Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 28 Tachwedd, roeddwn i a’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn cynrychioli Llywodraeth Cymru yn nhrydydd cyfarfod ar hugain Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig - Gwyddelig (BIC) ar Ynys Manaw. Cadeiriwyd yr Uwchgynhadledd gan Brif Weinidog Ynys Manaw, yr Anrhydeddus Allan Bell.  Roedd Gweinidogion o’r Gweinyddiaethau eraill sy’n rhan o’r BIC hefyd yn bresennol, gan gynnwys;

  • An Taoiseach, Mr. Enda Kenny TD, Llywodraeth Iwerddon
  • Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrhydeddus Theresa Villiers AS, Llywodraeth y DU
  • Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Mr Martin McGuinness MLA a’r Gweinidog Cyllid a Phersonél Simon Hamilton MLA
  • Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon MSP 
  • Prif Weinidog Jersey, y Seneddwr Ian Gorst
  • Dirprwy Brif Weindog Guernsey, Jonathan Le Tocq.

Mae Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig – Gwyddelig yn gyfle pwysig i’r Aelod-weinyddiaethau rannu profiadau a hyrwyddo arfer da. Mae’r cysylltiadau sy’n cael eu datblygu drwy BIC yn arwain at well cydweithredu a chysylltiad rhwng aelodau. Roedd yr Uwchgynhadledd hon yn gyfle i Aelod-weinyddiaethau ystyried yr economi a phwysigrwydd cynhwysiant digidol ar draws yr holl weinyddiaethau.

O ran yr economi, nodais fod rhagolygon Cymru’n gwella a diweithdra’n syrthio, ond siomedig yw’r cynnydd mewn cyflogau ar gyfartaledd o hyd. Pwysleisiais fod aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn hanfodol i Gymru, a bod mynediad at y farchnad Ewropeaidd yn un o’r prif nodweddion cadarnhaol ar gyfer cwmnïau sy’n ystyried lleoli yma. Bydd ansicrwydd ynghylch ein haelodaeth yn y dyfodol yn cael effaith negyddol ar ein heconomi.  


Pwysleisiwyd pwysigrwydd Cynhwysiant Digidol yng Nghymru mewn fideos a ddatblygwyd drwy’r Cyngor (ar gael ar wefan BIC). Roedd y clipiau o Gymru yn dangos pobl sydd wedi cael cefnogaeth gan Raglen Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru, Cymunedau 2.0, sydd wedi’i ariannu’n rhannol ag arian Ewropeaidd.  Tynnodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi sylw at ein hanes cryf o fuddsoddi ar draws cymunedau i sicrhau bod gan bawb gyfle i wella’u bywydau gan ddefnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf. Roedd yn hanfodol sefydlu cynhwysiant digidol ar draws holl waith Llywodraeth Cymru a pharhau i weithio’n agos gyda phartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Er bod manteision sylweddol i symud gwasanaethau ar-lein, nododd y Gweinidog bod nifer o bobl yn wynebu rhwystrau rhag defnyddio’r rhyngrwyd, felly rhaid i ni sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Mae rhaglenni fel Cymunedau 2.0 wedi’n helpu i gyrraedd at y rhai sydd mewn perygl o golli’r cyfleoedd mae’r byd digidol yn eu cynnig. Gwelir ein hymrwymiad parhaus i roi sylw i’r mater pwysig hwn yn ein targedau diwygiedig i leihau ymhellach nifer yr oedolion sydd wedi’u hallgau’n ddigidol i 18% yn 2015 a 13% yn 2017.

Cyhoeddwyd prif bwyntiau trafod yr Uwchgynhadledd mewn cyd-hysbysiad.

http://www.britishirishcouncil.org/news/23rd-british-irish-council-summit-held-isle-man