Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn amlinellu strwythur newydd ar gyfer cymorth gan Lywodraeth Cymru i dwristiaeth ar draws rhanbarthau Cymru yn y dyfodol.
Yn y strategaeth dwristiaeth, Partneriaeth ar gyfer Twf, tynnwyd sylw at yr angen i adolygu strwythur twristiaeth ranbarthol er mwyn cyrraedd y nod o sicrhau twf o 10% neu fwy erbyn 2020 yn yr enillion sy’n dod o dwristiaeth.
Dangosodd yr adolygiad hwnnw hefyd fod angen ychydig o ad-drefnu o fewn Croeso Cymru er mwyn hwyluso partneriaeth weithio gryfach a mwy penodol gyda’r diwydiant a rhanddeiliaid allweddol er mwyn helpu i sicrhau bod rhaglenni a phrosiectau yn cael eu cyflawni mewn modd mwy effeithiol ledled Cymru.
Ar ôl cael cyngor y Bwrdd Cynghori Twristiaeth ac ymgynghori am gyfnod o 12 wythnos â’r diwydiant er mwyn ystyried yr opsiynau ar gyfer cefnogi a chyflawni’n rhanbarthol ym maes twristiaeth yn y dyfodol, penderfynwyd y bydd y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r pedair Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol yn dod i ben ar ôl 30 Medi 2014.
Yn lle’r partneriaethau hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol a fydd yn rhan o Groeso Cymru. Bydd y newid hwn yn fodd i sicrhau y bydd gennym strwythur symlach a mwy penodol ar gyfer datblygu twristiaeth, a fydd yn ystyried mentrau a pholisïau ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd. Bydd cynrychiolwyr rhanbarthol newydd yn cael eu recriwtio’n aelodau o’r Bwrdd Cynghori Twristiaeth.