Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Yn yr hydref, disgrifiais fy uchelgais ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru a fis Rhagfyr diwethaf, yn y Ffair Aeaf, lansiais ymgynghoriad ar gynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant. Arweiniodd hynny at drafodaeth adeiladol â grwpiau buddiant a busnesau a’r Pasg diwethaf, rhoddais grynodeb i Aelodau’r Cynulliad o’r adborth a gafwyd. Heddiw, rwy’n lansio a chyhoeddi ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy – Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020’.
Mae’r cynllun o’r dechrau wedi canolbwyntio ar weithredoedd, targedau a therfynau amser ac mae’n ddibynnol hefyd ar gydweithio rhwng y llywodraeth a’r diwydiant. Mae’r gweithredoedd yn dangos bod Llywodraeth Cymru’n bartner egnïol a chefnogol i’r diwydiant trwy roi eglurder, sicrwydd a hyder iddo.
Mae’r ddogfen yn cadw elfennau craidd y ddogfen ddrafft ond yn cydnabod y myrdd ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad trwy bwysleisio’r angen i’r diwydiant dderbyn ei arweiniad a’i gyfeiriad gan y farchnad gyda ffocws ar dwf cynaliadwy. Mae’r cynllun yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau cynnydd yn ei drosiant o 30% i £7 biliwn erbyn 2020.
Yn elfennau hollbwysig o’r cynllun y mae sefydlu Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru; hyrwyddo hunaniaeth i gynnwys tarddiad, ansawdd a diogelwch a helpu’r diwydiant i arloesi ac i wella sgiliau ei weithlu.
Y Bwrdd fydd llais y diwydiant a thwf cynaliadwy fydd y nod. Rwy’n gwahodd y diwydiant i gynnig enwebiadau ar gyfer swydd y Cadeirydd heddiw, a byddaf yn cyhoeddi’r enw llwyddiannus yn yr haf.
Mae’r cynllun yn ymgorffori amcanion trechu tlodi, rheoli adnoddau naturiol ac annog diwydiant cynaliadwy sy’n seiliedig ar gynhyrchiant a phroffidioldeb. Mae’r cynllun yn tanlinellu hefyd bwysigrwydd systemau bwyd cynaliadwy, llesiant ac addysg.
Amgaeir ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy – Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020’.