Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o'n hymrwymiad i ddatgarboneiddio, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe ers cryn amser i greu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer y DU i ysgogi'r farchnad i fabwysiadu adeiladau sy'n gallu creu a storio eu hynni eu hunain.  Y term a ddefnyddir yw 'adeiladau ynni gweithredol', ac mae gan y cysyniad y potensial i newid yn radical y ffordd rydym yn dylunio ac yn adeiladu cartrefi a swyddfeydd yng Nghymru a ledled y byd.

Er mwyn hwyluso'r gwaith o adeiladu cyfleuster o'r enw y Ganolfan Adeiladau Ynni Gweithredol, mae'r Brifysgol wedi sicrhau £36 miliwn o gyllid gan elfen 'Trawsnewid Maes Adeiladu – Cynhyrchu Adeiladau Gwell' Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol (ISCF) ac Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI). 

Roedd y broses gynnig yn ei gwneud yn ofynnol i Brifysgol Abertawe ddangos ei bod wedi sicrhau arian cyfatebol a bod cefnogaeth ehangach ar gyfer y cynigion cyffrous.  Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn o fesurau i ddangos ei chefnogaeth – mae gwerthu'r tir ar gyfer lleoliad y cyfleuster newydd yn rhan bwysig o'r gefnogaeth hon.  Felly, hoffwn i hysbysu Aelodau heddiw fy mod wedi cymeradwyo trosglwyddo 3.39 erw o dir datblygu i Brifysgol Abertawe am £1.  Gwerth y tir yw £440,000, felly mae'n gyfraniad pwysig at ryddhau'r arian cyfatebol sylweddol mae'r Brifysgol wedi'i sicrhau drwy'r ISCF ac UKRI. Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi bod yn glir y bydd yn ceisio rhoi cymorth i brosiectau strategol pwysig lle mae'n gallu rhyddhau cyllid gan ffynonellau eraill. Mae'r prosiect cydweithredol hwn yn enghraifft dda o hyn ar waith.

Bydd y Ganolfan Adeiladau Ynni Gweithredol yn gweithio'n agos gyda dwy ganolfan arall yn y DU ar yr agweddau digidol a chynhyrchu ar ddatblygu deunyddiau ar gyfer tai. Bydd yn adeiladu ar lwyddiant prosiect SPECIFIC (y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol) Prifysgol Abertawe, sy'n datblygu ac yn integreiddio ei thechnolegau ei hun a thechnolegau eraill i ddangos cysyniadau adeiladau ynni gweithredol ar raddfa.  Bydd y Ganolfan Adeiladau Ynni Gweithredol yn gweithio gyda'r sector preifat a chwsmeriaid y llywodraeth – megis maes addysg, carchardai, y gwasanaethau amddiffyn a'r sector tai – i ddod o hyd i ddatrysiadau i oresgyn y rhwystrau presennol sy'n gysylltiedig â chyflwyno cysyniadau a strategaethau ynni newydd.

Bydd y Ganolfan Adeiladau Ynni Gweithredol yn Sefydliad Technoleg Rhanbarthol dielw wedi'i sefydlu gan Brifysgol Abertawe, ac iddo fwrdd ar wahân. Bydd SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe yn parhau i dyfu a datblygu'r dechnoleg a dangos y cysyniad ar raddfa. Mae'r Ganolfan Adeiladau Ynni Gweithredol yn cael ei chefnogi gan NSG, Coastal, Pobl, Cisco a phartneriaid diwydiant eraill ym maes ynni ac adeiladu, a rhanddeiliaid yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, i gynyddu nifer yr adeiladau ynni gweithredol yn sylweddol ac i ddatblygu’r capasiti i gynhyrchu deunyddiau ar gyfer y farchnad oddi ar y safle.

Bydd effaith economaidd ac allbynnau'r Ganolfan Adeiladau Ynni Gweithredol yn gwneud y canlynol:

  • Creu tua 50 swydd ar gyfer gweithwyr medrus iawn wedi'u cyflogi yn y ganolfan yn uniongyrchol;
  • Darparu lle ar gyfer meithrin cwmnïau deillio a chynigion ar gyfer mewnfuddsoddiadau ar gyfer y rhai sy'n newydd i'r farchnad;
  • Datblygu egwyddorion cadarn ar gyfer 'Adeiladau Ynni Gweithredol' i sicrhau y gellir datblygu a dilyn manylebau priodol ar gyfer mathau gwahanol o adeiladau;
  • Creu offeryn dichonoldeb ar gyfer dylunio ynni i adeiladau er mwyn integreiddio a ffurfweddu technoleg;
  • Gweithio gyda datblygwyr adeiladau i ddangos rhannau allweddol a chasglu data perfformiad beirniadol ar adeiladau sy'n cael eu defnyddio;
  • Cynhyrchu manylebau dylunio a pherfformiad cychwynnol fel rhan o raglen ar gyfer sectorau strategol a arweinir gan y llywodraeth (ysgolion, diwydiant, carchardai).

Bydd yr allbynnau uchod yn helpu i gyflawni nifer o amcanion polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys datgarboneiddio, swyddi o ansawdd uchel ac arloesi.