Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Mae safleoedd glo brig wedi cael llawer o sylw gan newyddiadurwyr a gwleidyddion yn y misoedd diwethaf ac rwy’n ofidus iawn ynghylch effeithiau tymor hir peidio â’u hadfer ar gymunedau sy’n byw wrth eu hymyl. Cyhoeddais fy mwriad i alw cynhadledd o’r holl brif randdeiliaid yn y sector glo brig yn ystod Dadl yr Aelodau Unigol yn y Cynulliad ar 22 Ebrill.
Diben y gynhadledd ar 9 Gorffennaf 2015 oedd trafod ac ystyried â’r holl randdeiliaid sut i drechu’r heriau sy’n gysylltiedig â llwyr-adfer safleoedd mewn ffordd gynaliadwy pan ddaw oes safle glo brig i ben. Addewais y byddwn yn ystyried y cyfraniadau ac yn nodi fy mwriadau ar gyfer y dyfodol mewn datganiad ysgrifenedig.
Daeth cynrychiolwyr o awdurdodau cynllunio ym maes glo’r De a Llywodraeth yr Alban, arbenigwyr technegol a chyfreithiol, gweithredwyr a gweithwyr safleoedd ac unigolion o grwpiau cymunedol sy’n weithgar yn yr ardal, ynghyd ar gyfer y gynhadledd. Roedd ACau a’u cynrychiolwyr hefyd yn bresennol.
Roedd bwriad y dydd yn glir; didoli holl gyfraniadau’r cynrychiolwyr yn nifer o egwyddorion ymarferol allweddol a fyddai’n sail ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer cael hyd i atebion addas.
Clywodd y cynadleddwyr sut mae’r farchnad fyd-eang a grymoedd ariannol eraill yn creu anawsterau i’r diwydiant; bod cymunedau penodol yn dioddef oherwydd safleoedd glo brig penodol a hefyd oherwydd diffyg gwaith adfer a lliniaru; a bod gwasanaethau mwynau awdurdodau cynllunio lleol yn ei chael hi’n anodd diogelu eu hadnoddau staff ac arbenigeddau. Rhoddwyd hefyd nifer o syniadau creadigol ger bron i’w trafod ymhellach.
Daeth yn amlwg fod y sefyllfa’n un gymhleth – mae cymysgedd o heriau strategol a lleol i fynd i’r afael â nhw a byddan nhw’n dylanwadu ar yr atebion sy’n bosibl.
Gan edrych tua’r dyfodol, mae consensws clir bod angen gwneud rhagor o waith yn y meysydd canlynol:
- cryfhau’r gwasanaeth cynllunio mwynau yng Nghymru trwy grynhoi sgiliau ac arbenigeddau;
- ennyn diddordeb awdurdodau lleol, diwydiant a’r cymunedau yn y gwaith sy’n cael ei wneud ar y cyd gan Lywodraeth Cymru / yr Awdurdod Glo i baratoi canllawiau ar yr arferion gorau ynghylch cyfrif, crynhoi a rheoli bondiau gyda golwg ar greu sylfaen gyson ar gyfer trafodaethau ledled Cymru;
- adolygiad manwl o MTAN2, a fyddai’n cynnwys ystyried yr eithriadau i bolisi’r parthau clustogi;
- dechrau deialog gyda Llywodraeth y DU, yn enwedig eu rhan yn hen safleoedd (yn enwedig y safleoedd portffolio lle roedd imiwnedd rhag bondiau) a chyflwyno ymatebion ar gyfer digwyddiad dilynol yn y dyfodol.
Ynghylch y pwynt olaf hwn, cefais gyfarfod ddoe ag Andrea Leadsom, Gweinidog Ynni DECC. Bu’n drafodaeth lawn a di-flewyn ar dafod lle pwysleisiais farn glir y gynhadledd fod cyfran fawr o’r problemau adfer y mae cymunedau yng Nghymru yn awr yn eu hwynebu yn deillio o’r broses breifateiddio ddiffygiol a ddigwyddodd yn y 1990au. Cytunodd Andrea Leadsom i lunio proses ar gyfer deialog adeiladol.