Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Fe hoffwn roi diweddariad i'r Aelodau ar yr hyn yr wyf wedi'i gyflawni o ran datblygu agenda diwygio gwasanaethau cyhoeddus y Llywodraeth hon. Y rheswm pam rwy'n rhoi diweddariad pellach i'r Aelodau yn dilyn fy natganiad ar 21 Mehefin yw y byddaf yn cael trafodaethau pwysig iawn ag awdurdodau lleol ac eraill yn y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ar 21 Gorffennaf. Roeddwn yn dymuno rhoi gwybodaeth i'r Aelodau ar hynt y trafodaethau hynny cyn y Toriad.
Byddaf yn trafod tri mater allweddol: symleiddio'r partneriaethau, cysoni'r ffiniau rhanbarthol ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus a bwrw ymlaen â'r gwaith ar effeithlonrwydd ac arloesi.
Cynlluniau a phartneriaethau effeithiol
Fel y dywedais yn fy natganiad cynharach, fy nod yw cael gwared ar feichiau biwrocrataidd wrth ddarparu a gwella gwasanaethau cyhoeddus a'u symleiddio pryd bynnag y gallwn.
Rwyf wedi clywed cydweithwyr ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yn cwyno am nifer y partneriaethau, a'r gost sylweddol sydd ynghlwm â'u cynnal. Gormod o bwdin dagith gi, ac wedi gwrando ar y safbwyntiau hyn, rwyf am wneud rhywbeth ynglŷn â'r sefyllfa.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol er mwyn gwella gwasanaethau, ond mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar gyflawni. Caiff gormod o amser ac arian eu gwario ar gyfarfodydd a chynhyrchu strategaethau. Mae'n rhaid i hynny newid, a rhaid i ni adeiladu ar waith da nifer o Fyrddau Gwasanaethau Lleol a phartneriaethau rhanbarthol sydd eisoes yn cael gwared ar gymhlethdod. Rwy'n mynegi fy nisgwyliadau yn glir. Mae angen un broses gynllunio integredig ar gyfer pob ardal, gydag un 'asesiad o anghenion' ac un sylfaen dystiolaeth. Rhaid bod yna atebolrwydd clir am ganlyniadau ac ar gyfer cyflawni dyletswyddau statudol, gyda chraffu democrataidd lleol cryfach, ac arweiniad wedi'i gydlynu drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol.
Nid ymarfer tacluso mo hwn. Mae'n ymwneud â gosod blaenoriaethau clir a chyffredin yn lleol, gydag ymrwymiadau clir ar y cyd i'w cyflawni. Mae'n ymwneud ag atebolrwydd clir ynghylch pwy sy'n gwneud beth ar lefel leol er mwyn cyflawni gwell canlyniadau ar gyfer unigolion a chymunedau ledled Cymru.
Hyrwyddo cysoni rhanbarthol
Mae'r drafodaeth ynghylch ad-drefnu llywodraeth leol yn parhau, ac y mae'r un mor ddi-fudd heddiw ag yr oedd yr wythnos diwethaf a'r wythnos flaenorol. Rwyf wedi mynegi fy marn yn glir ar y mater hwn.
Fodd bynnag, ar ôl trafod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bythefnos yn ôl, ac ar ôl cael trafodaeth barhaus â phartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus, rwyf wedi clywed yn eglur bod rhai yn galw arnom - a rhai hyd yn oed yn mynnu - ein bod yn cynnig rhywfaint o eglurder ar sut yr ydym ni'n gweld gwasanaethau lleol yn cael eu trefnu, o ran cydweithredu.
Rwyf wedi gwrando, a byddaf yn ymateb yn y Cyngor Partneriaeth. Ar hyn o bryd, mae'r cydweithredu yn seiliedig ar nifer o batrymau daearyddol gwahanol, yn unol â threfniadau gwasanaethau penodol. Mewn rhai rhannau o Gymru nid yw'r trefniadau hyn yn cydweddu â strwythurau'r heddlu a'r Byrddau Iechyd Lleol, sy'n bartneriaid allweddol wrth ddarparu gwasanaethau lleol. Mae'r cymhlethdod hwn yn ychwanegu costau diangen, a gall arafu unrhyw newid. Nid yw'n gofalu am fuddiannau'r cyhoedd, nac yn ei gwneud yn hawdd gweld pwy sy'n atebol am ddarparu gwasanaethau da.
Mae'n rhaid i ni edrych i'r dyfodol. Mae yna achos cryf dros gydweithredu ar draws y ffiniau a'r gwasanaethau presennol er mwyn cryfhau'r gallu i gyflawni, gweithio'n fwy effeithlon a gwella'r ddarpariaeth. Rhaid i wasanaethau gael eu dylunio a'u darparu ar sail anghenion pobl yn hytrach na sefydliadau. Rhaid i ni osgoi gwneud hynny'n anoddach drwy wneud y trefniadau llywodraethu'n fwy cymhleth.
Mae ein partneriaid o fewn llywodraeth leol wedi gofyn am eglurder ar y mater hwn, a byddaf yn ymateb yn y Cyngor Partneriaeth drwy gadarnhau bwriad Llywodraeth Cymru i symud i gyfeiriad strwythur cyffredin er mwyn cysoni'r cydweithredu ar wasanaethau cyhoeddus, ar sail ffiniau'r Byrddau Iechyd Lleol a'r heddlu. Mae hyn yn golygu safoni ar sail y rhanbarthau hynny lle mae yna gryn dipyn o gysondeb o ran ffiniau darparu gwasanaethau cynaliadwy yn barod, gan sicrhau arbedion maint.
Ni fydd yn bosibl gwneud hyn dros nos. Nid wyf am weld y trefniadau cyfredol yn dod i ben, lle bydd hynny'n gostus neu'n tanseilio'r dulliau cyflawni. Os yw'r trefniadau presennol yn cynnig atebolrwydd clir, yn gadarn ac eisoes yn gweithio'n effeithiol i wella gwasanaethau ac effeithlonrwydd, rhaid iddynt barhau, a hynny'n gyflym ac yn egnïol.
Ond, os mai megis dechrau y mae'r gwaith, a bod yna gyfleoedd i symud i gyfeiriad y strwythur cyffredin hwn, dylid achub ar y cyfle hwnnw. Bydd hynny'n cyflymu'r camau i gyfeiriad darparu gwasanaethau ar y cyd, ac yn cynnig yr arweiniad rhanbarthol eglur fydd yn sylfaen ar gyfer y trefniadau cenedlaethol cryfach, o dan arweiniad y Cyngor Partneriaeth.
Mae'r dull hwn yn gydnaws â'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, er enghraifft: y cydweithio agos rhwng Byrddau Gwasanaethau Lleol Rhondda Cynon Taf a Merthyr, y cynlluniau sydd ar y gweill neu ar waith i benodi i swyddi uwch ar y cyd, er enghraifft rhwng Powys a Cheredigion, a Chaerffili a Blaenau Gwent, a rhwng awdurdodau lleol a'r Byrddau Iechyd Lleol yn y Gorllewin a Gwent. Mae'n adeiladu ar yr arweiniad rhanbarthol cydweithredol cryf yn y Gogledd ac yng Ngwent, lle mae'r prosiect henoed bregus yn enghraifft arloesol o droi arweiniad ar draws y sector cyhoeddus yn gamau ymarferol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn chwilio am gyfleoedd i gefnogi'r broses gysoni hon drwy ein gweithgareddau ein hunain. Nid ffordd o ad-drefnu llywodraeth leol yn y dirgel yw hyn. Mae'r dull hwn yn un gwell a chyflymach, sydd â'r nod o osod sylfaen sefydlog a hirdymor ar gyfer cydweithredu, fel y gall partneriaid fynd ati i gydgysylltu gwasanaethau er mwyn cwrdd ag anghenion unigolion a chymunedau ledled Cymru. Mae hefyd yn cynnig strwythur clir ac ymarferol a fydd yn golygu y gallwn symud yn gyflym i weithredu agenda Simpson, y rhoddais adroddiad arno yn fy natganiad cynharach.
Effeithlonrwydd ac arloesi
Yn fy natganiad cynharach, dywedais y byddwn yn cwrdd â'r rhai oedd yn arwain y rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi i drafod sut y byddwn yn llywio'r gwaith hwn yn awr er mwyn cefnogi'r diwygiadau sylweddol i wasanaethau cyhoeddus.
Fe wnaethom gwrdd yr wythnos diwethaf, a'u neges glir hwy oedd pa mor bwysig yw hi i drafod ag arweinwyr lleol os ydym am greu a gweithredu un weledigaeth gyffredin ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n cytuno â hynny, a byddaf yn ymateb.
Rwy'n bwriadu gwneud hynny mewn dwy ffordd.
Yn gyntaf, rwy'n bwriadu rhoi'r trefniadau i arwain a llywodraethau'r newid ar sylfaen gadarnach drwy eu gosod yn glir o fewn y Cyngor Partneriaeth. Y Cyngor yw'r fforwm statudol cenedlaethol sy'n dwyn ynghyd, ar y lefel uchaf, arweinwyr gwleidyddol Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Fe hoffwn i ymestyn ei aelodaeth i groesawu partneriaid eraill hefyd. Rwyf o'r farn mai dyma'r fforwm priodol i arwain ein hagenda ddiwygio uchelgeisiol.
Yn ail, byddaf yn creu cysylltiad cryf rhwng y Cyngor Partneriaeth a'r broses o roi'r diwygiadau i wasanaethau cyhoeddus ar waith ar lefel ranbarthol. Mae'n hanfodol cryfhau'r cysylltiad rhwng arweiniad lleol a rhanbarthol da a diwygio gwasanaethau ar lefel genedlaethol. Rydym wedi gweld arweiniad lleol yn arwain rhai datblygiadau arwyddocaol iawn. Mae yna le i symud ymhellach ac yn gyflymach drwy gael gwared ar rwystrau a grymuso uchelgais leol.
Fel yr wyf wedi'i grybwyll, mae'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn y Gogledd a Gwent ar hyn o bryd, lle mae arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithredu ar brosiectau newid uchelgeisiol, yn dangos y ffordd ymlaen. Rhaid creu cysylltiad cryf rhwng y dulliau gweithredu cadarn hyn ar lefel leol â'r arweinwyr gwleidyddol yn genedlaethol. Nod y newidiadau yr wyf yn eu cynnig yw cyflawni hynny, a byddaf yn trafod y trefniadau manwl gyda phartneriaid o fewn llywodraeth leol yng nghyfarfod y Cyngor Partneriaeth yr wythnos nesaf.
Casgliad
Byddaf yn cynnal trafodaethau manwl â phartneriaid ynghylch y trefniadau ymarferol a fydd yn sicrhau bod ein rhaglen i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei gweithredu'n effeithiol. Rwy'n ymateb heddiw i geisiadau clir iawn am arweiniad a chyfeiriad. Byddaf yn parhau i wrando ac i ddarparu'r arweiniad hwnnw wrth i ni symud ymlaen. Rwy'n deall na fydd pawb yn croesawu hyn, ac y bydd rhai weithiau'n teimlo'n anghyffyrddus, ond mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu bod yn bartner gweithgar wrth wella gwasanaethau cyhoeddus, a byddwn yn cwrdd benben â'r problemau y mae gofyn eu datrys.
Hoffwn atgoffa'r Aelodau bod gennym ni yng Nghymru ein hagenda ein hunain i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw ein dull ni o weithio yn dibynnu ar ddewis a marchnadoedd i wella pethau. Nid dull gweithredu damcaniaethol yw un Llywodraeth Cymru - mae'n un hynod ymarferol. Mae'n ddull gweithredol - nid yn un hyd braich. Mae'n canolbwyntio ar y materion sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau sy'n bwysig i bobl Cymru. Byddaf yn trafod hyn gyda phartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus dros yr haf, ac fe roddaf adroddiad pellach i'r Cynulliad wedi'r Toriad.