Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 – 2016

Yn dilyn gwahoddiad gan Gomisiynydd Iechyd yr Undeb Ewropeaidd (UE), Tonio Borg, siaradais yn Uwchgynhadledd yr UE ar Glefydau Cronig a gynhaliwyd ym Mrwsel ar 4 Ebrill. Gan gydnabod bod Cymru ymhlith y rhai sy’n arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â chlefydau cronig, fe ofynnodd imi, a Gweinidogion o sawl aelod-wladwriaeth arall, siarad am y pwysau y mae trin clefydau cronig yn eu rhoi ar systemau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Nod y digwyddiad oedd archwilio sut y gallwn ymdrin â chlefydau cronig mewn modd mwy effeithiol, a datblygu argymhellion ar gyfer dulliau cynaliadwy ac arloesol o ymateb i glefydau cronig yn y dyfodol.

Yn fy araith fe bwysleisiais mai ansawdd y gofal iechyd, ac nid dim ond maint y gofal, sy’n gwneud gwahaniaeth. Dywedais hefyd y bydd y dull darbodus rydym wedi’i fabwysiadu yng Nghymru yn sicrhau gwasanaethau mwy cynaliadwy, a hefyd yn gwella canlyniadau. Mae’r cynnydd a ragwelir mewn pobl sy’n dioddef o glefydau cronig yn peri pryder, ond rhaid inni wneud yn siŵr nad yw maint yr her yn ein dychryn i’r fath raddau nes ein bod yn methu camu ymlaen. Cyfeiriais at ein llwyddiant yn sicrhau gostyngiad fis ar ôl mis yn nifer y bobl â chlefydau cronig sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty mewn argyfwng. Manteisiais hefyd ar y cyfle i godi ymwybyddiaeth o’r cynigion deddfwriaethol uchelgeisiol i barhau i wella a diogelu iechyd yng Nghymru a amlinellais yn ddiweddar yn y Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd.

Soniodd Gweinidogion Ewrop (o Wlad Groeg, yr Eidal, Portiwgal ac Iwerddon), ynghyd â siaradwyr o sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd, y Comisiwn Ewropeaidd, a'r Sefydliad Cydweithredu a Datblygu Economaidd, y modd y byddant yn mynd i'r afael â chlefydau cronig.  Roedd nifer o bethau cyffredin wedi dod i'r amlwg, fel canolbwyntio mwy ar ganlyniadau iechyd, dulliau ataliol a chanfod problemau cyn gynted ag y bo modd, a hunan-reoli ac ailgyfeirio gwasanaethau at ddarpariaeth gwasanaethau gofal sylfaenol. Y thema fawr arall oedd yr angen am ddull trawslywodraethol o weithredu yn achos iechyd a llesiant.

Rwy'n rhannu'r un safbwyntiau a gafodd eu mynegi gan nifer yn yr Uwchgynhadledd, sef y byddai'n fanteisiol i'r UE weithredu ar y cyd i atal clefydau cronig, fel y gallwn ddysgu o'n gilydd, cyd-drefnu'n gwaith ymchwil, a cheisio sicrhau bod iechyd y boblogaeth yn cael ei integreiddio'n briodol i feysydd polisïau eraill, megis deddfwriaeth ar lygredd aer. Bellach, rwy'n edrych ymlaen at weld yr argymhellion ar flaenoriaethau ar gyfer camau gweithredu yn y dyfodol.

Roedd mynd i'r digwyddiad hwn hefyd wedi rhoi'r cyfle imi sôn am ein cynnig ym maes y gwyddorau bywyd i Joseph Jimenez, Prif Swyddog Gweithredol Novartis. Roedd ei araith yn canolbwyntio ar yr angen i fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n seiliedig ar yr hyn sydd wedi’i brofi i fod o fudd i gleifion -  sydd hefyd yn unol â'm safbwynt i am ofal iechyd darbodus.  

Roeddwn yn falch o gael cyfarfod â Tonio Borg, Comisiynydd Iechyd yr UE. Cawsom drafodaeth ddefnyddiol iawn am botensial e-iechyd, ac am ryddid pobl a gwasanaethau i symud.  Ces gyfle hefyd i'w longyfarch am lwyddo i lywio'r Gyfarwyddeb ar Dybaco drwy'r broses ddeddfwriaethol, trafod materion megis isafswm pris am bob uned o alcohol, a thynnais ei sylw at y prif gynigion ym Mhapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd.  
Yn ystod yr Uwchgynhadledd, cyfarfûm ag Yves Leterme, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol y Sefydliad Cydweithredu a Datblygu Economaidd, ac roedd yn falch gennyf glywed bod y sefydliad yn awyddus i ryngweithio mwy â llywodraethau datganoledig a hyrwyddo'n mentrau.  Cawsom gyfle hefyd i drafod adroddiad sydd ar y gweill am yr anghydbwysedd daearyddol o ran y nifer o feddygon sydd ar gael, a fydd yn cael dimensiwn rhanbarthol, a gwaith diweddar y Sefydliad Cydweithredu a Datblygu Economaidd ar iechyd plant a'r glasoed. Roedd gan Mr Leterme ddiddordeb arbennig yn ein gwaith ar roi organau ac e-sigaréts, a byddaf yn rhoi gwybod y newyddion diweddiaraf i'r Sefydliad Cydweithredu a Datblygu Economaidd wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Cyfarfûm â Dr Gauden Galea hefyd, y Cyfarwyddwr sy'n gyfrifol am gwrs Clefydau Anhrosglwyddadwy a Bywyd yn Adran Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd.  Mynegodd ddiddordeb mawr yn yr agenda ar gyfer gofal iechyd darbodus, ac yn y cyd-destun hwn fe gyfeiriodd at fenter sydd ar y gweill gan Sefydliad Iechyd y Byd i bennu set graidd o ymyriadau fforddiadwy ac effeithiol ar gyfer pob gwlad. Atgoffais ef am y traddodiad cryf o ran gweithgarwch ym maes iechyd y cyhoedd yng Nghymru, a chawsom drafodaeth am fy mhryderon ynglŷn â normaleiddio smygu drwy e-sigaréts, a'r ffaith y gallai hynny andwyo degawdau o gynnydd ym maes rheoli tybaco.

Roedd fy nhrafodaeth â Dr James Reilly, Gweinidog Iechyd Iwerddon, yn canolbwyntio ar amnewid opioidau, ac ar bris tybaco ac alcohol.  Rhoddodd grynodeb o ganlyniadau'r gwaith ymchwil sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd yn Iwerddon ar yr amnewidyn opiad mwyaf effeithiol i gynnig opsiwn rhag bod yn gaeth. Cawsom drafodaeth am amrywiaeth o bynciau a oedd yn ymwneud â thybaco ac alcohol a byddwn yn cael cyfle i drafod y pwnc penodol am isafswm pris am bob uned o alcohol â'n cymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.

Roedd cymryd rhan yn Uwchgynhadledd gyntaf yr UE yn gyfle gwych i ddysgu a rhannu gwybodaeth am ddulliau arferion gorau ac am y dystiolaeth ddiweddaraf. Bu'n fodd o gadarnhau bod llawer yn cael ei wneud i sicrhau ein bod yn parhau gwella’r ffordd yr ydym yn atal ac yn rheoli clefydau cronig yng Nghymru.

Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael gwybod y newyddion diweddaraf am unrhyw gamau pellach sy'n cael eu gweithredu yn dilyn yr Uwchgynhadledd.