Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021



Mae gan Gymru draddodiad da o gynllunio amlasiantaethol ar gyfer argyfyngau. Rydw i am arfer y pwerau hyn yn briodol i adeiladu ar y sylfaen gadarn hon er mwyn parhau i gryfhau ein parodrwydd ar gyfer y sialensiau o'n blaen.

O ran polisi, mae gennym bellach gyfle i ddatblygu ein canllawiau a'n rheoliadau ein hunain mewn perthynas ag amrywiol swyddogaethau argyfyngau sifil posib, ond rydw i am sicrhau bod hyn yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad agos gyda'r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, y GIG ac asiantaethau eraill sy'n ymateb.

Bydd y ffordd y mae'r swyddogaethau hyn yn cael eu harfer yn ymarferol yn broses sy'n esblygu. Rydw i am weithio'n agos gyda Fforymau Lleol Cymru Gydnerth ac asiantaethau ymateb unigol i ddeall sut gall y pwerau newydd ychwanegu gwerth. Rydw i am gael sicrwydd bod safonau perfformiad cyson a derbyniol yn cael eu cynnal ar draws y gwasanaethau datganoledig mewn perthynas â dyletswyddau dan y Ddeddf hon. Rydw i am edrych ar ffyrdd o symud oddi wrth broses graffu drwy hunanasesiad i drefn lle mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan fwy gweithredol wrth reoli perfformiad gwasanaethau datganoledig.

Ceir dadleuon cryf ar hyn o bryd dros weld Llywodraeth Cymru yn arfer mwy o gyfrifoldeb dros argyfyngau sifil posib yng Nghymru. Ar adeg pan fo bygythiad terfysgaeth yn parhau i fod yn uchel, seiber ymosodiadau yn dod yn amlach a disgwyl i'r newid yn yr hinsawdd arwain at fwy o berygl o lifogydd a pheryglon eraill, mae'n bwysicach nag erioed i Weinidogion Cymru gael pwerau priodol i lunio'r ffordd y mae Cymru'n paratoi ei hun ar gyfer y peryglon hyn.

Ni fydd pwerau dan Ran 2 o'r Ddeddf yn cael eu trosglwyddo. Mae'r rhan hon o'r Ddeddf yn ymdrin yn benodol â'r Pwerau Argyfwng y mae Llywodraeth y DU yn eu cadw yn ôl ledled y DU.

Ni fydd unrhyw swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru sy'n caniatáu iddynt gael pwerau dros yr Heddlu na Diogelwch Gwladol dan y Ddeddf. Ni fydd Gweinidogion Cymru yn cael y pŵer i newid ystyr argyfwng dan Adran 1 o'r Ddeddf. Mae hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa bod heddlua yng Nghymru yn fater sydd wedi'i gadw yn ôl, ac mae'n osgoi'r potensial o weld sefyllfa'n codi lle gallai'r heddlu ac ymatebwyr datganoledig Cymru fod â dealltwriaeth wahanol o'r hyn sy'n cyfrif fel argyfwng.

Bydd gan Weinidogion Cymru bwerau bellach i gyhoeddi canllawiau mewn perthynas â dyletswyddau argyfyngau sifil posib, monitro cydymffurfiaeth dyletswyddau gwasanaethau datganoledig dan y Ddeddf a gosod cosbau ar gyfer diffyg cydymffurfiaeth. Ar ben hynny, ar ôl ymgynghori gyda Gweinidog y Goron, bydd modd i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau, gorchmynion a chyfarwyddiadau mewn perthynas ag ymatebwyr datganoledig, a gwneud gorchymyn yn diwygio'r rhestr o sefydliadau ymateb sy'n syrthio o fewn cymhwysedd datganoledig.

Mae tystiolaeth a ddarparwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac Adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru oll yn dangos bod y safbwynt statudol ar argyfyngau sifil posib yn gymhleth ac yn ddryslyd. Roedd angen newidiadau er mwyn darparu dealltwriaeth glir o swyddogaethau a chyfrifoldebau ac i gryfhau trosolwg strategol o'r ddeddfwriaeth. Mae'r trosglwyddiad hwn yn cynnig cyfle i ddarparu llwyfan cyfansoddiadol llai annelwig ar gyfer datblygu parodrwydd ar draws pob asiantaeth, a chryfhau'r gallu i wrthsefyll peryglon cynyddol. Dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o egluro atebolrwydd, ac mae'n cydnabod swyddogaeth de facto bresennol Gweinidogion Cymru a swyddogaeth gydlynu Llywodraeth Cymru.

Mae deddfwriaeth bresennol y DU yn darparu pwerau ffurfiol cyfyngedig iawn i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag argyfyngau sifil posib, ond nid yw hyn wedi ein hatal rhag arfer swyddogaeth arwain a chydlynu de facto. Gellir gweld hyn drwy waith Fforwm Cymru Gydnerth, dan fy nghadeiryddiaeth i, a'i berthynas â phedwar Fforwm Lleol Cymru Gydnerth ac asiantaethau unigol, pob un yn cydweithio i gryfhau ein gallu i ymateb yn effeithiol i argyfyngau.

Wrth arfer y swyddogaethau hyn, bydd modd i Weinidogion Cymru chwarae rhan fwy dylanwadol yn gosod cyfeiriad cynlluniau argyfyngau sifil posib a'u cyflawni yng Nghymru. Yn ogystal â datblygu polisi sy'n fwy priodol i Gymru, mae hefyd yn cynnwys medru darparu mwy o gymorth i asiantaethau datganoledig sy'n darparu'r gwasanaethau hynny.

Mewn datganiad ysgrifenedig dyddiedig 19 Mehefin 2018, cadarnhawyd bod Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 wedi dod i rym ar 24 Mai. Roedd hyn yn rhan o becyn o welliannau i setliad cyfansoddiadol Cymru dan Ddeddf Cymru 2017, ac yn cynnwys trosglwyddo swyddogaethau gweithrediaeth dan Ran 1 o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004.