Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fy mod, ym mis Hydref y llynedd, wedi lansio ymgynghoriad ar dyllu cosmetig i bobl ifanc, ac roedd yn cynnwys nifer o gynigion ac yn ceisio barn am ffyrdd i wneud tyllu cosmetig yn fwy diogel i bobl ifanc. Roedd cryn ddiddordeb yn yr ymgynghoriad, ac roedd y rhan fwyaf o’r rhai a ymatebodd yn bendant o blaid ein cynigion. Mae crynodeb o’r ymatebion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: 

Dyma gadarnhau mai fy mwriad yw symud ymlaen gyda’r cynigion i greu deddf a fydd yn ymdrin â materion megis:

  • Oedran cydsynio gofynnol ar gyfer tyllu cosmetig. Bydd hyn yn golygu bod yn rhaid i riant neu warcheidwad fod gyda rhywun ifanc dan 16 mlwydd oed pan fyddant yn cael triniaeth tyllu cosmetig. Bydd hyn yn cynnwys triniaethau mwy cyffredin, megis tyllu llabed y glust.
  • Cyfyngiad oedran pendant ar gyfer tyllu cosmetig personol (tyllu’r tethi neu’r genitalia). Bydd hyn yn gwahardd y rhai sy’n darparu triniaeth tyllu cosmetig rhag darparu triniaeth tyllu cosmetig personol i bobl ifanc dan 18 mlwydd oed.
  • Ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sy’n darparu triniaeth tyllu cosmetig gynnal sesiwn cyn pob triniaeth tyllu cosmetig, ni waeth beth fo oedran y sawl sy’n dymuno cael y driniaeth. Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â’r canlynol, o leiaf:
    • A oes gan y sawl sy’n cael y driniaeth unrhyw broblemau iechyd sy’n golygu y bydd mewn mwy o berygl os caiff y driniaeth.
    • Sut y caiff y driniaeth ei rhoi, gan gynnwys unrhyw broblemau posibl.
    • Sut i ofalu am y twll er mwyn atal haint.

Diben y ddeddfwriaeth hon yw gostwng nifer yr heintiadau a’r cymhlethdodau ar ôl triniaeth sy’n gysylltiedig â thyllu cosmetig yng Nghymru. Trwy gael rhiant neu warcheidwad i chwarae rhan yn y driniaeth, dylai hynny fod o gymorth i leihau effaith unrhyw bwysau gan ffrindiau, cynorthwyo unigolyn i ddeall beth yw goblygiadau cael triniaeth tyllu cosmetig, a’u cynorthwyo i ddewis rhywun cyfrifol i wneud y driniaeth. 

O gael cyfyngiad oedran pendant ar driniaethau tyllu cosmetig, gallai hynny fod o gymorth i leihau’r achosion o gymhlethdodau ar ôl triniaeth, a gostwng nifer y bobl ifanc sy’n eu rhoi eu hunain mewn sefyllfa beryglus. Dylai sesiwn safonol cyn y driniaeth sicrhau bod unigolion yn ymwybodol beth yw goblygiadau’r driniaeth cyn iddi gael ei rhoi, a chael cyngor da ar ei hôl.

Rydym yn dal i ystyried rhai materion cyffredin a godwyd gan ymatebwyr i’r ymgynghoriad, megis atal tyllu cosmetig i blant ifanc sy’n rhy ifanc i gydsynio. Hefyd, nid oes penderfyniad eto am y cyfrwng deddfwriaethol priodol ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd arfaethedig hon na’r amserlenni ar gyfer ei chyflwyno. Fy mwriad yw cyhoeddi rhagor o fanylion ac ymgynghori’n llawn yn eu cylch, unwaith y byddant wedi eu cwblhau’n derfynol.