Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mai 2013, cyhoeddais fy strategaeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, a oedd yn nodi cyfres o fesurau a fydd yn ein galluogi i ddiogelu ein treftadaeth yn ogystal â denu mwy o bobl i’w mwynhau a’i defnyddio. Wrth lunio’r strategaeth honno a pharatoi ar gyfer y Bil Treftadaeth arfaethedig, roeddem wedi ymgysylltu’n helaeth ag arbenigwyr ar dreftadaeth, rhanddeiliaid a’r cyhoedd. Un o’r camau gweithredu oedd edrych ar yr opsiynau ar gyfer creu panel cynghori annibynnol newydd i roi cyngor arbenigol i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth a pholisïau ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn y dyfodol a darparu gwasanaethau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd hanesyddol ar lefel genedlaethol yng Nghymru. Byddai hynny’n ategu gwaith y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, sef cynrychiolwyr sydd wedi eu henwebu gan sefydliadau ledled y sector yng Nghymru, ac sy’n gweithredu fel fforwm i randdeiliaid allu cyfathrebu a chydgysylltu’r camau a gymerir.

Ym mis Gorffennaf 2013, cyhoeddais ‘Dyfodol ein gorffennol: Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru’. Roedd cefnogaeth gref ymhlith yr ymatebwyr o ran y syniad o ddatblygu cynlluniau strategol rheolaidd, a fyddai’n cael eu cynhyrchu ar y cyd â’r sector. Roedd yr ymatebwyr hefyd yn cefnogi’r syniad o greu panel cynghori a fyddai’n helpu i ddatblygu’r cynlluniau ac yn herio’r gwasanaethau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd hanesyddol pan fo hynny’n briodol. Yn fy natganiad llafar i’r Cynulliad ym mis Ionawr, cyhoeddais fy mwriad i fwrw ymlaen â’r cynigion hyn, a nawr hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi o ran sut y byddaf yn gwneud hynny.

Yn y cynigion a oedd yn destun yr ymgynghoriad, cyfeiriwyd at y gwaith o ddatblygu cynlluniau strategol fel proses wirioneddol gydweithredol a fyddai’n cynnwys ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid. Y bwriad ar hyn o bryd yw datblygu cynlluniau bob pum mlynedd, gan lunio rhaglen waith gynhwysfawr, gyfoes ac effeithiol sy’n cynnwys tri maes gweithredu cydgysylltiedig: cynyddu ein gwybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol; ei ddiogelu; ac ymgysylltu â’r cyhoedd gan sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cyfle i fanteisio ar yr amgylchedd hwnnw. Bydd angen gwybodaeth a chofnodion dibynadwy, cyfoes a hawdd eu defnyddio mewn perthynas â’r amgylchedd hanesyddol i ategu’r meysydd gwaith hyn.
Er y bydd y cynlluniau strategol yn cael eu datblygu’n benodol ar gyfer sector yr amgylchedd hanesyddol, byddant hefyd yn ein helpu i wireddu’r nodau datblygu cynaliadwy cenedlaethol yr ydym yn awyddus i’w cynnwys ym Mil Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn ategu’r cynigion a ddatblygir o dan y rhaglen ddeddfwriaethol ehangach, gan gynnwys y biliau Cynllunio ac Amgylchedd.

Bydd fy swyddogion yn Cadw yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu a chyflawni’r camau a nodir yn y cynlluniau olynol. Fodd bynnag, bydd angen meithrin ymdeimlad ehangach o berchnogaeth, drwy ymgysylltu ac ymgynghori â’n partneriaid yn y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol a thu hwnt. Hoffwn gynnig bod y panel cynghori annibynnol yn chwarae rhan bwysig yn hynny o beth drwy roi cyngor imi ar ddatblygu’r cynlluniau, a pharatoi adroddiadau ar hynt eu gweithredu.

Yn ogystal â chyflawni’r rôl honno, byddai’r panel yn darparu cyngor arbenigol a chanllawiau. Hefyd lle bo’n briodol, byddai’n herio’r rheini sy’n darparu gwasanaethau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd hanesyddol ar gyfer y cyhoedd ar lefel genedlaethol yng Nghymru. Mae’n bwysig bod y rhaglenni gwaith newydd yn adlewyrchu ac yn adeiladu ar y cyfraniad sylweddol y mae’r sector yn ei wneud i’r economi a lles ein cymdeithas, gan helpu i greu twf a swyddi, gwella cyrhaeddiad addysgol, lleihau effeithiau tlodi a denu mwy o bobl i fanteisio ar ddiwylliant sy’n berthnasol i bob un ohonom. Byddai’n panel yn cynnig syniadau newydd ac ysgogol o ran sut y gallai sector yr amgylchedd hanesyddol ymateb i’r her o helpu i sicrhau’r canlyniadau hyn ar gyfer pobl Cymru.      

Am y rhesymau uchod, bydd y panel yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o gefnogi’r sector, ac felly rwyf wedi penderfynu ei sefydlu ar sail statudol, drwy’r Bil Treftadaeth. Mae hynny’n adlewyrchu pa mor bwysig yw’r amgylchedd hanesyddol yng ngolwg Llywodraeth Cymru, gan gydnabod yr angen i gynllunio polisïau hirdymor ac ymrwymo iddynt. Bydd aelodau’r panel yn cael eu penodi ar ôl dilyn proses benodi dryloyw sy’n cadw at y Cod Ymarfer ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus.

Rwyf nawr wedi gofyn i fy swyddogion yn Cadw drafod y trefniadau manwl, ar gyfer y panel cynghori a’r broses gynllunio strategol, gyda’r prif randdeiliaid a phartneriaid, gan gynnwys aelodau’r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol. Cynhelir cyfarfodydd dros y misoedd nesaf gyda’r bwriad o benderfynu ar fanylion terfynol y dull gweithredu arfaethedig erbyn dechrau’r hydref, mewn pryd ar gyfer cyflwyno’r Bil Treftadaeth.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.