Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar Rhagfyr 1 cyhoeddais Datganiad Ysgrifenedig ar y Ddatganiadau o Ddiddordeb a derbyniwyd gan Awdurdodau Lleol i uno yn wirfoddol. O’r tri datganiadau o ddiddordeb a dderbyniwyd, mae un yn  unol â opsiwn gorau Llywodraeth Cymru, er nad oedd y ddau arall yn ei wneud.   Er fy mod wedi fy nghalonogi gan y rhai sydd wedi achub ar y cyfle hwn, mae’n siomedig nad yw unrhyw Awdurdodau Lleol eraill wedi cydnabod y cyfle o uno yn wirfoddol yn cynnig iddynt i fod o flaen y gad o lunio rôl Llywodraeth Leol yn y dyfodol yng Nghymru.   Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar y broses o adolygu’r Datganiadau o Ddiddordeb a ddebyniwyd, ond mae llawer o gwestiynau manwl sydd angen eglurhad bellach gan Awdurdodau Lleol cyn ein bod yn gallu dod i’r casgliad o’n hystyriaeth.   O ganlyniad, ni fyddwn yn awr yn ymateb yn ffurfiol i’r Awdurdodau Lleol perthnasol erbyn 5 Ionawr 2015. Byddaf yn gwneud datganiad pellach yn y flwyddyn newydd.