Neidio i'r prif gynnwy

Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Fe fydd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn darparu ar gyfer diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a throsglwyddo ei swyddogaethau i’r Comisiynydd Iaith neu, o ran swyddogaethau hyrwyddo a hwyluso defnydd y Gymraeg, i’r Comisiynydd Iaith a/neu i Weinidogion Cymru.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Bwrdd am ei gyfraniad arloesol dros y blynyddoedd, ac edrychaf ymlaen at weld ei waith yn parhau hyd nes y sefydlir swyddfa’r Comisiynydd.

Wrth edrych i’r dyfodol, rhaid cydnabod bod y tirwedd gyfansoddiadol wedi ei drawsnewid ers sefydlu’r Bwrdd yn 1993.  Mae gennym Gynulliad a Llywodraeth Genedlaethol, Mesur Iaith pellgyrhaeddol, strategaeth iaith newydd i’w chyhoeddi’n fuan, yn dilyn ymgynghoriad - ac rydym wrthi’n gwireddu ein strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd y Comisiynydd Iaith yn rhan allweddol o’r tirwedd newydd, gyda’r cyfrifoldeb am ddatblygu a rheoleiddio system newydd er mwyn sicrhau gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd.

Wrth fynd i’r afael a’r newidiadau hyn, ac ystyried y ffordd ymlaen, rwyf wedi fy nhywys gan yr angen i sefydlu dyletswyddau clir i’r cyrff a fydd yn gyfrifol am y gwaith hollbwysig hwn, gan osgoi’r posibilrwydd o wrthdaro rhwng y gwaith rheoleiddio fydd angen ei wneud - a’r gwaith o weithio mewn partneriaeth efo nifer helaeth o gyrff er mwyn datblygu ystod eang o weithgareddau cymunedol.

Yr un pryd, rwy’n gweld gwir angen i ni greu cysylltiadau cryfach rhwng rhaglenni'r Llywodraeth sy’n cefnogi’r iaith a rhaglenni perthnasol eraill sydd o dan ofal Gweinidogion Cymru.   Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith mai un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth yw gweld y Gymraeg yn ffynnu.

Wrth ystyried hyn, wyf wedi penderfynu:

  • sicrhau fod y Comisiynydd yn gallu canolbwyntio ar ei rôl o sicrhau gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd a bod ganddo’r adnoddau i wneud hynny.

  • sicrhau fod y Llywodraeth yn gallu ysgwyddo mwy o’r cyfrifoldeb am reoli gweithgareddau o fewn ei strategaeth iaith

  • creu Uned Iaith estynedig o fewn y Llywodraeth, a fydd yn gallu gweithio’n greadigol ac yn rhagweithiol efo nifer helaeth o bartneriaid, er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu

  • sefydlu, trwy’r Mesur Iaith, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg er mwyn galluogi ein partneriaid i gynghori’r Llywodraeth ar ei strategaeth iaith.

Yn unol â’r penderfyniad hwn bydd y Comisiynydd yn:

  • canolbwyntio ar y system reoleiddio newydd, gan gynnwys datblygu a gosod safonau, ffurfio codau ymarfer a sefydlu'r drefn orfodi newydd, gan barhau i weithredu’r system cynlluniau iaith yn y cyfamser

  • monitro perfformiad cyrff yn unol â dyletswyddau wedi eu gosod arnynt

  • ymdrin â chwynion gan aelodau o’r cyhoedd ynglŷn â  methiant i gydymffurfio â safonau

  • cynghori a hybu arfer da ymysg cyrff preifat a chyrff y trydydd sector sy’n cwympo y tu allan i sgôp dyletswyddau statudol o dan y Mesur Iaith

  • darparu ymchwil ac ystadegau ar gyfer adroddiadau 5 mlynedd y Comisiynydd ar sefyllfa’r Gymraeg a chynnal ymchwiliadau i unrhyw faes o ddiddordeb i’r Gymraeg

  • cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ac eraill ar bolisi iaith a materion cysylltiedig trwy ddatblygu a dadansoddi ymchwil ac ystadegau

  • craffu yn annibynnol ar bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru a darparu sylwadau ar ddogfennau ymgynghori

  • datblygu isadeiledd i gynorthwyo eraill gyda’r gwaith o ddarparu gwasanaethau Cymraeg (e.e. mewn perthynas â therminoleg a chyfieithu)

  • ymdrin â cheisiadau mewn perthynas ag ymyrraeth honedig â rhyddid unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd

Yn unol â phenderfyniad y Llywodraeth bydd yr Uned Iaith estynedig yn:

  • rheoli rhaglen grantiau’r iaith Gymraeg (gan gynnwys grantiau i’r Eisteddfod Genedlaethol a’r mentrau iaith)

  • rheoli prosiectau gan gynnwys y rheini sydd wedi eu crybwyll yn y strategaeth iaith drafft (e.e. prosiect Twf)

  • darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer Cyngor Partneriaeth y Gymraeg, fydd yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu cyngor ar ein strategaeth iaith - a’r cynllun i’w wireddu

  • cynrychioli Llywodraeth y Cynulliad  ar rwydweithiau  rhyngwladol a’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

  • gweinyddu’r broses paratoi is-ddeddfwriaeth a allai gynnwys deddfwriaeth sy’n cynnwys safonau wedi eu hargymell gan y Comisiynydd, yn unol â’r Mesur Iaith.

Yn ogystal, bydd yr Uned Iaith estynedig yn aros yn gyfrifol am waith yr Uned Iaith bresennol, gan gynnwys darparu cyngor i Weinidogion Cymru ac arwain y gwaith o ddatblygu gallu Llywodraeth y Cynulliad i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd cyfrifoldebau’r Bwrdd yng nghyswllt goruchwylio cynllunio addysg Gymraeg gan awdurdodau lleol, ariannu’r gwasanaeth athrawon bro a Mudiad Ysgolion Meithrin yn cael eu trosglwyddo i Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau  Llywodraeth y Cynulliad.

Gyda’r newidiadau hyn, fe fydd y cyfrifoldeb am gynllunio ieithyddol, ac am hybu a hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg, yn gorwedd yn nwylo’r Comisiynydd Iaith, Llywodraeth y Cynulliad (mewn ymgynghoriad gyda Chyngor Partneriaeth y Gymraeg ac eraill) a nifer helaeth o gyrff, megis yr Urdd a’r mentrau iaith, sy’n gweithio’n ddiflino er lles y Gymraeg. Fe fydd y Mesur Iaith newydd hefyd yn galluogi’r Comisiynydd i osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hybu’r defnydd o’r Gymraeg.