Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Heddiw, rwyf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am fy mlaenoriaeth o ran twf gwyrdd.
Ym mis Tachwedd 2013, gwnaeth y Cabinet gymeradwyo dull o weithredu sy’n seiliedig ar dwf gwyrdd ac rydym ni fel Llywodraeth wedi ymrwymo i weithio ar y cyd er mwyn gwneud yn fawr o'r cyfleoedd a gynigir gan dwf gwyrdd. Mae'r Grŵp Llywio Twf Gwyrdd yn adrodd yn uniongyrchol imi a Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Ym mis Chwefror, y cam cychwynnol a gymerwyd gan y Grŵp oedd cyhoeddi astudiaeth waelodlin ar dwf gwyrdd. Fodd bynnag, nid cyfrifoldeb un neu ddwy Adran yn unig yw twf gwyrdd. Yn hytrach, mae'n agenda drawsbynciol ac mae'n gyfrifoldeb ar bob adran o fewn ein Llywodraeth. Mae'r datganiad hwn yn rhoi manylion am rhai o’r meysydd yr wyf yn eu datblygu er mwyn cynorthwyo fy nghydweithwyr yn y cabinet i fynd i'r afael â'r agenda trawsbynciol hwn.
Mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy, fel y’i nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn sail i'r agenda twf gwyrdd y byddwn yn ei datblygu. Yng Nghymru, hanfod Twf Gwyrdd yw meithrin twf economaidd, datblygiad ac ecwiti cymdeithasol gan sicrhau bod ein hasedau naturiol yn gallu parhau i ddarparu'r adnoddau a'r gwasanaethau amgylcheddol y mae ein lles yn dibynnu arnynt. I wneud hynny, mae angen ysgogi buddsoddiad ac arloesedd. Bydd hynny'n sail i dwf cynaliadwy ac yn fodd i sicrhau cyfleoedd economaidd newydd, i ddatblygu ein gweithlu a meithrin sgiliau. Bydd angen hefyd rannu enillion y twf mewn ffordd deg drwy ddarparu swyddi da.
Fel Llywodraeth, credwn fod twf gwyrdd yn fwy na dim ond cefnogi twf yn yr economi werdd – er bod hynny'n rhan bwysig o'n heconomi. Credwn fod twf gwyrdd yn ymwneud â sicrhau bod twf economaidd a'r amgylchedd yn mynd law yn llaw ar draws yr economi yn ei chyfanrwydd. Nid yw'n wir dweud na fydd gwyrddu’r economi yn ei chyfanrwydd yn sicrhau swyddi a thwf. Mae'r hyn sy'n sbarduno newid yn glir. Mae angen inni fynd ar drywydd twf economaidd a datblygiad sy'n amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ond sydd hefyd yn sicrhau nad ydym yn mynd i gostau yn sgil y newid yn yr hinsawdd nac yn defnyddio adnoddau naturiol mewn modd anghynaliadwy.
Mae'r manteision a'r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â mynd ar drywydd twf gwyrdd wedi codi’n uwch ar yr agenda fyd-eang. Ar ôl i Weinidogion mewn 34 o wledydd gefnogi twf gwyrdd, mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi llunio strategaeth twf gwyrdd. Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwneud yn fawr o'r cyfleoedd rhyngwladol sydd ar gael. Cymru yw un o'r gwledydd cyntaf i lofnodi’r memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Byd-eang Newydd (MoU) ar Arweinyddiaeth Hinsawdd Byd-eang Is-wladol. Fe'i llofnodwyd hefyd gan dalaith California a 10 arall. Drwy fod yn rhan o'r MoU, bydd modd i Gymru ddangos y camau cadarnhaol y mae’n eu cymryd ac wedi ymrwymo iddynt er mwyn mwyn i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a hynny ar lwyfan rhyngwladol. Bydd yn fodd i ddenu buddsoddiad drwy dwf gwyrdd.
Wrth fynd ati i ddewis lleoliadau ar gyfer eu busnes, mae’r byd busnes ynghyd â gwledydd y byd yn canolbwyntio fwyfwy ar y defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol ac ar yr adnoddau naturiol hynny sydd ar gael. Mae gan Gymru fantais sylweddol o safbwynt ei hadnoddau naturiol ac rydym yn benderfynol o wneud yn fawr o'r fantais honno, ond nid ar draul yr adnoddau naturiol eu hunain.
Mae angen system reoleiddiol effeithiol ar farchnadoedd llwyddiannus ynghyd â gweledigaeth strategol gryf. Rydym wrthi'n rhoi'r ddau ohonynt ar waith. Bydd Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn sicrhau mwy o eglurder i fusnesau o ran y trywydd yr ydym am ei ddilyn er mwyn datgarboneiddio a sicrhau effeithlonrwydd o ran adnoddau. Bydd yn cryfhau ein hymrwymiadau o safbwynt y newid yn yr hinsawdd drwy roi fframwaith cyllidebau carbon ar waith. Y bwriad yw sicrhau gostyngiad o 80% o leiaf yn yr allyriadau erbyn 2050. Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd i fusnesau yng Nghymru fuddsoddi mewn rheoli gwastraff yn y dyfodol gan gynnwys, casglu, trin, ailbrosesu ac adennill ynghyd ag ailweithgynhyrchu. Bydd hynny’n lleihau costau busnesau ac yn creu swyddi.
Ond mae ein hymrwymiad i dwf gwyrdd yn fwy na rhoi fframwaith cyfreithiol a pholisïau ar waith. Byddwn yn sicrhau bod twf gwyrdd yn rhan o bopeth a wnawn ar lawr gwlad gan sicrhau bod hynny'n cael effaith gadarnhaol ar bobl a busnesau yng Nghymru.
Twf Gwyrdd Cymru yw'r brand a ddefnyddiwn ar gyfer y gyfres o ymyriadau yr ydym yn eu datblygu er mwyn sicrhau buddsoddiad gwyrdd i Gymru ac er mwyn cyflymu'r broses. Ein bwriad yw hybu buddsoddiad sy'n lleihau allyriadau carbon, yn cwrdd â’i chostau ei hun, yn creu arbedion/incwm i'r sector cyhoeddus yn y tymor hir ac yn sicrhau manteision economaidd, gan gynnwys creu swyddi. Rydw i'n gweithio’n agos gyda Gweinidog yr EGT, yng nghŷd-destun ei chyfrifoldebau ynni a’i hymwneud â chwmniau angor, yn ogystal â chydweithwyr eraill yn y Cabinet i sicrhau bod Twf Gwyrdd Cymru yn sicrhau'r manteision hyn. Bydd hynny'n caniatáu iddynt gyflawni eu hymrwymiadau o ran yr hinsawdd ynghyd â sicrhau manteision economaidd a fydd yn rhyddhau cyllidebau ar gyfer gwasanaethau'r rheng flaen. Mae nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd adnoddau ac ynni o wastraff yn yr arfaeth gan Twf Gwyrdd Cymru, a'r bwriad yw codi lefelau sylweddol o gyllid preifat i gefnogi'r prosiectau hynny. Byddwn yn sicrhau bod y prosiectau hyn yn rhoi cyfleoedd newydd i fusnesau yng Nghymru, yn eu diogelu ac yn creu swyddi. Bydd pecyn cymorth ar gyfer datblygu prosiectau yn sicrhau bod sefydliadau yn gwneud defnydd o'r technolegau a'r dulliau diweddaraf sy'n sicrhau'r atebion gorau ar eu cyfer o safbwynt ynni. Bydd hefyd yn gwneud yn fawr o'r cyfleoedd fydd ar gael i fusnesau o Gymru.
Byddaf yn rhoi mwy o fanylion am Twf Gwyrdd Cymru cyn toriad yr haf.