Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Rwy'n falch iawn o hysbysu'r Cynulliad y bydd Comisiwn y Gyfraith yn ymgymryd â phrosiect newydd i adolygu'r gyfraith sy'n llywodraethu gweithrediad tribiwnlysoedd datganoledig Cymru a gwneud awgrymiadau i'w diwygio.
Dywedodd Comisiwn y Gyfraith yn ei 13eg Rhaglen ar gyfer Diwygio'r Gyfraith ei fod am gynnal o leiaf un prosiect i Gymru yn unig pan fyddai maes priodol wedi'i nodi. Dyma'r prosiect hwnnw.
Mae rheolau a gweithdrefnau presennol y gwahanol dribiwnlysoedd datganoledig sydd ar waith yng Nghymru yn gymhleth ac yn anghyson, gan eu bod wedi datblygu fesul dipyn o dan ystod eang o wahanol ddeddfwriaeth. Datblygwyd llawer o'r ddeddfwriaeth hon cyn datganoli, a hefyd cyn cydnabod bod tribiwnlysoedd yn arfer swyddogaeth farnwrol y wladwriaeth, yn hytrach na swyddogaeth weithredol. Ar ben hynny, nid yw'r ddeddfwriaeth yn ystyried swyddogaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, a gyflwynwyd gan Ddeddf Cymru 2017.
Bydd y prosiect yn ystyried materion yn ymwneud â Bil Tribiwnlysoedd newydd i Gymru, wedi'i lunio i reoleiddio gweithrediad un system unigol ar gyfer tribiwnlysoedd Cymru.
Bydd yr adolygiad yn edrych ar faterion gan gynnwys:
- cwmpas system dribiwnlys Cymru
- swyddogaethau Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac Uned Tribiwnlysoedd Cymru
- penodiad a disgyblaeth barnwyr ac aelodau eraill o Dribiwnlysoedd
- penodi Llywyddion/Dirprwyon
- pŵer i wneud rheolau gweithdrefnol a'u safoni
- prosesau apelio
- prosesau cwyno
- amddiffyn annibyniaeth farnwrol
Bydd y prosiect yn cymryd deuddeg mis ac fe fydd yn cychwyn yn 2019.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.