Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Caiff y trydydd adroddiad blynyddol ar gyflawni a gweithredu’r darpariaethau cyllid yn Rhan 2 o Ddeddf Cymru 2014 ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.
O dan adran 23 o'r Ddeddf, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru adrodd bob blwyddyn ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni a gweithredu’r darpariaethau o dan Ran 2 o’r Ddeddf, hyd at flwyddyn ar ôl i'r darpariaethau terfynol gael eu rhoi ar waith.
Mae Rhan 2 o Ddeddf Cymru 2014 yn darparu ar gyfer datganoli cyfres o bwerau cyllidol i Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu ar gyfer trethi Cymreig ar drafodiadau’n ymwneud â buddiannau mewn tir a gwarediadau tirlenwi; deddfu ar gyfer ei weithdrefnau cyllidebol ei hun a deddfu i alluogi Llywodraeth Cymru i fenthyca er mwyn cyllido gwariant cyfalaf a rheoli amrywiadau cyllidebol yn sgil datganoli trethi.
Mae’r Ddeddf hefyd yn darparu’r gallu i’r Cynulliad Cenedlaethol bennu cyfraddau treth incwm Cymreig ac yn galluogi Llywodraeth Cymru i gynnig a chyflwyno trethi newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol a dau Dŷ’r Senedd.
Mae’r adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn disgrifio’r cynnydd da sydd wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o ran rhoi pwerau cyllidol Deddf Cymru ar waith. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru a phasio Deddf Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) a Deddf Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).
Mae hefyd yn tynnu sylw at y cytundeb ar fframwaith cyllidol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno cyfraddau treth incwm Cymreig ym mis Ebrill 2019.
Rwy’n ddiolchgar i’r nifer mawr o bobl a sefydliadau sydd wedi cyfrannu o’u hamser a’u harbenigedd i gynghori Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf wrth inni baratoi i gyflwyno’r trethi Cymreig cyntaf ers bron 800 mlynedd, sef y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi, ym mis Ebrill.