Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 4 Tachwedd cynrychiolais Lywodraeth Cymru yn unfed cyfarfod ar bymtheg Sector Gwaith Amgylcheddol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.  Cynhaliwyd y cyfarfod yn rhithwir ac fe'i cadeiriwyd gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Faterion Gwledig a Bioddiogelwch, yr Arglwydd Gardiner o Kimble, ar ran Llywodraeth y DU. Hefyd yn y cyfarfod roedd:

  • Llywodraeth Iwerddon, yn cael ei chynrychioli gan Mr Eamon Ryan TD, y Gweinidog Trafnidiaeth a Gweinidog yr Amgylchedd, Hinsawdd a Chyfathrebu.
  • Llywodraeth yr Alban, yn cael ei chynrychioli gan Roseanna Cunningham ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Newid yn yr Hinsawdd a Diwygio Tir.
  • Llywodraeth Ynys Manaw, yn cael ei chynrychioli gan Geoffrey Boot MHK, Gweinidog yr Amgylchedd, Bwyd ac Amaethyddiaeth.
  • Llywodraeth Jersey, yn cael ei chynrychioli gan y Dirprwy John Young, Gweinidog yr Amgylchedd.
  • Llywodraeth Guernsey, yn cael ei chynrychioli gan y Dirprwy Lindsay de Sausmarez, Llywydd Pwyllgor yr Amgylchedd a Seilwaith.
  • Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, yn cael ei chynrychioli gan y Gweinidog Edwin Poots ACD, y Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

Roedd y cyfarfod yn canolbwyntio ar sut y gall y gweinyddiaethau gydweithio ar ymaddasu hinsawdd, mynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol estron (INNS) a mynd i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd morol.

Croesawais y cyfle i rannu’r arferion gorau ehangach mewn perthynas â rheoli Cacwn Asia, yn enwedig â Guernsey a Jersey y mae'r rhywogaeth hon wedi effeithio'n sylweddol arnynt.

Amlinellais sut rydym yn parhau i gefnogi ymgyrch 'Edrych Golchi Sychu' ac yn ddiweddar hyrwyddo ail-lansio’r ymgyrch 'Mynd at Wraidd y Mater' yn ystod 'Wythnos Iechyd Planhigion' ym mis Medi 2020.

Mae arferion bioddiogelwch da yn allweddol i leihau'r risg o gyflwyno a lledaenu rhywogaethau goresgynnol estron. Gofynnais felly i weld camau gweithredu ar fioddiogelwch a lleihau risg yn cael eu blaenoriaethu, protocolau bioddiogelwch ar gyfer y diwydiant dyframaeth morol, cydweithio ar weithredu i leihau'r risg a achosir gan anifeiliaid anwes, sŵau bach a chanolfannau achub anifeiliaid a Thasglu Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar Gacwn Asia yn cael ei sefydlu.

Rwy’n croesawu y gwaith parhaus o gefnogi’r ymrwymiadau a gytunwyd yn symposiwm sbwriel morol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn 2018, gan gynnwys ein hatebion cynaliadwy ar gyfer offer pysgota diwedd oes.  Rwy’n gweld yr heriau amrywiol sydd gan ein amgylchedd morol ac yn croesawu ein dull cydweithredol parhaus o gadw a defnyddio ein moroedd yn gynaliadwy.  

Yn ystod y misoedd nesaf bydd Asesiad Risg Newid Hinsawdd 3, sydd ar y gweill gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer y pedair gweinyddiaeth yn y DU, yn garreg filltir bwysig arall lle mae angen inni gydweithio wrth inni ddatblygu ein hymatebion cadarn ar draws y Llywodraeth i'r risgiau mwyaf brys.

Mae Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn gyfle pwysig i Aelod-weinyddiaethau gydweithio a rhannu arferion da ar y materion cyffredin rydym yn eu hwynebu.  Yr oeddwn yn glir bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith a wneir ar draws y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a’r wybodaeth werthfawr a rennir pan ddeuwn at ein gilydd.

Wedyn bu trafodaeth am y blaengynllun gwaith nesaf. Roedd pawb a oedd yn bresennol yn cytuno ar y cynllun arfaethedig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Derbyniwyd diweddariadau eraill gan y gweinyddiaethau gyda'r nod cyffredin o gefnogi’n llawn uchelgais Cyngor Prydain-Gwyddelig i sicrhau rhagor o ffocws ar gydnerthedd yn yr hinsawdd ac ymaddasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd wrth inni nesáu at COP26 y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddwyd pwyntiau trafod allweddol yr unfed cyfarfod ar bymtheg mewn neges at bawb.

https://www.britishirishcouncil.org/communique/ministerial-meetings