Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae’r Swyddfa Gartref wedi treialu’r Cynllun Cymorth i Ddioddefwyr Mudol ers 2020. Mae’n darparu rhywfaint o gymorth, llety a chynhaliaeth i bobl heb hawl i gyllid cyhoeddus sy’n ffoi rhag trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae’r cynllun hwn wedi bod yn gam pwysig ymlaen i ffoaduriaid, mudwyr a cheiswyr lloches sy’n ddioddefwyr trais a cham-drin rhywiol. Er hynny, mae bylchau sylweddol yn y ddarpariaeth. Er enghraifft, mae terfynau ar opsiynau tai oherwydd cyfyngiadau amser y cynllun; rydym yn gwybod bod dioddefwyr yn ei chael yn anodd gofalu am eu teuluoedd gyda’r cyllid sydd ar gael, ac y gall fod yn anodd manteisio ar y trefniadau cymorth ac atgyfeirio.
Mae’r rhain i gyd yn creu rhwystrau diangen i fenywod sy’n ceisio diogelwch. Ein nod yw goresgyn y rhwystrau hyn gyda’n Cronfa Gymorth i Fudwyr sy’n Ddioddefwyr Trais, a fydd yn cael ei threialu am flwyddyn gan BAWSO.
Rwy’n bwriadu defnyddio’r gwersi a ddysgir o’r cynllun peilot hwn, ynghyd â’r gwerthusiad o Gynllun Cymorth i Ddioddefwyr Mudol y Swyddfa Gartref, i lywio’r gwaith o ddylunio cymorth tymor hirach i ddiwallu anghenion dioddefwyr mudol yng Nghymru.
Mae ein cynllun peilot yn gam sylweddol o ran cyflawni argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Trais ar sail Rhywedd – menywod mudol, a oedd yn tynnu sylw at y rhwystrau, y cam-drin a’r caledi a brofir gan lawer o fenywod mudol.
Mae hefyd yn ategu ein cymorth presennol i bobl y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol wedi effeithio arnynt, a bydd yn sicrhau bod gennym ddull yn ei le na fydd yn eithrio yr un dioddefwr.
Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am ei waith, ac i’r Grŵp Llywio VAWDASV Heb Hawl i Arian Cyhoeddus, y mae ei gyfraniad a’i gefnogaeth amhrisiadwy wedi arwain at sefydlu’r gronfa hon.
Ni fydd Cymru yn goddef cam-driniaeth.