Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Rwy'n falch o gadarnhau, o'r 1 Ebrill, bod swyddogaethau, asedau a staff Byrddau Draenio Mewnol Lefelau Powysland, Gwy Isaf a Chil-y-Coed a Gwynllŵg wedi'u trosglwyddo i Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dilyn ymrwymiad a wnaethpwyd gan y Llywodraeth ym mis Tachwedd 2013. Hoffwn ddiolch i bawb sy'n rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Byrddau Draenio Mewnol am eu cymorth, eu dull proffesiynol o weithio, a'r gwaith caled y maent wedi'i wneud i sicrhau bod hyn yn llwyddiannus.
Mae dull Cyfoeth Naturiol Cymru o reoli Ardaloedd Draenio Mewnol yng Nghymru yn golygu cyfuno'r broses o reoli lefel dŵr, cadwraeth a risg llifogydd mewn meysydd allweddol. Rydym yn disgwyl y bydd hyn yn sicrhau dull mwy cyson o weithio ledled y wlad ac yn cynnig system dda o reoli o ansawdd yn ogystal â sicrhau fod y sefyllfa'n fwy diogel yn ystod llifogydd.
Mae'r newidiadau wedi golygu hefyd bod holl swyddogaethau'r Byrddau Draenio Mewnol yng Nghymru yn cael eu trosglwyddo i Swyddfa Archwilio Cymru.