Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cyhoeddi Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru yn ddiweddar.

Efallai y bydd yr Aelodau'n dymuno nodi bod yr Ail Gyllideb Atodol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddiad cyllideb i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel y tynnais sylw ato mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Hydref 2024. Gwnaethom roi taliad ariannol o £19m i CNC yn 2024 i wneud Taliad ar Gyfrif i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn sgil diffyg cydymffurfiaeth hanesyddol CNC â gofynion gweithio oddi ar y gyflogres (a elwir yn fwy cyffredin yn IR35). 

Mae CNC a CThEF yn parhau i gydweithio'n gadarnhaol er mwyn datrys y mater hwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda CNC a darparu'r cymorth angenrheidiol wrth fynd drwy'r broses hon.

Disgwylir i'r achos ddod i ben yn fuan, ac mae disgwyl i'r setliad terfynol o ran rhwymedigaeth  gael ei gadarnhau mewn pryd i'w gynnwys yng nghyfrifon blynyddol CNC ar gyfer 2024-25. 

Mae trefniadau monitro mwy manwl ar waith o hyd er mwyn rhoi sicrwydd o ran ein goruchwyliaeth o CNC.