Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

 

Ar 5 Hydref, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn nodi lefelau uwchgyfeirio byrddau iechyd ledled Cymru. Dywedais fod statws uwchgyfeirio byrddau iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr a Chwm Taf Morgannwg yn cael eu hystyried ar wahân ac y byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar ôl i’r cyfarfod teirochrog gael ei gynnal.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ar 7 Mehefin, fe wnes i gadarnhau fy mhenderfyniad i ymestyn statws ymyrraeth wedi’i thargedu y bwrdd iechyd i gynnwys Ysbyty Glan Clwyd, gan ganolbwyntio ar y gwasanaeth fasgwlaidd a'r adran frys. 

Mae'n amlwg bod nifer o heriau difrifol yn parhau y mae angen i'r bwrdd iechyd eu goresgyn. Rwyf wedi derbyn y cyngor na ddylai fod unrhyw newid i statws uwchgyfeirio’r bwrdd iechyd.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Ar 7 Tachwedd, cyhoeddais adroddiad diweddaraf y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth. I gydnabod y cynnydd a wnaethpwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, cyhoeddais fy mhenderfyniad i symud y gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol i lawr o fesurau arbennig i ymyrraeth wedi’i thargedu.

Fodd bynnag, wedi'r cyfarfod teirochrog, rwyf wedi derbyn argymhelliad y dylid gwneud newidiadau pellach i statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

  1. Mae’r statws uwchgyfeirio ar gyfer llywodraethiant ansawdd yn parhau ar ymyrraeth wedi’i thargedu.
  2. Mae’r statws uwchgyfeirio ar gyfer ansawdd yn gysylltiedig â pherfformiad ac amseroedd aros hir yn cael ei godi i ymyrraeth wedi’i thargedu.
  3. Mae’r statws uwchgyfeirio ar gyfer cynllunio a chyllid yn cael ei godi i fonitro uwch.

Mae’r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran llywodraethiant ansawdd, ond mae wrthi’n rhoi model gweithredu newydd ar waith. Rhaid imi gael sicrwydd bod y strwythur newydd hwn yn cael ei wreiddio ar draws y bwrdd iechyd a’i fod yn cael effaith gadarnhaol ar effeithiolrwydd prosesau llywodraethiant y bwrdd iechyd cyn y gellir ystyried isgyfeirio yn y maes hwn.

Mae Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn bwriadu cynnal adolygiad dilynol ar y cyd o drefniadau llywodraethiant ansawdd y bwrdd iechyd yn gynnar y flwyddyn nesaf. Bydd canfyddiadau a chasgliadau’r  adolygiad dilynol hwn, yn enwedig unrhyw sicrwydd y gellir ei ddarparu ynghylch cynnydd y bwrdd iechyd o ran cyflawni yn erbyn yr 14 argymhelliad a nodwyd yn yr adolygiad gwreiddiol yn 2019, yn cyfrannu at unrhyw drafodaethau am statws uwchgyfeirio yn y dyfodol.

Mae ansawdd a pherfformiad ar draws pob maes o ofal a gynlluniwyd, gofal brys a gofal mewn argyfwng, yn her i bob bwrdd iechyd wrth i’r GIG adfer o’r pandemig. Fodd bynnag, nodwyd bod yr heriau y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn eu hwynebu yn sylweddol, yn enwedig o ran gofal brys ac argyfwng, adfer y gwasanaeth gofal a gynlluniwyd, gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed a chanser – mae’r rhain yn cael effaith negyddol ar ansawdd gofal a phrofiad cleifion.

Rwyf wedi nodi fy nisgwyliadau ar gyfer adfer gwasanaethau gofal a gynlluniwyd yn eglur ac nid yw’r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd digonol yn erbyn y targedau hyn.

Mae’r bwrdd iechyd wedi’i uwchgyfeirio i fonitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid am nad yw wedi gallu cyflwyno Cynllun Tymor Canolig Integredig tair blynedd mantoledig, wedi’i gymeradwyo. Mae felly wedi mynd yn groes i’w ddyletswydd statudol a bu gofyn iddo gyflwyno cynllun blynyddol, sy’n rhag-weld diffyg rheolaidd sylweddol o £26.5 miliwn.

Mae pob sefydliad arall yn parhau ar y lefelau uwchgyfeirio a nodwyd yn fy niweddariad blaenorol i’r Aelodau. Mae’r tabl isod yn dangos statws uwchgyfeirio blaenorol a phresennol pob sefydliad.

Atodiad 1

Sefydliad

Chwefror 2022

Medi 2022

Hydref 2022

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ymyrraeth wedi’i thargedu

Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer iechyd meddwl, Ysbyty Glan Clwyd, gwasanaethau fasgwlaidd, arweinyddiaeth, ymgysylltu, cyllid, strategaeth, cynllunio a pherfformiad

Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer iechyd meddwl, Ysbyty Glan Clwyd, gwasanaethau fasgwlaidd, arweinyddiaeth, ymgysylltu, cyllid, strategaeth, cynllunio a pherfformiad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Trefniadau arferol

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mesurau arbennig ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer llywodraethiant ansawdd

Mesurau arbennig ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer llywodraethiant ansawdd

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid. Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, llywodraethiant ansawdd a pherfformiad

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Monitro uwch

Monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad, ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer cyllid a chynllunio

Monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad, ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer cyllid a chynllunio

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Monitro uwch

Monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad

Monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol