Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Ar 30 Tachwedd, cadeiriais y drydedd Uwchgynhadledd Llygredd Afon i drafod ansawdd dŵr afonydd a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar ddatblygiad. Parhad yw’r digwyddiad hwn o gyfres o Uwchgynadleddau o dan fy arweiniad i, y Prif Weinidog a’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, sydd wedi'u cynllunio i lywio ein dull o fynd i'r afael â llygredd ffosfforws mewn afonydd Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC) sy'n methu yng Nghymru.
Rwy'n parhau i fod yn bryderus iawn am effaith llygredd ffosfforws ar ansawdd ein hamgylchedd dŵr, a'n gallu i ddatgloi datblygiadau tai y mae gwir angen amdanynt. Mae achosion llygredd yn niferus ac yn gymhleth, ac ni fydd unrhyw fesur unigol yn datrys y mater.
Unwaith eto, daeth uwch gynrychiolwyr o gwmnïau rheoleiddio, cwmnïau dŵr, datblygwyr tai, llywodraeth leol, undebau ffermio, y byd academaidd a chyrff amgylcheddol ynghyd yn yr uwchgynhadledd i drafod y cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn cynllun gweithredu Lleihau pwysau ar ddalgylchoedd afonydd Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC) i helpu i gyflenwi tai fforddiadwy: cynllun gweithredu.
Roeddwn yn falch iawn o weld ein rhanddeiliaid yn gweithio mor galed i fwrw ymlaen â chamau gweithredu priodol yn y Cynllun. Rydym wedi cymryd camau breision hyd yma wrth yrru ein uchelgais i ddatgloi datblygiad yn ein hafonydd SAC sy'n methu yn ei flaen, wrth osod rhai o'r sylfeini ar gyfer gwelliannau tymor hwy yn ein hafonydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn chwarae ei rhan hefyd, gan gynnwys
- Gweithredu strwythurau i oruchwylio a monitro'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Gweithredu;
- Darparu bron i £1.5 miliwn o gyllid i Fyrddau Rheoli Maethynnau hyd yma er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni camau blaenoriaeth mewn dalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sy'n methu;
- Darparu cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru i helpu i gyflymu eu gwaith ar adolygu trwyddedau. Bydd trwydded newydd ar gyfer gwaith trin dŵr Five Fords yn caniatáu'r Awdurdod Cynllunio Lleol i wneud penderfyniadau ar bron i 3000 o anheddau sy'n gyfran fawr o'r ceisiadau nas penderfynwyd arnynt eto yn nalgylch afon Dyfrdwy;
- Sefydlwyd sawl Grŵp Gorchwyl a Gorffen gan gynnwys i adrodd ar ymarferoldeb masnachu a gwrthbwyso maethynnau. Mae'r grŵp Gorchwyl a Gorffen Masnachu Maethynnau wedi cynhyrchu adroddiad y byddwn yn clywed mwy amdano yn ddiweddarach yn yr Uwchgynhadledd.
Mae'n amlwg ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol, ond wrth gwrs mae llawer i'w wneud o hyd. Roedd yr Uwchgynhadledd ddydd Iau yn gyfle gwych i glywed gan bob sector.
Rhoddodd Syr David Henshaw, Cadeirydd CNC gyflwyniad ar brosiect Dalgylch Arddangos Teifi, a arweiniodd at drafodaethau ar feddwl a gwneud pethau'n wahanol a defnyddio atebion arloesol i wneud i bethau ddigwydd, a'r prosiect hwn yn cynnig cyfle cyffrous i bawb roi cynnig ar ddull gweithredu gwahanol. Atgyfnerthodd Syr David ein gweledigaeth o wyddoniaeth dinasyddion sy’n rhan annatod o'r prosiect, gan helpu i ysgogi atebion a chyfrannu at reoli dalgylchoedd ar sail tystiolaeth.
Cyflwynodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd Mr Richard Roderick o Fferm Newton a gyflwynodd astudiaeth achos ar ddull wedi'i dargedu o reoli pridd a maethynnau. Roedd yn wych clywed o lygad y ffynnon am rai o'r manteision gwirioneddol ar fferm Newton a hefyd am yr heriau.
Rhannodd Craig Sparrow o Gymdeithas Tai Clwyd Alyn safbwynt Landlord Cymdeithasol Cofrestredig; Tynnodd Craig sylw at bwysigrwydd dull Cymru ar y Cyd, a sut roedd adolygu trwyddedau'n helpu i ddatgloi datblygiadau tai hanfodol i ddarparu cartrefi cynaliadwy o ansawdd da i'r bobl fwyaf anghenus.
Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr uwchgynhadledd ac am eu cyfraniadau at y cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r Cynllun Gweithredu. Rydym wedi cyflawni llawer ers yr uwchgynhadledd ddiwethaf, ac rwy'n falch ein bod wedi gweld canlyniadau cadarnhaol wrth symud tuag at wella iechyd afonydd yn gyffredinol a dod ag afonydd SAC sy'n methu yn ôl i gyflwr ffafriol.
Mae ffordd bell i fynd o hyd, ac ni fydd cyflawni niwtraliaeth o ran maethynnau mewn afonydd ar ei ben ei hun yn gwella iechyd afonydd yn y tymor hir. I'r perwyl hwn, mae angen i bawb barhau â'u gwaith caled a'u dull cydweithredol cadarnhaol i hwyluso gwelliannau tymor hir ac edrychaf ymlaen at glywed am y cynnydd a wnaed ar sail y cynllun gweithredu.
Cynhelir yr uwchgynhadledd nesaf ar 18 Mawrth a bydd yn cael ei chadeirio gan Syr David Henshaw.
Dim ond drwy gydweithio a defnyddio dull Cymru ar y Cyd y gallwn fynd i'r afael â'r risgiau lluosog sy'n effeithio ar ein llynnoedd, ein hafonydd a'n nentydd. Mae'n rhaid i ni weithredu i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i fynd i'r afael â'r heriau hyn.