Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU ac amlinellu’r rhaglen o ddigwyddiadau fydd ar waith yng Nghymru yn ystod 2022.
Bydd y rhaglen yn cyflwyno 10 comisiwn ledled y DU, sef pedwar comisiwn cenedlaethol a chwech digwyddiad arall ar draws y DU.
Yr uchelgais gyffredinol yw gadael gwaddol parhaol a darparu rhaglen o weithgareddau sy'n gweithio gyda sectorau'r celfyddydau, diwylliant, dylunio, treftadaeth a thechnoleg, drwy gydweithio â STEAM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg).
Mae'r gweithgarwch cyffredinol yn cael ei gydlynu gan dîm bach ym Mhwyllgor Trefnu Birmingham ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022, wedi’i arwain gan Martin Green CBE sef prif swyddog creadigol UNBOXED. Bydd y tîm hwn yn gweithio gyda phartneriaid cyflawni strategol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i oruchwylio'r gwaith o gyflawni UNBOXED. Mae’r gwaith hwn yn cael ei oruchwylio gan fwrdd sy'n cynnwys cynrychiolydd o bob gwlad. Cymru Greadigol sy'n arwain y gwaith o ddatblygu gweithgarwch Cymru ac mae Roger Lewis wedi cael ei ddewis i gynrychioli Cymru ar fwrdd y DU.
Bydd Cymru yn cynnal ei phrosiect comisiwn arweiniol o'r enw GALWAD: Stori o'n Dyfodol, a gafodd ei ysbrydoli gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a chan arbenigedd byd-eang yn ymwneud ag amodau hinsoddol, technolegol a chymdeithasol y 30 mlynedd nesaf. Mae cymunedau ledled Cymru yn dychmygu bywyd yn 2052, i greu byd stori GALWAD.
Mae’r broses hon o “adeiladu byd” – bydoedd ffuglennol, ond credadwy sy’n cael eu dychmygu ar gyfer ffilmiau neu gemau – yn cael ei harwain gan Alex McDowell, dylunydd cynhyrchu’r ffilm Minority Report ac o stiwdio Experimental Design. Mae tua 120 o bobl o bob cwr o Gymru wedi cymryd rhan ar-lein ac ar leoliad ym Mlaenau Ffestiniog, Machynlleth, Merthyr Tudful ac Abertawe.
Mae'r “adeiladwyr byd” wedi cael eu cefnogi gan rwydwaith o bartneriaid cymunedol, gan gynnwys Citizens Cymru, Celfyddydau Anabledd Cymru, CellB, Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful, y Tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid (EYST), ac yn cael eu gynnal gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen, cwmni theatr Frân Wen ac Experimental Design.
Bydd byd stori 2052 yn sail i GALWAD – math newydd o stori amlblatfform, amlieithog, a fydd yn dod yn fyw drwy gydweithrediad unigryw rhwng y cymunedau hyn yng Nghymru, talent greadigol eithriadol ym maes dylunio cynhyrchu, technoleg greadigol, perfformiad byw, dylunio sain, drama radio a theledu a gwaith ymchwil a gydnabyddir yn fyd-eang ynghylch yr amodau y gallem eu hwynebu ymhen 30 mlynedd.
Mae’r rhaglen UNBOXED ar draws y DU yn cael cymorth cyllid gwerth £120m, sydd wedi arwain at oddeutu £6.8m i Gymru dros bedair blynedd ariannol rhwng 2019-20 a 2022-23.
Rwy'n falch o'r ffordd y mae'r prosiect wedi bod yn mynd rhagddo ac rwy'n edrych ymlaen at weld y comisiwn terfynol tua diwedd mis Medi/dechrau mis Hydref.
Yn ogystal, mae’n wych gweld faint o bobl sydd wedi cael eu cyflogi drwy'r prosiect gan roi cyfleoedd sydd eu hangen yn fawr yn y sector. Mae hyn yn cynnwys datblygu Cwmni Ifanc GALWAD – rhwydwaith o leisiau ifanc ledled Cymru a fydd yn helpu i lunio a chyfleu'r prosiect, gan dderbyn cymorth a hyfforddiant. Bydd y Cwmni Ifanc yn cael ei ffurfio o 12 o bobl rhwng 18 a 25 oed a fydd yn derbyn cynllun hyfforddi wedi'i deilwra, y byddant yn ei gyd-ddylunio, cyfres o fentoriaid personol, a lleoliad ar brosiect GALWAD a gefnogir gan fwrsariaeth â thâl o £6,000.
GALWAD fydd yr olaf o'r comisiynau, ac felly dyma fydd diweddglo rhaglen gyffredinol UNBOXED. Bydd pedwar comisiwn arall ar waith yng Nghymru drwy gydol 2022, gan arwain at GALWAD, sef:
Amdanom Ni / About Us: Mae Amdanom Ni yn defnyddio mapio taflunio arloesol, animeiddio, cerddoriaeth, barddoniaeth a pherfformiad byw i ddathlu cysylltiadau rhyfeddol â phopeth o'n cwmpas: y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Wedi'i chreu gan 59 Production, Stemettes a The Poetry Society ar y cyd â beirdd a gwyddonwyr ledled y DU, bydd y sioe am ddim hon yn cael ei thaflunio yn ystod y nos ar dirnodau yng Nghaernarfon, Derry-Londonderry, Hull, Luton a Paisley. Dyddiadau Caernarfon yw 30 Mawrth tan 5 Ebrill.
Dreamachine: Wedi’i greu gan Collective Act mewn cydweithrediad ag Assemble, enillwyr ar y cyd Wobr Turner, cerddor a enwebwyd am Grammy, Jon Hopkins, a thîm o wyddonwyr a thechnolegwyr arloesol, cafodd Dreamachine ei ysbrydoli gan ddyfais eithriadol o 1959 gan yr artist-ddyfeisiwr Brion Gysin. Bydd Dreamachine yr 21ain ganrif yn tywys cynulleidfaoedd drwy amgylchedd o olau a sain. Bydd yr un mor gyfoethog a disglair ag unrhyw efelychiad digidol, ond bydd wedi'i greu gennych chi ac yn unigryw i chi.
Daw’r byd caleidosgopig a ddatgelir gan y Dreamachine o'r tu mewn, gan roi cip hudolus ar botensial eithriadol ein meddyliau ein hunain.
Dyddiadau disgwyliedig Caerdydd: rhwng canol mis Mai a chanol mis Mehefin.
Goleuo’r Gwyllt / Green Space, Dark Skies: dyma daith ddofn i'n tirweddau naturiol: cyfres o gynulliadau sy'n dathlu ein cefn gwlad, ein hawl i'w harchwilio, a'n cyfrifoldeb i ofalu amdano ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gan ddefnyddio goleuadau bach eu heffaith, bydd ‘Goleuwyr’ gwirfoddol lleol yn helpu i greu cyfres o ddigwyddiadau unwaith mewn oes yn yr awyr agored gyda’r nos, gan greu gwaith celf awyr agored eithriadol. Bydd y digwyddiadau pwerus hyn yn cael eu cofnodi ar gamera cyn y diweddglo ar draws y DU gyfan, a ddarlledir i filiynau o bobl.
Dyddiad Gŵyr: 13 Mai
Dyddiad Bannau Brycheiniog: 5 Gorffennaf
Dyddiad Ynys Môn (yn gallu newid): 17 Awst
Dyddiad y diweddglo ym Mharc Cenedlaethol Eryri: 27 Medi
StoryTrails: Gan ddefnyddio cymysgedd o brofiadau realiti estynedig a rhithwir sy'n ail-greu archifau'r BFI a'r BBC, bydd cynulleidfaoedd yn profi hanes yn y lle y digwyddodd, gan ddod â'r bydoedd ffisegol a digidol at ei gilydd. Byddant yn ailadrodd stori pob lle a'i phobl drwy dechnolegau ymgolli sy'n dwyn ynghyd archifau ein cyfryngau cenedlaethol, ‘hunluniau’ 3D newydd cyffrous o bobl a lleoedd i greu’r ‘archif ofodol’ gyntaf yn y byd.
Dyddiadau Abertawe: 10-11 Awst
Dyddiadau Casnewydd: 13-14 Awst
Cyn bo hir, bydd UNBOXED yn dechrau ei ymgyrch i lansio’r rhaglen cyn y digwyddiad cyntaf yn Paisley ar 1 Mawrth.
Byddwn yn annog yr aelodau i gael blas ar y gweithgareddau yn eu hetholaethau ac ar draws Cymru.