Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

O dan y Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd ar y cyd, mae Llywodraeth Cymru yn cwrdd â Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol yr holl fyrddau iechyd ac  Ymddiriedolaethau’r GIG.  Bydd amrywiaeth eang o wybodaeth yn cael ei hystyried er mwyn helpu i nodi unrhyw faterion sy’n peri pryder penodol mewn perthynas ag ansawdd neu berfformiad.

O dan delerau’r Trefniadau Uwchgyfeirio, gellir galw cyfarfod eithriadol os oes pryderon penodol ynglŷn ag un o sefydliadau’r GIG. Codwyd pryderon ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a hynny’n wreiddiol yn sgil y camau gweithredu diweddar o ran gwasanaethau mamolaeth, a chafodd cyfarfod teirochrog eithriadol ei gynnal fis Rhagfyr 2018.

Er bod y grŵp yn cydnabod bod gan y bwrdd iechyd record dda o ran rheoli arian a chael cymeradwyaeth i’w Gynlluniau Tymor Canolig Integredig, cytunwyd y dylid codi ei statws uwchgyfeirio o ‘trefniadau arferol’ i ‘monitro uwch’ er mwyn cydnabod nifer o feysydd pryder, yn ymwneud â threfniadau llywodraethu ansawdd, gan gynnwys:

  • Pryderon ynglŷn â gwasanaethau mamolaeth, sydd wedi arwain at ddatganiad diweddar gennyf i ac at adolygiad ar y cyd gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, a fydd yn cyflwyno’u hadroddiad yng ngwanwyn 2019;
  • Cydymffurfio â’r Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol), gan i arolygiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ganfod nad oedd y bwrdd iechyd yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith;
  • Yr angen i sicrhau bod camau gweithredu ar waith i ymateb i adroddiad diweddar gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol;
  • Pryderon ynglŷn â’r trefniadau llywodraethu ansawdd;
  • Ansawdd y broses o adrodd am ddigwyddiadau difrifol, a arweiniodd at gomisiynu adolygiad allanol o’r broses er mwyn gwella’r mecanweithiau lleol;
  • Mae pryderon wedi’u codi ynghylch ymateb y bwrdd iechyd i gamau gweithredu yn adroddiadau adolygu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sydd wedi canfod nad yw rhai camau wedi’u cwblhau hyd yn oed yn ystod ymweliadau dilynol;
  • Cydymffurfio â’r Ddeddf Staff Nyrsio – yn disgwyl i’r Bwrdd gadarnhau’n ffurfiol ei fod yn cydymffurfio.

Gan fod Cadeirydd newydd wedi’i benodi i’r bwrdd iechyd yn ddiweddar, ynghyd â nifer o Aelodau Annibynnol newydd, roedd y grŵp o’r farn y dylid darparu rhywfaint o gymorth allanol i’r Cadeirydd a’r Aelodau Annibynnol o ran yr hyn o ddisgwylir o safbwynt llywodraethu ansawdd.

Byddaf yn disgwyl i gamau gael eu cymryd ar unwaith ynglŷn â’r meysydd sy’n peri pryder, ac i welliannau fod yn amlwg o fewn yr ychydig fisoedd nesaf. Bydd pob cyfle ar gael i’r sefydliad ymateb yn briodol a dychwelyd at y trefniadau monitro arferol yn gyflym, o gofio bod ganddo statws ‘cynllun wedi’i gymeradwyo’ a record dda o gyflawni ar ystod o fesurau a datblygiadau. Y bwriad wrth godi’r statws uwchgyfeirio yw galluogi’r bwrdd iechyd i ganolbwyntio ar gamau priodol ac unioni’r sefyllfa mewn perthynas â’r pryderon hyn.

Cedwir golwg ar statws uwchgyfeirio’r bwrdd iechyd drwy’r trefniadau teirochrog a byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am hynt y broses.