Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog
Ar 7/8 Gorffennaf, mynychais y 37ain cyfarfod o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a gafodd ei gynnal gan Lywodraeth Guernsey. Roedd y Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd yn bresennol, gan ymuno â’r cyfarfod o bell.
Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Dirprwy Peter Ferbrache, Prif Weinidog Llywodraeth Guernsey. Roedd y cynrychiolwyr eraill a oedd yn bresennol yn cynnwys Micheál Martin TD, Taoiseach Iwerddon, y Gwir Anrh Nicola Sturgeon ASA, Prif Weinidog yr Alban, y Seneddwr John Le Fondré, Prif Weinidog Jersey, Alfred Cannan MHK, Prif Weinidog Ynys Manaw a'r Gwir Anrh Conor Burns AS, y Gweinidog Gwladol dros Ogledd Iwerddon.
Cyn prif gyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, cymerais ran mewn trafodaeth gyda phenaethiaid eraill y ddirprwyaeth ar yr argyfwng Costau Byw. Manteisiwyd ar y cyfle i rannu ein pryderon mwyaf dybryd, gan gynnig enghreifftiau o'r camau gweithredu y mae ein Llywodraethau yn eu cymryd a nodi’r meysydd lle yr oedd angen cymryd camau pellach. Fel rhan o hyn, pwysleisiais yr angen i gymryd camau gweithredu ar yr annhegwch pan fo cwsmeriaid ynni ar fesuryddion rhagdalu hefyd yn wynebu ffioedd sefydlog.
Cynllunio Gofodol Cydweithredol oedd thema'r cyfarfod hwn o'r Cyngor. Cymerodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ran yn rhithwir mewn trafodaeth ryngweinidogol adeiladol lle rhannwyd llawer o wybodaeth am y pwnc hwn cyn y cyfarfod o’r Cyngor, a thrafodwyd y mater yn y Cyngor hefyd. Nododd y Cyngor gyfleoedd posibl i adfywio ein trefi a’u gwneud yn fannau lle mae pobl am fyw, cynnal busnes, a threulio eu hamser hamdden, gan gyflawni ar yr un pryd amrediad o ganlyniadau ehangach sy’n cynnwys datblygu cynhwysol, mynd i’r afael â’r newid hinsawdd, cefnogi adferiad gwyrdd a hybu teithio llesol a chynaliadwy.
At hynny, trafododd y Cyngor y datblygiadau gwleidyddol diweddaraf gan gynnwys: yr argyfwng costau byw, yn enwedig ym meysydd tanwydd a thai; y berthynas barhaus â'r UE, a’r sefyllfa bresennol sy’n peri pryder o ran Protocol Gogledd Iwerddon; newid hinsawdd; y datblygiadau yn Wcráin a'r heriau parhaus a achosir gan y pandemig COVID-19.
Wrth gyfrannu at y drafodaeth hon, amlygais nifer o feysydd y mae angen iddynt barhau ar frig rhestr blaenoriaethau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig:
- yr argyfwng costau byw a’r angen am gamau pellach sylweddol i gefnogi aelwydydd sy’n agored i niwed sy’n cael trafferth gyda chostau cynyddol
- Wcráin, a’r rheidrwydd parhaus i gefnogi ffoaduriaid sy’n ffoi rhag y gwrthdaro
- effaith barhaus COVID-19, a fydd yn parhau i roi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus ac y mae angen sicrhau bod cynlluniau effeithiol ar y cyd ar waith ar gyfer y gaeaf sy’n dod
- effeithiau pryderus Brexit gan gynnwys ar fasnach a phorthladdoedd Cymru, a’r angen am welliannau yn y fasnach a’r berthynas ehangach rhwng y DU a’r UE
- newid hinsawdd, sy’n parhau i fod yn flaenoriaeth drosfwaol i bob Llywodraeth ac yn faes lle na ellir cyfaddawdu ar draul y cenedlaethau sydd i ddod wrth ymateb i faterion newydd.
Soniais yn fyr hefyd am ddatblygiadau gwleidyddol yn Llywodraeth y DU, a’r angen i’r Prif Weinidog nesaf ailosod perthnasoedd yn seiliedig ar ddeialog gynhyrchiol a pharchus.
Cyhoeddwyd Hysbysiad ar y cyd ar ôl y cyfarfod, sydd ar gael yn:
https://www.britishirishcouncil.org/bic/summits
Cyhoeddodd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020/21 ym mis Mehefin, sydd ar gael yn:
https://www.britishirishcouncil.org/
Bydd Uwchgynhadledd nesaf y Cyngor yn cael ei chynnal gan Lywodraeth y DU.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os hoffai’r Aelodau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.