Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Rwy'n cyflwyno'r Datganiad Ysgrifenedig hwn er mwyn hysbysu'r Aelodau fy mod yn bwriadu dyfarnu £1,222,688 er mwyn rhoi hwb i dwf Undebau Credyd Cymru eleni. Bydd y cyllid hwn yn cynorthwyo 16 o Undebau Credyd i ddenu aelodau newydd a bydd yn cefnogi nifer o brosiectau newydd sydd wedi'u pennu gan Undebau Credyd fel rhai sy'n cefnogi cynaliadwyedd.
Mae Undebau Credyd yn agwedd allweddol ar ein hagenda ar gyfer Trechu Tlodi. Wrth fynd i'r afael â'r agenda hon rwy'n awyddus i gynorthwyo cymaint â phosibl o bobl fel y gallant reoli eu harian a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae'r adeg yma o'r flwyddyn, yn syth ar ôl prysurdeb y Nadolig, yn anodd iawn i deuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd i ddal dau ben llinyn ynghyd. Mae gan Undebau Credyd, sy'n sefydliadau nad ydynt yn gwneud elw, swyddogaeth hollbwysig wrth gynorthwyo teuluoedd i wynebu a cheisio datrys eu problemau ariannol.
Mae Undebau Credyd yn galluogi pobl i fenthyca arian ar gyfraddau fforddiadwy. Maent hefyd yn addas iawn ar gyfer pobl sydd wedi wynebu anawsterau â chredyd yn y gorffennol, sy'n golygu nad oes modd iddynt fenthyca arian gan y benthycwyr mawr. Maent yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i geisio trechu tlodi. O'r herwydd mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dyrannu arian i'r Undebau ers 2010 drwy ein Prosiect Undebau Credyd sy'n rhan o'r rhaglen Mynediad at Gynnyrch Ariannol er mwyn eu galluogi i ddatblygu'n rhwydwaith cynaliadwy sy'n hyfyw yn ariannol.
Hoffwn weld Undebau Credyd sy'n gwbl gydnerth yn ariannol ac sy'n cydweithio mewn modd effeithiol, a hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn parhau i geisio trechu tlodi. Byddwn hefyd yn hoffi gweld Undebau Credyd yn cynnig gwasanaethau amrywiol a fydd yn denu pobl ar incwm canolig a hefyd yn cynorthwyo pobl ar incwm isel y mae arnynt angen cymorth ac arweiniad ariannol. Er enghraifft, hoffwn weld Undebau Credyd yng Nghymru'n darparu gwahanol wasanaethau gan gynnwys benthyciadau sydd ar gael i unigolion sydd wedi'u hallgáu'n ariannol. Byddai hyn yn annog pobl i gynilo a byddai'n sicrhau bod cyfrifon cyllidebu ar gael i bawb. Y nod fyddai cynorthwyo pobl i ymdopi â'r drefn newydd o ran y budd-dal tai.
Roeddwn yn falch iawn i gymeradwyo'r arian ychwanegol hwn. Bydd y cyllid yn cynorthwyo'r Undebau Credyd i gynnal 19 o brosiectau a fydd yn eu galluogi i dyfu a dod yn fwy cynaliadwy. Mae'r Undebau Credyd wedi pennu'r prosiectau hyn fel rhai a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu'n gyrff mwy cynaliadwy. Amrywia'r prosiectau o ymgyrch marchnata i gynyddu aelodaeth i sicrhau gwelliannau i dechnolegau swyddfa gefn er mwyn gwella effeitlonrwydd. Bydd prosiectau peilot hefyd yn cael eu cynnal er mwyn cydweithio â charcharorion a datblygu cynnyrch newydd ar gyfer cwsmeriaid.
Mae'r dyraniad sylweddol hwn yn tystio i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi adnoddau er mwyn galluogi'r Undebau Credyd i barhau i gydweithio â'n trigolion sydd fwyaf agored i niwed. Mae'r Undebau Credyd wedi fy sicrhau eu bod yn barod i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn parhau â'r gwaith hwn a chefnogi'r bobl sydd wedi'u hallgáu'n ariannol. Mae llawer iawn o waith caled i'w wneud yn awr er mwyn sefydlu'r prosiectau felly bydd angen i'r holl Undebau Credyd a'r Cymdeithasau Masnach gydweithio.
Bydd yr hwb ariannol hwn yn cynorthwyo'r Undebau Credyd i dyfu'n gyflymach a chyrraedd rhagor o bobl o fewn eu cymunedau, gan sicrhau eu bod yn fwy cynaliadwy yn yr hirdymor. Yn ddiamau gall Undebau Credyd wneud llawer iawn i geisio trechu tlodi. Mae'n hollbwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i alluogi'r Undebau Credyd i dyfu, gan ddatblygu'n sefydliadau cynaliadwy. Byddai hynny'n golygu bod modd i ragor o bobl elwa ar eu gwasanaethau a hefyd gynilo a derbyn benthyciadau ar gyfraddau llog tecach.
Rwy'n awyddus iawn i helpu'r Undebau Credyd i wneud hyn. Er bod y cyllid y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i roi i'r Undebau Credyd wedi'u galluogi i gynyddu eu haelodaeth yn sylweddol, i oddeutu 73,000 o aelodau, hoffwn weld nifer y bobl sy'n defnyddio undebau credyd yn cynyddu eto, gan gynrychioli 6% o'r boblogaeth erbyn 2020.
Mae'r targed hwn yn sicr yn uchelgeisiol ac felly gofynnais i'm cyd-Weinidogion ym mis Rhagfyr i hybu'r defnydd o Undebau Credyd o fewn y Sector Cyhoeddus. Rwyf wedi gofyn i bob Gweinidog gyfleu'r neges bod gwasanaethau'r Undebau Credyd ar gael i bawb. Mae Undebau Credyd yn cynnig dulliau rhagorol o gynilo a benthyca arian a byddai o fudd i bawb petai gweithwyr ar draws y sector cyhoeddus yn cael eu hannog i'w defnyddio. Gwnaeth fy nhrafodaethau ag Archesgob Cymru ym mis Tachwedd hefyd dynnu sylw at y ffaith bod Undebau Credyd yn opsiwn gwych i bawb. Rydym wedi cytuno y byddwn oll yn cydweithio er mwyn parhau i gyfleu'r neges i bob rhan o'n cymdeithas.
Yn anffodus mae mwy a mwy o bobl yn wynebu problemau ariannol ac felly'n troi at fenthycwyr diwrnod cyflog. Mae angen mynd ati ar fyrder i gynorthwyo pobl i reoli eu harian yn well, gan sicrhau nad oes yn rhaid iddynt fyth droi at gwmnïau o'r fath. Er na all Undebau Credyd sicrhau na fydd neb yn troi at fenthycwyr diwrnod cyflog, gallant gynorthwyo llawer iawn o bobl i reoli eu harian a hefyd gynnig telerau credyd lawer rhatach a thecach.
Bydd yr £1,222,688 yr ydym yn ei ddyfarnu yn cynorthwyo deuddeg prosiect lleol a saith prosiect mawr. Rwyf eisoes wedi datgan fy mwriad i gydweithio â'r Undebau Credyd er mwyn ceisio mynd i'r afael â chynhwysiant ariannol a cheisio trechu tlodi. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y prosiectau a fydd ar waith o fewn y misoedd nesaf yn helpu i sicrhau bod yr Undebau Credyd yn datblygu'n gyrff mwy cynaliadwy.