Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru a Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Gorffennaf 2012, sefydlwyd Grŵp annibynnol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies, i gynghori ar sut i wella darpariaeth Cymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4. Prif nod y Grŵp oedd ystyried pa newidiadau y dylid eu gwneud i alluogi mwy o ddysgwyr i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth, yn eu cymunedau ac mewn gwaith yn y dyfodol.

Mae “Un iaith i bawb”, a gyhoeddwyd heddiw, yn adlewyrchu canfyddiadau gwaith y Grŵp. Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn sydd yn gwneud nifer o argymhellion pwysig. Byddwn yn mynd ati i ystyried yr argymhellion yng nghyd-destun yr adolygiad ehangach o asesu a’r Cwricwlwm Cenedlaethol, y gwaith sy’n mynd rhagddo mewn ymateb i’r adolygiad o gymwysterau a’r drafodaeth ar ddyfodol yr iaith Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn llawn i’r holl argymhellion hyn maes o law.

Yn y cyfamser, hoffem ddiolch i’r Athro Sioned Davies ac aelodau canlynol y Grŵp Adolygu am eu holl waith wrth gynhyrchu’r adroddiad a’r argymhellion.

  • Yr Athro Sioned Davies, Cadeirydd - Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
  • Aled Evans - Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
  • Aled Loader, Pennaeth Adran y Gymraeg, Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant, Casnewydd. 
  • Elaine Senior, Ymgynghorydd Cymraeg Annibynnol Dysgu Oedolion.
  • Elen Roberts, Arweinydd Tîm Cefnogi’r Gymraeg mewn Addysg, Gwasanaeth Cyflawniad Addysg De Ddwyrain Cymru  
  • Eleri Jones, Pennaeth, Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun. 
  • Shoned Wyn Jones, Pennaeth y Gyfadran Gymraeg a Ieithoedd Modern, Ysgol John Bright, Llandudno.
  • Susan Gwyer-Roberts, Pennaeth, Ysgol Cil-y-Coed, Sir Fynwy.