Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

O dan y Cyd-drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd, mae swyddogion Llywodraeth Cymru’n cyfarfod ag Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o leiaf ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol pob un o’r byrddau iechyd, ymddiriedolaethau’r GIG a’r Awdurdodau Iechyd Arbennig mewn perthynas ag ansawdd, llywodraethu, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol. Mae amrywiaeth eang o wybodaeth yn cael ei hystyried er mwyn nodi unrhyw faterion a llywio’r asesiad.

Mae pedair lefel uwchgyfeirio yn y fframwaith:

  • Trefniadau arferol
  • Monitro uwch
  • Ymyrraeth wedi'i thargedu
  • Mesurau arbennig

Cynhaliwyd y cyfarfod diweddaraf yn rhithiol ar 7 Medi 2022. Ni chafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr na Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eu hystyried yn y cyfarfod hwn – bydd eu statws uwchgyfeirio yn cael ei drafod mewn cyfarfod diweddarach ym mis Hydref 2022.

Nododd y grŵp fod sefydliadau yn parhau i gael anawsterau o ran perfformiad, yn arbennig gofal brys ac argyfwng, adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd a chanser, gan nodi’r effaith roedd hyn yn ei chael ar ansawdd y gofal a phrofiad cleifion.

Yn dilyn y cyfarfod, gwnaeth Prif Weithredwr GIG Cymru yr argymhellion a ganlyn imi:

  • Uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro o’r lefel trefniadau arferol at y lefel monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid.
  • Uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda at y lefel ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer cynllunio a chyllid ac iddo barhau ar y lefel monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad.
  • Isgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe at y lefel trefniadau arferol ar gyfer cynllunio a chyllid, ond iddo barhau ar y lefel monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad.

Rwyf wedi cytuno i’r argymhellion hyn am y rhesymau canlynol:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cael ei uwchgyfeirio at y lefel monitro uwch o’r lefel trefniadau arferol oherwydd nad oedd yn gallu cyflwyno Cynllun Tymor Canolig Integredig tair blynedd cytbwys a chymeradwy. Mae’r bwrdd iechyd yn ymwybodol o’r gofynion ac mae’n gweithio i fynd i’r afael â’r sefyllfa. Bydd y statws hwn yn cael ei adolygu yn y cyfarfod nesaf.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael ei uwchgyfeirio at y lefel ymyrraeth wedi’i thargedu o’r lefel monitro uwch ar gyfer cyllid a chynllunio oherwydd nad oedd yn gallu cyflwyno Cynllun Tymor Canolig Integredig cytbwys a chymeradwy neu gynllun blynyddol terfynol ac mae diffyg ariannol cynyddol yn cael ei adrodd. O ran ansawdd a pherfformiad, mae yna bryderon ynghylch gofal brys ac argyfwng, gan gynnwys trosglwyddo cleifion o ambiwlans, canser a pherfformiad yn erbyn rhan 1a o’r mesur gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cael ei isgyfeirio at y lefel trefniadau arferol o’r lefel monitro uwch ar gyfer cyllid a chynllunio oherwydd bod ganddo Gynllun Tymor Canolig Integredig cymeradwy. Bydd y bwrdd iechyd yn parhau ar y lefel monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad gan fod pryderon yn parhau ynghylch cyflymder ailddechrau gofal a gynlluniwyd, canser ac amrywiadau dyddiol mewn gofal brys ac argyfwng.

Mae pob sefydliad arall yn parhau i fod ar eu lefel uwchgyfeirio flaenorol.

Dengys y tabl yn Atodiad 1 statws uwchgyfeirio blaenorol a phresennol pob sefydliad.

Atodiad 1

Sefydliad

Statws Blaenorol

(Chwefror 22)

Statws Presennol

(Medi 22)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ymyrraeth wedi’i thargedu

Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer iechyd meddwl, Ysbyty Glan Clwyd, gwasanaethau fasgwlaidd, arweinyddiaeth, ymgysylltu, cyllid, strategaeth, cynllunio a pherfformiad

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Trefniadau arferol

Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mesurau arbennig ar gyfer mamolaeth, ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer ansawdd a llywodraethu

Mesurau arbennig ar gyfer mamolaeth, ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer ansawdd a llywodraethu

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Monitro uwch

Monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad, ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer cyllid a chynllunio

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Monitro uwch

Monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol