Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy bwriad i ddatblygu cronfa Twf Gwyrdd ar gyfer Cymru.  Mae'r gronfa Twf Gwyrdd Cymru arfaethedig yn anelu at gynyddu a chyflymu prosiectau i sicrhau buddsoddi gwyrdd yng Nghymru.  Mae'n canolbwyntio yn bennaf, er nid yn unig, ar annog buddsoddi mewn defnyddio adnoddau'n effeithiol, cynhyrchu ynni adnewyddadwy a phrosiectau gwastraff.  Rwyf am i Twf Gwyrdd Cymru anfon neges gref am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu llwybr datblygu mwy cynaliadwy a chynhwysol ar gyfer Cymru, a'r camau yr ydym yn eu cymeryd nawr i gyfrannu at yr amcanion lles yr ydym yn deddfu ar eu cyfer ym Mil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).  Wrth wneud hynny, mae'n gwneud ein bwriad i gynyddu a chyflymu ein gallu i gyrraedd ein targedau ar gyfer y newid yn yr hinsawdd yn glir, a dyma yr hyn ydym am ganolbwyntio'n bennaf arno wrth ddiweddaru ein polisi newid hinsawdd.  

Mae gennym y cyfle i adeiladu Cymru lewyrchus gyda defnydd mwy cynaliadwy o'n hadnoddau naturiol yn ganolog i hynny.  Rwyf am i'n hadnoddau naturiol yrru'r newid i gymdeithas carbon isel, sy’n gallu dygymod â’r newid yn yr hinsawdd, gan roi cymaint o fanteision â phosib, a manteision parhaus, i bobl a chymunedau ledled Cymru.   Bydd costau'n gysylltiedig â hyn, ac fel y nodwyd yn yr adroddiadau IPCC diweddar, mae'r costau hyn yn cynyddu wrth inni aros cyn gweithredu.  Mae angen inni weithredu nawr, gan adeiladu ar y buddsoddiad yr ydym eisoes yn ei wneud mewn meysydd fel atal llifogydd, rheoli gwastraff ac effeithlonrwydd ynni domestig.  

Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo £5 miliwn o'n dyraniad Trafodiadau Ariannol i ddatblygu Twf Gwyrdd Cymru.  Byddaf yn defnyddio'r cyllid cychwynnol hwn i ganolbwyntio ar ddwy agwedd - datblygu prosiectau ymarferol y gellir buddsoddi ynddynt, yn enwedig yn y sector cyhoeddus, a chreu dull o gyllido i ddod â buddsoddiad newydd i Gymru.  

Byddaf yn cydweithio'n agos â'm cydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod Twf Gwyrdd Cymru yn gwneud y gorau o'r manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i Gymru.  Byddaf yn cyflwyno cynigion mwy manwl ar ddechrau 2015.