Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Yn dilyn y tywydd difrifol a’r llifogydd a gafwyd yn ystod Storm Ciara, Dennis a Jorge, hoffwn yn gyntaf ymestyn fy nghydymdeimlad i’r cannoedd o bobl yr effeithiwyd arnynt gan effaith drychinebus y tywydd, yn enwedig y rhai hynny y cafodd y llifogydd effaith ar eu cartrefi a’u diogelwch.
Mae pob un ohonom wedi gweld y difrod a wnaethpwyd i gartrefi, teuluoedd a busnesau dros y mis diwthaf o ganlyniad i’r tywydd difrifol, gyda’n cymunedau yn dioddef tair storm fawr mewn tair wythnos. Hoffwn dalu teyrnged i’n ffrindiau, ein teuluoedd a’n cymunedau, cynghorau, y gwasanaethau brys, gwirfoddolwyr a busnesau sydd pob un ohonynt wedi tynnu gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn. Fe wyddom bod llawer o waith i’w wneud a’n ffocws fel Llywodraeth yw gwneud yn siŵr y gall y rhai yr ydym yn eu caru ddychwelyd i’w cartrefi a’u busnesau, yn ogystal â darparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel cyn gynted â phosibl.
O ran y rhwydwaith trafnidiaeth, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y ffordd y mae teithwyr a Trafnidiaeth Cymru wedi delio gyda’r amodau heriol iawn a’r gwasanaethau y tarfwyd arnynt. Faint o ddŵr oedd ymhobman, yn y mis Chwefror gwlypaf ar gofnod, achosodd y difrod mwyaf. Roedd afonydd, nentydd a cheuffosydd ledled Cymru a’r Gororau yn gorlifo, gyda caeau llawn dŵr yn cael trafferth i ymdopi, yn ogystal â’r dŵr oedd ar yr wyneb.
Roedd yn rhaid i dimau canolfannau rheoli Trafnidiaeth Cymru a Network Rail, yn ogystal â’u cydweithwyr, ymateb yn gyflym wrth i amodau barhau i waethygu drwy’r stormydd.
Oherwydd Storm Ciara, mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn parhau i fod ar gau yn dilyn difrod sylweddol gan Storm Ciara, gyda bysiau yn lle trenau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog am gyfnod sylweddol.
Cafwyd llifogydd hefyd ar reilffordd Calon Cymru, rheilffordd Cambrian yn Black Bridge a’r brif reilffordd i’r de a’r gogledd ar y Gororau rhwng Y Fenni a Henffordd. Gwelwyd tarfu hefyd ar reilffordd Glyn Ebwy rhwng Llanhilleth a thref Glyn Ebwy. Aeth gwirfoddolwyr o bob rhan o Trafnidiaeth Cymru i nifer o’r gorsafoedd yr effeithiwyd arnynt i helpu i gydlynnu’r trefniadau teithio newydd. Roedd gan Network Rail dimau hefyd ar draws y rheilffyrdd, yn gweithio drwy’r nos i archwilio a thrwsio’r seilwaith i sicrhau bod y traciau yn ddiogel i’w hail-agor wrth i’r dŵr ddechrau gostegu.
Roedd y rheilffordd rhwng Abercynon ac Aberdâr yn hynod ddrwg ble y bu i lifogydd a thirlithriad ar wahân olygu bod bron 100 tunnell o weddillion yn rhwystro’r lein brysur. Wedi ymdrech enfawr gan Network Rail, gyda’u tîmau yn gweithio drwy’r nos, ail-agorodd y lein brynhawn dydd Mawrth.
Daeth Storm Jorge â gwyntoedd cryf a glaw mawr, gan gau prif reilffordd de Cymru wedi’r llifogydd yn Llanharan, gan gael effaith ar nifer o reilffyrdd eraill.
Bu i’n rhwydwaith rheilffyrdd gael ei ddifrodi’n ddrwg dros y mis diwethaf, ond rwyf am roi sicrwydd i’n haelodau bod Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi bod yn helpu i sicrhau bod y rhwydwaith yn gweithio eto, gan gynnwys helpu i lanhau a chefnogi ein cymunedau sydd wedi dioddef cymaint.
Mae’r sefyllfa yn newid drwy’r amser ac felly mae tarfu yn debygol o barhau i ddigwydd ar ein gwasanaethau gyda newidiadau munud olaf. Awgrymir bod cwsmeriaid yn edrych ar nationalrail.co.uk neu journeycheck.com/tfwrail/ i weld a yw’r trenau yn rhedeg cyn dechrau teithio.
Pe byddai’r seilwaith rheilffyrdd wedi ei ddatganoli, byddai Llywodaeth Cymru mewn sefyllfa i addasu yn gyflymach i dywydd eithafol, a gan ystyried hynny, byddwn yn parhau i bwyso am ragor o ddatganoli. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i chwilio am ffyrdd o sicrhau y gall ein system drafnidiaeth ymdopi yn well mewn digwyddiadau o’r math yma. Bydd y cyllid o £25m yr ydym wedi’i glustnodi ym mlwyddyn ariannol 2020/21 ar gyfer y math yma o ymyrraeth yn golygu y gallwn ddechrau ar y newidiadau sydd eu hangen. Fodd bynnag, o ystyried yr effaith a gafodd digwyddiadau diweddar ar ein gwasanaethau trafnidiaeth, mae’n amlwg bod angen cyllid sylweddol dros sawl blwyddyn, os ydym i fynd i’r afael â’r heriau yr ydym oll yn eu hwynebu o’r newid yn yr hinsawdd. Rydym yn disgwyl i Lywodraeth Prydain fynd i’r afael â hyn yn y gyllideb nesaf.