Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod heddiw yn cyhoeddi'r papur gwyn Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn: Cynllunio Bysiau fel Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru. Mae'r papur gwyn yn cynnig newidiadau i'r ffordd mae gwasanaethau bysiau'n cael eu darparu yng Nghymru, er mwyn cynllunio a darparu rhwydwaith bysiau sy'n addas i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n addas i bobl Cymru.

Mae bysiau'n wasanaeth hanfodol i lawer o bobl, ond ar hyn o bryd ni allwn ni gynllunio a dylunio rhwydweithiau bysiau i ddiwallu anghenion pobl, naill ai yn ein dinasoedd a'n trefi nac ar gyfer ein cymunedau gwledig. Rhaid inni newid hyn a darparu gwasanaeth gwell os ydyn ni am dorri ein dibyniaeth ar y car preifat. Nod y papur gwyn hwn yw dangos sut rydyn ni’n bwriadu gwneud hyn.

Mae teithwyr yn ganolog i'n cynigion. Mae ar bobl angen rhwydwaith hawdd ei ddeall sydd wedi'i gynllunio'n dda; un system docynnau hawdd ei defnyddio; a gwasanaethau dibynadwy ag un brand cyffredin. Mae'r papur gwyn yn cynnig model masnachfreinio i gyflawni hyn, ac adeiladu rhwydwaith o fysiau sy'n gysylltiedig â'r system drafnidiaeth ehangach.

Bydd y model hwn yn caniatáu i rwydwaith gael ei gynllunio rhwng y 22 Awdurdod Lleol mewn modd cydgysylltiedig, drwy'r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig rhanbarthol, gan ganolbwyntio ar ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl. Yn y pen draw Gweinidogion Cymru fydd yn gyfrifol am sicrhau bod cynllun rhwydwaith cenedlaethol yn cael ei lunio a'i gyflawni ar gyfer gwasanaethau bysiau ledled Cymru.  Yn hytrach na chystadlu am sgiliau masnachfreinio a phrofiad ledled Cymru, rydyn ni’n cynnig creu tîm masnachfreinio canolog o fewn Trafnidiaeth Cymru, a fydd yn gweithredu ar ran Gweinidogion. Bydd y tîm masnachfreinio arfaethedig yn helpu awdurdodau lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig i gynllunio'r rhwydwaith a rhoi a rheoli contractau masnachfraint, ar ran Gweinidogion Cymru, gan sicrhau bod gan Gymru gyfan fynediad i'r un pŵer ac adnoddau er gyfer caffael. Bydd hyn hefyd yn helpu gyda'r dyhead i gysylltu â'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus llawn er mwyn gwneud gwasanaethau sy’n defnyddio un rhwydwaith, un amserlen ac un tocyn yn realiti.

Mae'r model hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio ar y cyd rhwng pob lefel o Lywodraeth yng Nghymru. Mae’r modelau masnachfreinio gorau mewn gwledydd eraill yn dibynnu ar un 'grŵp llywio', sy'n ddod â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol at ei gilydd i gynllunio a darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mor effeithiol ag y gallan nhw. Ein nod yw defnyddio grŵp o'r fath, gan gynnwys cynrychiolwyr gweithredwyr, staff a theithwyr, i ddod â phob lefel o system fysiau Cymru at ei gilydd a sicrhau ein bod wir yn canolbwyntio ar sicrhau'r manteision mwyaf posibl i bobl ledled Cymru.

Mae'r Argyfwng Hinsawdd yn ein gorfodi ni i weithredu fel mater o frys. Rhaid inni wneud mwy o gynnydd dros y deng mlynedd nesaf nag rydyn ni wedi'i wneud yn y 30 mlynedd diwethaf. Bydd masnachfreinio yn ein helpu i gynllunio rhwydwaith deniadol sy'n mynd â phobl lle maen nhw am fynd yn hawdd ac mewn modd dibynadwy, ac yn arwain safonau datgarboneiddio ar gyfer cerbydau. Mae hyn yn allweddol i weld y newid sylweddol mae angen ei wneud i'r ffordd rydyn ni’n teithio, er mwyn inni gyrraedd ein targedau hinsawdd. Bydd hefyd yn cefnogi ein huchelgais i leihau allyriadau o'n fflyd bysiau, gan sicrhau y gall pobl deithio mewn modd mor gynaliadwy â phosibl.

Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft, a gyhoeddir yn fuan i gyd-fyd â'r papur gwyn, yn dadansoddi'r goblygiadau cost ar gyfer gwahanol fodelau gweithredu bysiau. Mae hyn yn nodi manteision masnachfreinio o'i gymharu â'r opsiynau eraill, a faint y gallen ni ei gyflawni â'r cannoedd o filiynau o bunnoedd yr ydyn ni eisoes yn eu buddsoddi mewn bysiau yng Nghymru, pe baen ni’n gallu cynllunio rhwydweithiau'n well i ddiwallu anghenion pobl.

Hoffem weithio mewn partneriaeth â'r diwydiant rhwng nawr a'r adeg y cyflwynir y masnachfreinio arfaethedig, i sicrhau bod y newid yn mynd yn ddidrafferth ar gyfer pob rhanddeiliad. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid yn ystod y broses o gyflwyno a gweithredu'r cynnig hwn. Rydyn ni eisoes yn ymgynghori â chynrychiolwyr gweithredwyr ac Awdurdodau Lleol, gan fod angen gwneud y ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn iawn ar y tro cyntaf. Gwneir trefniadau pontio, mewn ymgynghoriad â'r diwydiant, i weithio ar y cyd i gyflawni cymaint â phosibl yn y cyfamser. Rydyn ni am wella gwasanaethau bysiau fel ein bod, pan fydd y ddeddfwriaeth arfaethedig ar waith, yn barod i gymryd y camau terfynol wrth ddarparu'r rhwydwaith bysiau sydd ei angen ar bobl yng Nghymru.  

Mae'r ymgynghoriad papur gwyn hwn yn gam allweddol tuag at fodel newydd ar gyfer gweithredu bysiau yng Nghymru, ac yn gyfle inni ailwerthuso'r hyn yr hoffem ei gael gan ein gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Rydyn ni am glywed lleisiau pobl ledled Cymru ac ar draws y diwydiant, i'n helpu i fanteisio ar y cyfle hwn i ailddylunio ein model ar gyfer darparu gwasanaethau bysiau mewn modd mor effeithiol ag y bo modd, a gweithredu system fysiau y gall Cymru fod yn falch ohoni. Byddwn ni’n parhau i dderbyn ymatebion i’r ymgynghoriad tan 24 Mehefin.

Fodd bynnag, rydyn ni'n cydnabod y bydd y model newydd hwn ar gyfer gweithredu bysiau yng Nghymru yn cymryd nifer o flynyddoedd i'w gyflawni. Felly, heddiw rwyf hefyd yn cyhoeddi Bws Cymru, sy'n nodi map ffordd manwl ar gyfer sut rydyn ni am gydweithio yn y dyfodol i wella pob agwedd ar ddarparu gwasanaethau bysiau i deithwyr. Mae hyn yn cynnwys seilwaith, dyrannu ffyrdd, hygyrchedd, integreiddio â dulliau trafnidiaeth gyhoeddus eraill ac, yn ehangach, sut y gallwn ni sicrhau newid cadarnhaol yn y tymor byr. Er mwyn cyflawni'r gwelliannau hyn, bydd angen cydweithio â'n partneriaid mewn llywodraeth leol a'r diwydiant bysiau mewn modd cadarnhaol.

Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i edrych ar Gludiant i'r Ysgol a byddwn ni'n bwrw ymlaen eleni â rhaglen waith ehangach sy'n cynnwys ystyried adolygiad cyflawn o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr. Felly, rwy'n cyhoeddi heddiw ganfyddiadau'r Adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr a gynhaliwyd yn 2021. Mae hyn wedi nodi mai'r prif faterion mae angen eu hystyried ymhellach yw:

  • Cymhwysedd o ran pellter a lles plant
  • Diffyg cludiant ysgol pwrpasol i ddysgwyr ôl-16
  • Pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol
  • Meini prawf preswylio
  • Effaith economaidd-gymdeithasol rhieni’n talu am gludiant
  • Addysg cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd
  • Darpariaeth ysgolion meithrin
  • Seilwaith cludiant i'r ysgol

Wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddatblygu'r sail dystiolaeth i gefnogi unrhyw newidiadau arfaethedig i sicrhau eu bod yn deg, yn gymesur ac yn fforddiadwy. Byddwn yn ymgynghori ar y gwaith hwn yn ddiweddarach eleni.  

Mae cludiant i'r ysgol yn rhan annatod o'r ffordd rydyn ni'n cefnogi darpariaeth bysiau lleol, ac rydyn ni am sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â'r diwygiadau ochr yn ochr â'n gwaith ehangach ar fysiau, yn hytrach nag ar wahân.

Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn: Cynllunio Bysiau fel Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymr