Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy natganiad ysgrifenedig dyddiedig 11 Rhagfyr 2014, esboniais y byddwn yn oedi cyn cyhoeddi fy mhenderfyniad ar bob un o'r Datganiadau o Ddiddordeb a gyflwynwyd gan Awdurdodau Lleol a oedd yn dymuno datblygu cynnig ar gyfer Uno Gwirfoddol. Rwy’n cyhoeddi’r penderfyniadau hynny heddiw.

Rwy'n croesawu'r arweinyddiaeth a ddangosir gan Arweinwyr gwleidyddol pob un o'r awdurdodau o dan sylw a'u parodrwydd i helpu i lunio eu dyfodol. Rwy’n deall bod sicrhau cytundeb gan eu darpar gynghorau partner wedi cymryd cryn dipyn o waith ac ymrwymiad personol.

Derbyniais dri Datganiad o Ddiddordeb ffurfiol yn unol â'r amserlen a nodwyd yn Prosbectws y cyhoeddais ym mis Medi 2014 . Roedd y rhain gan yr awdurdodau canlynol:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent;
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bro Morgannwg; a
  • Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych.


Rwyf wedi ystyried pob Datganiad o Ddiddordeb yn ofalus yn erbyn y meini prawf a nodir yn y Prosbectws. Mae’n siomedig i mi nodi, ar sail yr asesiad hwn, nad wyf wedi fy argyhoeddi bod unrhyw un o'r Datganiadau hyn o Ddiddordeb yn bodloni'r meini prawf yn ddigonol ar gyfer symud ymlaen i baratoi Cynnig Uno Gwirfoddol llawn.

Er bod rhai agweddau cadarnhaol ar bob Datganiad o Ddiddordeb, roedd y Prosbectws yn glir ynghylch yr hyn fyddai'n ofynnol. Roedd hyn yn cynnwys yr angen i’r ddau awdurdod oedd yn gwneud cais amlinellu gweledigaeth gymhellol ar gyfer yr awdurdod newydd a rhoi sicrwydd y byddai’r trefniadau ar ôl uno yn lleihau cymhlethdod, yn gwella cydlyniant, ac yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn mynd i’r un cyfeiriad. Lle’r oedd cynigion yn ymwahanu oddi wrth ein map llawn a ffefrir (Williams Opsiwn 1), roedd disgwyl i awdurdodau ddarparu tystiolaeth o amgylchiadau eithriadol o ran pam y dylent gael eu cymeradwyo. Roedd hefyd angen i ni fod yn hyderus y byddai awdurdodau yn gallu datblygu cynigion uno cynhwysfawr erbyn 30 Mehefin 2015.

Yn gynharach, siaradais ag Arweinwyr yr holl awdurdodau oedd wedi cymryd rhan i roi gwybod iddynt am fy mhenderfyniad a byddaf yn ysgrifennu at bob un ohonynt yn fuan i nodi rhesymau manylach dros bob penderfyniad.

Fel y gŵyr yr Aelodau, cyhoeddwyd Bil Llywodraeth Leol (Cymru) ddoe. Mae'n cynnwys darpariaethau i alluogi Uno Gwirfoddol y byddai angen cytuno arnynt erbyn 30 Tachwedd 2015. Byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i'r darpariaethau hyn wrth i'r Bil fynd rhagddo.


Nodyn

Mae’r Datganiadau o Ddiddordeb wedi cael eu cyhoeddi gan y cynghorau dan sylw a gellir eu gweld yn:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen Y Bont a Pen-Cyngor Bro Morgannwg: http://www.google.co.uk/url?url=http://www.bridgend.gov.uk/web/groups/public/documents/agenda_moderngov/115948.pdf&rct=j&frm=1&q=&esrc=s&sa=U&ei=EnjGVJLRLNCv7Ab40oHABQ&ved=0CBQQFjAA&usg=AFQjCNHq6MXAlHZ8DITshyG92L4dKUBkbw


Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych:

https://moderngov.denbighshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=134&MId=5052&LLL=0


Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (fersiwn drafft):

http://moderngov.torfaen.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=137&MId=1165&Ver=4&LLL=0