Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae'r blaenoriaethau gwariant sydd wedi'u nodi yn y Gyllideb ddrafft a gyhoeddir heddiw yn cael eu cefnogi gan drethi sydd wedi’u datganoli’n llawn a threthi sydd wedi’u datganoli’n rhannol i Gymru.
Mae’r datganiad hwn yn nodi fy nghynlluniau treth sydd wedi’u cynnwys yn y Gyllideb ddrafft. Gyda'i gilydd, bydd Cyfraddau Treth Incwm Cymru, y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a'r Dreth Trafodiadau Tir yn cyfrannu tua £3.5 biliwn at Gyllideb Llywodraeth Cymru yn 2024-25.
Cyfraddau Treth Incwm Cymru
Rwy'n cynnig pennu cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2024-25 ar 10c ar gyfer y tair cyfradd treth incwm (sylfaenol, uwch ac ychwanegol). Bydd hyn yn sicrhau bod trethdalwyr yng Nghymru yn talu'r un cyfraddau treth incwm â threthdalwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae aelwydydd yn profi'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw gwirioneddol ers i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddechrau cofnodi yn yr 1950au. Ni ddylai trethdalwyr yng Nghymru wynebu cyfraddau uwch o drethi incwm.
Ochr yn ochr â'r Gyllideb ddrafft hon, rwy'n cyhoeddi Canllaw Cyflym wedi'i ddiweddaru ar Gyfraddau Treth Incwm Cymru. Mae hwn yn rhoi amcangyfrifon o'r effaith y gallai newidiadau i bob un o dair cyfradd Cymru ei chael ar refeniw.
Y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
O 1 Ebrill 2024 ymlaen, rwy’n bwriadu cynyddu cyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn unol â’r rhagolygon o ran chwyddiant Mynegai Prisiau Manwerthu (fel y'i rhagwelir gan y Swyddfa Cyfrifoldbe Cyllidebol). Mae hyn yn gyson â chyfraddau treth dirlenwi’r DU ar gyfer 2024-25 er mwyn cefnogi'r amcan polisi o leihau’r gwastraff sy'n cael ei waredu mewn safleoedd tirlenwi, ac i helpu i gyflawni ein nod o ddod yn genedl ddiwastraff.
Drwy bennu cyfraddau ar gyfer 2024-25 sy'n gyson â threth dirlenwi'r DU, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar y refeniw treth, gan sicrhau hefyd fod llai o risg y caiff gwastraff ei symud ar draws ffiniau.
Bydd y Rheoliadau sy'n ofynnol ar gyfer rhoi effaith i'r newidiadau hyn yn cael eu gosod gerbron y Senedd ym mis Ionawr 2024.
Mae'r newidiadau arfaethedig i'r cyfraddau o 1 Ebrill 2024 ymlaen i’w gweld yn Atodiad 1.
Y Dreth Trafodiadau Tir
Ni chynigir gwneud unrhyw newidiadau i unrhyw un o gyfraddau'r Dreth Trafodiadau Tir yn y Gyllideb Ddrafft hon.
Ym mis Medi 2023, pris cyfartalog tŷ oedd £215,000, a £185,0001 ar gyfer prynwyr tro cyntaf. Mae hyn islaw'r trothwy cychwynnol ar gyfer prif gyfraddau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir, set £225,000. Mae data'r Dreth Trafodiadau Tir yn dangos bod tua 60% o drafodiadau preswyl ar gyfer cydnabyddiaeth islaw'r trothwy hwnnw.
Ochr yn ochr â'r elfennau sy'n gysylltiedig â threth yn y Gyllideb ddrafft, cyhoeddir heddiw hefyd ddwy ddogfen ymgynghori ynghylch y Dreth Trafodiadau Tir.
Yr Adroddiad ar Bolisi Trethi Cymru
Rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw y trydydd Adroddiad blynyddol ar Bolisi Trethi.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn adrodd yn erbyn Fframwaith Polisi Trethi a Chynllun Gwaith Llywodraeth Cymru. Mae'r Adroddiad yn nodi'r cynnydd ar yr ystod o weithgareddau rydym yn cymryd rhan ynddynt, gan fwrw ymlaen â'n hymrwymiadau sy'n gysylltiedig â threth yn y Rhaglen Lywodraethu gan gynnwys ym maes diwygio cyllid llywodraeth leol, a'r ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth sy'n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll ymwelwyr.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.