byddwn, yn unol â'n hymrwymiad i gyfiawnder yn yr hinsawdd, yn sicrhau na chaiff unrhyw gartref ei orfodi i dlodi tanwydd drwy gymhwyso rheoliadau i fynd i'r afael â llygredd aer.
Rhaid inni gydbwyso'n ofalus yr angen i gryfhau rheoleiddio mathau o danwyddau a chyfarpar gyda'r angen i gefnogi pobl yn ymarferol i wneud newidiadau a fydd yn gwella eu hiechyd eu hunain ac iechyd eu cymunedau. Bydd llawer ohonom yn cyfrannu at y pwysau ar ansawdd aer a grëir gan losgi domestig pan fydd gennym farbeciws a choelcerthi. Felly, nid yw mor syml â cheisio gwahardd llosgi domestig o bob math – rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o leihau effeithiau negyddol yr arferion hyn ar iechyd mewn ffordd sy'n ennyn cefnogaeth gymunedol eang ac nad yw'n gadael grwpiau penodol o dan anfantais sylweddol.
O dan yr amgylchiadau presennol, nid oes amheuaeth mai COVID-19 yw'r argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf difrifol sy'n ein hwynebu. Er mwyn i Gymru ddod yn iachach, yn wyrddach ac yn decach yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod wrth i effaith y pandemig ddod i ben, rhaid inni weithredu'n awr i osod set newydd o ddisgwyliadau ynghylch ansawdd aer a'r cyfrifoldebau ar bob un ohonom i leihau effaith llygredd a dileu allyriadau niweidiol yn y ffynhonnell.
Rwy'n gobeithio y bydd pob aelod o'r Senedd yn parhau i gymryd diddordeb mawr yn y mater hwn a byddaf yn annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau i fod yn rhan o ddiogelu awyr y genedl a chyda hynny ein treftadaeth naturiol, ein plant, ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'n lles ehangach.