Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 21 Mehefin, mynychais ugeinfed Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig (BIC) yn Derry~Londonderry, Gogledd Iwerddon, ynghyd ag Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Cadeiriwyd yr Uwchgynhadledd gan y Gwir Anrhydeddus Peter Robinson MLA, Prif Weinidog Gweithredol Gogledd Iwerddon,  a Mr Martin McGuinness MLA, y Dirprwy Brif Weinidog.  Mynychwyd yr Uwchgynhadledd gan Weinidogion arweiniol Aelod Weinyddiaethau gan gynnwys;

  • An Taoiseach, Mr. Enda Kenny TD, o Lywodraeth Iwerddon
  • Dirprwy Brif Weinidog  Llywodraeth y DU, y Gwir Anrhydeddus Nick Clegg AS,
  • Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Alex Salmond MSP o Lywodraeth yr Alban,
  • Prif Weinidog Llywodraeth Jersey, y Seneddwr Ian Gorst,
  • Prif Weinidog Llywodraeth Guernsey, Dirprwy Peter Harwood,
  • Prif Weinidog Llywodraeth Ynys Manaw, yr Anrhydeddus Allan Bell MHK.

Mae’r Cyngor yn parhau i chwarae rôl arwyddocaol o ran hybu, hyrwyddo a meithrin cysylltiadau rhwng yr Aelod Weinyddiaethau a chynnig fforwm ar gyfer ymgynghori a chydweithredu. Y tro hwn, roedd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i’r Aelod Weinyddiaethau drafod yr economi, gyda phwyslais arbennig ar dariffau ynni a’u heffaith ar yr economi; diweithdra ymhlith pobl ifanc; a manteision creu sector gwaith newydd Diwydiannau Creadigol BIC.

Cafodd yr Uwchgynhadledd gyflwyniad llawn gwybodaeth hefyd gan y Culture Company a sefydlwyd i ddarparu rhaglen ddiwylliannol Derry~Londonderry tra byddai’r ddinas yn Ddinas Diwylliant y DU 2013. Roedd hyn o ddiddordeb arbennig i Gymru gan fod Bae Abertawe wedi ennill lle ar y rhestr fer i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2017.

O ran yr economi, er bod arwyddion o welliant ledled y DU, pwysleisiais fod incymau’n dal i gael eu gwasgu a bod amgylchiadau economaidd yn dal yn anodd i ormod o’n pobl. Tanlinellais y ffaith bod cynllun Twf Swyddi Cymru - un o gynlluniau Llywodraeth Cymru -  wedi gweithio’n dda gan ragori’n eithriadol ar ei darged gwreiddiol o sicrhau swyddi i 4,000 o bobl ifanc. Er hynny mae ein Busnesau Bach a Chanolig yn dal i’w chael yn anodd sicrhau credyd gan y banciau ar delerau rhesymol. Pwysleisiais fod costau ynni cynyddol yn her arbennig o ran denu buddsoddiad gan fuddsoddwyr presennol a darpar fuddsoddwyr. Mae hynny’n arbennig o wir yn achos rhai gweithrediadau mawr sy’n ddwys o ran ynni sy’n cyfrannu mewn ffordd allweddol at economi Cymru. Mae hyn yn llesteirio ein hymdrechion i roi hwb i’r sector preifat yng Nghymru ac i greu swyddi cynaliadwy, ac mae angen i Lywodraeth y DU fynd i’r afael â hyn. Pwysleisiais hefyd fod aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn hollbwysig i Gymru ac y byddai unrhyw beth a fyddai’n rhwystro ein mynediad i’r farchnad Ewropeaidd yn andwyol i economi Cymru. Yn ein profiad ni, mae bod yn rhan o’r UE hefyd yn gymhelliant o ran denu buddsoddiad o rannau eraill o’r byd.

O ran y diwydiannau creadigol, nododd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ffrwd waith Diwydiannau Creadigol BIC gan fod yr elfen hon ar yr economi yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Tanlinellodd y Gweinidog y gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu Panel Cynghori ar Ddarlledu; y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ei wneud ar brosiect ymchwil helaeth i fapio’r diwydiannau creadigol ledled Cymru; a’n hadolygiad annibynnol o addysg a hyfforddiant ym maes diwydiant a fydd yn helpu pobl ifanc a fydd yn gweithio yn y sector diwydiannau creadigol yn y dyfodol. Bydd pob un o’r meysydd gwaith hyn o ddiddordeb mawr a byddant yn ddefnyddiol iawn i ffrwd waith newydd Diwydiannau Creadigol BIC.

Cyhoeddwyd prif bwyntiau trafod yr ugeinfed Uwchgynhadledd mewn Communiqué ar y cyd. (Saesneg yn unig)