Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hawl Plentyn i Apelio mewn Cysylltiad ag Anghenion Addysgol Arbennig ac i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar Sail Anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC)

Mae Mesur Addysg (Cymru) 2009 ("y Mesur") yn ddeddfwriaeth arloesol sy'n gwneud darpariaeth i blant gael hawl i apelio mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig, a hawl i wneud hawliad mewn cysylltiad â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion, i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.

Mae'r Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru i dreialu'r hawliau newydd am gyfnod o hyd at 40 mis. Felly, mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd cynlluniau peilot sylweddol yn dechrau'r mis hwn.

Cafodd Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012 eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 13 Chwefror 2012 yn unol â'r weithdrefn negyddol. Daeth y Rheoliadau i rym ar 6 Mawrth 2012 ac maent yn caniatáu i'r hawliau a'r dyletswyddau newydd o dan y Mesur gael eu treialu yn awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Wrecsam tan 30 Mehefin 2015. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru ofyn am wybodaeth gan y Tribiwnlys, yr awdurdodau lleol sy'n treialu neu gorff sy'n gyfrifol am ysgol yn yr awdurdodau lleol sy'n treialu. Pan fydd y Rheoliadau treialu yn peidio â bod yn effeithiol, bydd yr hawliau a'r dyletswyddau yn gymwys yn awtomatig i Gymru gyfan.

Yr wyf hefyd yn falch o gyhoeddi bod rheoliadau gweithdrefnol newydd wedi'u creu ar gyfer y TAAAC. Daeth Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012, a osodwyd ar 13 Chwefror, i rym ar 6 Mawrth 2012.   Mae'r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi ac yn diwygio'r rheoliadau presennol sy'n gymwys i'r TAAAC. Mae'r Rheoliadau yn galluogi'r TAAAC hefyd i ddelio ag apelau AAA a hawliadau mewn cysylltiad â gwahaniaethu ar sail anabledd a wneir gan blant yn yr ardaloedd treialu.


Adroddiad Blynyddol TAAAC 2010/11

Hoffwn dynnu eich sylw at brif ganfyddiadau Adroddiad Blynyddol TAAAC, y bûm yn ei drafod gyda Llywydd TAAAC, Rhiannon Ellis Walker, yn gynharach eleni:

  • Bu cynnydd cyson yn nifer yr apelau AAA, ac roedd 112 wedi cofrestru yn ystod cyfnod yr adroddiad o gymharu â 106 yn ystod 2009/10.
  • Bu gostyngiad sylweddol yn nifer yr apelau oedd ynghylch gwrthod rhoi datganiad. Y math yma o apêl oedd 9% o'r holl apelau a gofrestrwyd o gymharu â 22% yn ystod 2009/10.  
  • Yn 2010/11 bu cynnydd bach yn yr apelau ynghylch gwrthod asesu. Y math yma o apêl oedd 37% o'r holl apelau a gofrestrwyd o gymharu â 34% yn ystod 2009/10.
  • Un maes sy'n peri pryder yw nifer uchel yr apelau a ildiwyd gan yr awdurdodau lleol. Roedd hyn yn 33% o'r holl apelau yr ymdriniwyd â hwy yn ystod yr adroddiad. Yn enwedig, ildiwyd i nifer fawr o'r apelau ynghylch gwrthod asesu, sef 38 o'r 42 apêl.
  • Gwelwyd cynnydd hefyd yn yr apelau am gynnwys y datganiadau AAA. Y math yma o apêl oedd 52% o'r holl apelau a gofrestrwyd o gymharu â 43% yn ystod 2009/10.
  • O ran canlyniadau'r apelau hyn, aeth 18% ohonynt i wrandawiad i benderfynu arnynt, a derbyniwyd 89% ohonynt yn llawn neu'n rhannol.  Tynnwyd 33% o'r apelau yn ôl ac ildiwyd i 33%. Mae 16% o'r apelau wedi'u cario ymlaen i'r flwyddyn adrodd gyfredol.

Ceir dolen i'r fersiwn lawn o Adroddiad Blynyddol TAAAC (wefan allanol).

Er bod union nifer yr apelau a gofrestrwyd yn erbyn awdurdodau lleol unigol yn dal yn gymharol isel, mae'n destun pryder bod hyn ar gynnydd mewn rhai awdurdodau lleol a fu'n llwyddiannus yn y gorffennol o ran lleihau niferoedd.

Yr hyn sy'n peri pryder penodol yw'r gyfradd ildio uchel yn achos penderfyniadau i beidio ag asesu plentyn a allai fod ag AAA.  Mae hyn yn straen annerbyniol ar y teuluoedd dan sylw. Felly, rwyf wedi ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn iddynt atgoffa'r awdurdodau lleol bod rhaid iddynt roi sylw i God Ymarfer AAA Cymru wrth ddelio â phlant ag AAA, fel y gellir osgoi anghydfodau, neu fel y gellir atal anghydfodau rhag cael eu cyfeirio at y TAAAC cyn cael eu hildio.

Adroddiad y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd ‘Right First Time’.

Yn dilyn y thema hon hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gymeradwyo'r adroddiad ‘Right First Time’, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd (wefan allanol).  Mae'n cynnig camau ymarferol i helpu cyrff cyhoeddus fabwysiadu diwylliant o fod yn 'gywir y tro cyntaf' yn eu sefydliadau. 

Mae adroddiad  ‘Right First Time’ yn nodi'n gywir fod gwasanaeth gwael a gwastraffu arian cyhoeddus yn annerbyniol. Mae hefyd yn awgrymu y gall y gwasanaeth gwael hwn achosi pryderon ychwanegol a straen i rieni a rhoi baich ariannol arnynt.

Er bod gan bob parti ran i'w chwarae mewn unrhyw anghydfod am y gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd, dylai awdurdodau lleol wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod y gweithdrefnau a sefydlwyd yn golygu y gallant wneud yr hyn sy'n iawn y tro cyntaf.

I Gloi

Mae arnom ddyled i blant ag anghenion addysgol arbennig a'u teuluoedd i wneud yn siŵr y gallant gael y gwasanaethau priodol gyda chyn lleied o straen a biwrocratiaeth â phosibl.  Bydd y cynigion deddfwriaethol y byddaf yn ymgynghori arnynt yn ddiweddarach eleni yn anelu at gyflawni hynny.  Yn y cyfamser hoffwn bwyso ar yr awdurdodau lleol i weithredu'r system bresennol mewn modd mor gefnogol â phosibl sy'n rhoi pobl yn flaenaf.