Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddydd Gwener 8 Gorffennaf, cynhelais Uwch-gynhadledd lwyddiannus yng Ngogledd Cymru gyda rhanddeiliaid o bob ochr i’r ffin i drafod sut y gallai Gogledd Cymru fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd economaidd ar draws y rhanbarth.

Cafodd ganfyddiadau Adolygiad Economaidd Annibynnol gan Northern Powerhouse ei lansio gan Syr Richard Leese, John Cridland a’r Arglwydd O'Neill yn Lerpwl ar 30 Mehefin. Mae’n hollbwysig bod Gogledd Cymru yn cael ei chynnwys yn y cynllun economaidd pwysig hwn, ac fe fyddaf yn trefnu cyfarfodydd gyda Llywodraeth y DU i bwyso ar y mater hwn.  

Hefyd yn yr Uwch-gynhadledd oedd Is-ysgrifennydd Cymru a nifer o gynrychiolwyr o amrywiol sefydliadau busnes gan gynnwys Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Ffederasiwn y Busnesau Bach, CBI, CLlLC, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, cadeiryddion Ardal Fenter Cymru, Siambr Swydd Gaer a Gogledd Cymru a Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy.

Rwy’n teimlo y gallwn helpu i ddatblygu bwa o ffyniant o Gaergybi i Wrecsam ac ymlaen i Lerpwl, Manceinion, Leeds a thu hwnt. Yn y cyfarfod, buom yn trafod sut y gellir cyflymu datblygiadau economaidd ar draws y ffin i helpu i gyflawni’r weledigaeth hon, drwy amrywiol fentrau fyddai o fantais i bawb, gan gynnwys moderneiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth, strategaeth economaidd clir ar draws y ffin a gweithredu economaidd cadarn ar draws y ffin.

Mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a chyrff cynrychioladol wedi bod yn cydweithio’n agos am gryn amser bellach i nodi prosiectau addas i gynnwys datblygu cais i ymateb i  Ganghellor y Trysorlys sydd wedi gwahodd cynigion am Fargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru, gan gysylltu â’r Northern Powerhouse.

Rydym bellach wedi cytuno i sefydlu gweithgor bychan i adolygu a llywio’r gwaith hwn a byddaf yn cyfarfod ag arweinwyr Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn eu cyfarfod ddydd Gwener yma, y 15fed Gorffennaf. Byddaf hefyd mewn cyfarfod â’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol yn ardal y Mersi a’r Ddyfrdwy a byddwn yn ymgynghori’n eang â phartneriaid cymdeithasol ac Undebau Llafur fel rhan o’n blaenoriaethau economaidd ehangach am economi lewyrchus a diogel.

Byddaf yn parhau i roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau wrth i faterion ddatblygu gyda’r gwaith hwn.