Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma lythyr at Aelodau am yr asesiad o effaith Brexit 'heb gytundeb' ar ein gallu i ddarparu Metro De Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio'n glos â Llywodraeth y DU dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar y rhaglen gymhleth o gytundebau sy'n gweddnewid y ffordd y mae gwasanaethau rheilffyrdd yn cael eu darparu yng Nghymru. Daeth un rhan o'r gwaith hwnnw i ben llynedd pan drosglwyddwyd awdurdod y fasnachfraint i Weinidogion Cymru a chytuno ar y trefniadau ariannu. Ers hynny, mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ar drosglwyddo asedau Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL) er mwyn i Lywodraeth Cymru allu rheoli'r gwasanaethau a'r buddsoddiad mewn seilwaith.

Dylai neb wneud yn fach o bwysigrwydd y gwaith hwn. Mae defnydd trwm yn cael ei wneud o asedau'r CVL. Er mai dim ond ychydig fwy na 15 y cant o'r rheilffyrdd yng Nghymru sy'n rhan o'r CVL, mae rhyw 56 y cant o holl wasanaethau teithwyr Cymru a'r Gororau yn rhedeg arni bob dydd.

Mae’r broses o drosglwyddo asedau’n dibynnu ar gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac mae swyddogion ar y ddwy ochr wedi bod yn gweithio’n galed dros y misoedd diwethaf er mwyn cyflawni’r gwaith o fewn yr amserlen y cytunwyd arni. Y gobaith yw trosglwyddo'r cyfan erbyn 20 Medi 2019, ac ar yr amod y ceir achos busnes boddhaol a thelerau ariannu priodol ar gyfer y trosglwyddiad a chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ym mis Mehefin 2019 byddwn yn cyflawni’r amserlen hon.

Deallaf, fodd bynnag, y gallai datblygiadau’r dyddiau diwethaf olygu bod Brexit 'heb gytundeb' yn awr yn bygwth y broses o drosglwyddo asedau, ac y gallai hyn gael effeithiau pellgyrhaeddol ar y gwaith o gyflawni prosiect Metro De Cymru. Yn sgil yr angen i drafod Brexit ‘heb gytundeb’ yn Whitehall efallai y bydd adnoddau o fewn yr Adran Drafnidiaeth yn cael eu trosglwyddo o waith sy’n parhau o fewn yr adran i ddyletswyddau eraill.

Er y gallaf gymryd camau i ddiogelu'r adnoddau sy'n cael eu neilltuo i'r gwaith hwn o fewn Llywodraeth Cymru, bydd unrhyw ostyngiad yn yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth y DU ac unrhyw ostyngiad o ran capasiti ar gyfer trosglwyddo'r asedau nid yn unig yn peryglu'r rhaglen drosglwyddo ond hefyd yn peryglu'r gallu i ddarparu Metro'r De yn unol â'r contractau. Hefyd, os bydd Brexit 'heb gytundeb' yn arwain at arafu'r trosglwyddiad ac at orfod ailraglennu'r gwaith ar seilwaith Metro'r De wedi hynny, mae posibilrwydd y collir yr £159m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) sydd o dan warant Llywodraeth y DU. Rwy’n disgwyl, fodd bynnag, i Warant Llywodraeth y DU barhau.  

Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i ofyn iddo warantu ar frys, a ninnau mor agos at ddiwedd y broses, y bydd prosiect trosglwyddo asedau'r CVL yn dal i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU.  At hynny, rwyf wedi cynnig siarad yn uniongyrchol ag e am unrhyw gamau ymarferol y gallwn eu cymryd i hwyluso trosglwyddo'r asedau, gan sicrhau diwydrwydd dyladwy, er mwyn i'n Llywodraethau allu canolbwyntio ar y problemau eraill fydd yn wynebu'r DU dros y misoedd i ddod.