Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi diweddariad i'r Aelodau ar Dwf Swyddi Cymru a darparu gwybodaeth ynghylch sut caiff adroddiad ystadegol y rhaglen ei gyflwyno.

Heddiw, cyhoeddwyd ystadegau Twf Swyddi Cymru ar gyfer 10 Mehefin. Maent yn dangos bod data cyrchfannau'r rhaglen yn parhau ar y lefel uchaf erioed - 82% y bobl ifanc yn sector preifat wedi symud ymlaen i waith parhaol neu ddysgu pellach ar ôl cwblhau eu cyfle chwe mis.  Yn ogystal, mae 93% o raddedigion wedi symud ymlaen i gyflogaeth neu ddysgu pellach ar ôl eu cyfle gwaith chwe mis, sy'n nifer anhygoel.  

Ar 10 Mehefin 2014, roedd 13,889 o gyfleoedd gwaith wedi'u creu a 10,583 o bobl ifanc wedi llenwi'r swyddi hyn. Mae’r broses recriwtio yn cael ei defnyddio i baru pobl ifanc â’r cyfleoedd sy’n dal ar gael.

Dyma ffigurau ardderchog. Rwy'n hynod falch o'r hyn y mae Twf Swyddi Cymru wedi'i gyflawni, ac yn sicr pobl ifanc a chyflogwyr sydd wedi elwa ar y rhaglen hon.

Rwyf hefyd yn falch bod Twf Swyddi Cymru wedi helpu ein hentrepreneuriaid ifanc i greu 276 o fusnesau newydd - newyddion da i'n pobl ifanc a'n heconomi.

Mae’r rhaglen hon yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl ifanc - gan roi’r sgiliau a’r profiad perthnasol sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i waith parhaol. Mae Twf Swyddi Cymru yn cynnig ffordd o osgoi diweithdra gan eu hatal rhag gorfod dioddef y niwed cymdeithasol a phersonol a ddaw yn sgil cyfnodau hir o ddiweithdra fel oedolion ifanc.

Mae cyflogwyr o bob maint wedi dweud wrthyf gymaint yw datblygiad pobl ifanc sy’n dilyn rhaglen Twf Swyddi Cymru ers dechrau eu chwe mis, a’r gwahaniaeth y mae’r bobl ifanc wedi’i wneud wrth helpu i ehangu eu busnes. I lawer o gyflogwyr, Twf Swyddi Cymru oedd yr hyn yr oedd ei angen i ysgogi twf.


Caiff ystadegau Twf Swyddi Cymru eu cyhoeddi bob mis a gellir eu gweld ar lein.

Mae'r ystadegau misol hyn yn cyflwyno gwybodaeth am nifer y cyfleoedd gwaith a grëwyd ac a lenwyd, ynghyd â gwybodaeth reoli arall am raglen Twf Swyddi Cymru:

  • Mae Tabl 1 yn dadansoddi nifer y cyfleoedd gwaith a grëwyd ac a lenwyd yn ôl elfen, gan gynnwys nifer y ceisiadau a dderbyniwyd. Mae nifer y swyddi a grëwyd yn golygu nifer y cyfleoedd gwaith y sicrhawyd eu hansawdd ac sydd wedi’u cymeradwyo ac sy’n destun proses recriwtio ar hyn o bryd. Efallai eu bod wedi cyrraedd y broses sifftio neu gyfweld, neu eu bod yn fyw ar system Gyrfa Cymru yn aros am geisiadau. 
  • Mae Tabl 2 yn dangos cyrchfannau manwl ar gyfer y rheini sydd wedi cwblhau'r rhaglen yn elfen y sector preifat.  
  • Mae Tabl 3 yn dangos data cyrchfannau ar gyfer y rheini a adawodd y rhaglen yn gynnar yn elfen y sector preifat.  Maen bwysig nodi bod y ffigurau ar gyfer y rheini a adawodd y rhaglen yn gynnar yn cynnwys yr holl bobl ifanc sydd wedi gadael ers i'r rhaglen ddechrau. Fodd bynnag, mae ffigurau ar gyfer y nifer a gwblhaodd y rhaglen ond yn cynnwys y rheini sydd wedi'u cwblhau cyfle chwe mis (hy nid ydynt yn cynnwys y rheini sy'n ymgymryd â chyfle chwe mis ar hyn o bryd). Felly, ni ddylid cymharu'r ddau ffigur hwn. 
  • Ceir data cyrchfannau manwl ar gyfer elfennau’r trydydd sector a graddedigion yn Nhablau 4 i 7
  • Mae Tabl 8 yn dangos nifer y swyddi a grëwyd ac a lenwyd ym mhob Awdurdod Lleol.

Mae cyrchfannau positif yn cynnwys dysgu pellach, cyflogaeth gan yr un cyflogwr (llawnamser a rhan-amser), cyflogaeth gan gyflogwr gwahanol (llawnamser a rhan-amser), neu brentisiaeth gyda'r un cyflogwr neu gyflogwr gwahanol.  Caiff y data cyrchfannau ar gyfer pob person ifanc sy’n dilyn y rhaglen eu cyhoeddi ar wahân er mwyn dangos datblygiad ar ddiwedd y cyfle. Hynny er mwyn sicrhau bod data cyrchfannau'r rhaglen yn gwbl dryloyw. Rhaid i brentisiaid fod wedi'u cyflogi er mwyn bodloni'r meini prawf cymhwyster ar gyfer prentisiaethau ac felly dynodir eu bod mewn cyflogaeth.  

Mae dros 10,000 o gyfleoedd gwaith bellach wedi'u llenwi drwy'r rhaglen. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y byddwn yn gwahodd pobl ifanc, eu cyflogwyr a’u darparwyr hyfforddiant i ddathlu'r garreg filltir wych hon gyda ni ym mis Gorffennaf.