Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'r datganiad hwn yn nodi lefelau uwchgyfeirio ymddiriedolaethau'r GIG, awdurdodau iechyd arbennig a byrddau iechyd yng Nghymru.
Mae'r amgylchedd y mae byrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig yn gweithredu ynddo yn dal yn anodd. Ceir pwysau ariannol, gweithredol a staffio. Maent yn ymateb i alw cynyddol am ofal brys, gofal mewn argyfwng a gofal a gynlluniwyd, gan weithio ar yr un pryd i leihau amseroedd aros hir. Nid rhywbeth unigryw i Gymru yw'r heriau hyn.
Rwyf wedi derbyn yr argymhellion gan swyddogion Llywodraeth Cymru na ddylai fod unrhyw newid, am y tro, i statws uwchgyfeirio sefydliadau ac felly mae statws uwchgyfeirio cyrff y GIG fel a ganlyn:
Sefydliad | Statws Presennol (Mehefin 2024) |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan | Lefel 4 - Ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio Lefel 3 - Monitro uwch ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal brys a gofal mewn argyfwng yn Ysbyty Athrofaol y Faenor |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Lefel 5 - Mesurau arbennig |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro | Lefel 3 - Monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg | Lefel 4 - Ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau Lefel 3 - Monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda | Lefel 4 - Ymyrraeth wedi'i thargedu |
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys | Lefel 3 - Monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe | Lefel 4 - Ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau Lefel 3 - Monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio Lefel 3 - Monitro uwch ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol |
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru | Lefel 1 - Trefniadau arferol |
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre | Lefel 1 - Trefniadau arferol |
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru | Lefel 1 - Trefniadau arferol |
Iechyd a Gofal Digidol Cymru | Lefel 1 - Trefniadau arferol |
Addysg a Gwella Iechyd Cymru | Lefel 1 - Trefniadau arferol |
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru | LLYW.CYMRU