Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Nid oes datganiad na sylw y gellir ei wneud a fydd yn lleddfu’r tristwch a’r anghyfiawnder mawr a deimlwyd yn dilyn llofruddiaeth y Dr Gary Jenkins.
Ni allwn ddychmygu’r boen a’r loes y mae ei deulu a’i ffrindiau wedi’i theimlo yn ystod yr wythnosau a’r misoedd diwethaf drwy’r cyfnod anodd hwn. Rydym yn cydymdeimlo’n ddiffuant â hwy ac â phawb sy’n galaru.
Mae’r Dr Jenkins yn cael ei gofio fel dyn caredig a hynod hael, fel dyn dyngarol a thrugarog. Roedd wedi cysegru ei fywyd i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i wasanaethu pobl eraill. Ymrwymiad a charedigrwydd na fydd ein gwlad, yn anffodus, fyth yn gallu ei ad-dalu.
Mae’r achos wedi dod i’r casgliad mai ymosodiad homoffobig yng nghanol ein prifddinas oedd hwn. Er yr holl gamau yr ydym wedi’u cymryd yn yr ymgyrch tuag at gydraddoldeb, mae hyn yn ein hatgoffa’n greulon o’r daith bell sydd o’n blaenau o hyd. Mae hefyd yn dangos y casineb y mae ein cymuned LHDTC+ yn parhau i’w wynebu. Fodd bynnag, rhaid inni beidio â gadael i hyn dorri ein hysbryd nac achosi inni golli ffydd. Rhaid i hyn atgyfnerthu ein gweledigaeth o wir gydraddoldeb, cyfiawnder a diogelwch.
Fel Llywodraeth, rydym wedi nodi ein huchelgais yn glir. Drwy ein Cynllun Gweithredu LHDTC+ cadarn, ein nod yw gwneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Mae hynny’n golygu gweithio gyda’n partneriaid, ein cymunedau a’r heddlu i sicrhau ein bod ni’n ddiogel, ein bod ni’n rhydd i fyw ein bywydau heb ddioddef anwybodaeth, camdriniaeth a chasineb. Byddwn yn parhau â’n cynlluniau uchelgeisiol drwy weithio gyda’n cymunedau, ein partneriaid a’n gwasanaethau cyhoeddus ymroddedig. Mae rhan sylweddol o’r cynllun hwn yn ceisio mynd i’r afael â throseddau casineb a’u hatal. Yr wythnos ddiwethaf gwnaethom gynyddu ffocws LHDTC+ yr ymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’. Mae’n iawn ein bod yn codi’n llais ac yn cefnogi’r gwaith o fynd i’r afael â throseddau casineb gyda’n gilydd. Mae llawer i’w wneud ond rydym yn benderfynol y byddwn yn creu’r Gymru y mae pawb am ei gweld.
Fel gwlad, cawn ein harwain gan ein gallu i ofalu am ein gilydd. Nid creulondeb y noson honno sy’n adlewyrchu’r hyn ydym ni a phwy ydym ni, ond yn hytrach caredigrwydd a thrugaredd y Dr Jenkins sy’n gwneud hynny.