Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae ein cynllun pontio hirdymor o bandemig i endemig o ran COVID-19 yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn amlinellu amserlen y trefniadau pontio graddol ar gyfer y cynllun Profi Olrhain Diogelu.
Cafodd elfennau olaf y ddeddfwriaeth frys eu diddymu ar 30 Mai ac rydym wedi dechrau cynnwys dulliau gweithredu sy’n benodol i COVID-19, gan gynnwys Profi Olrhain Diogelu, yn ein hymateb iechyd cyhoeddus ar gyfer clefydau trosglwyddadwy ac yn benodol, heintiau anadlol. Mae hyn wedi ein galluogi i ddefnyddio’r seilwaith a’r gallu yr ydym wedi’u sefydlu ar gyfer yr ymateb COVID-19 i gefnogi’r rhaglen ar gyfer ffoaduriaid Wcráin a’n hymateb i frech y mwncïod, ochr yn ochr â COVID-19.
Y dull yr ydym yn parhau i’w ddilyn yw nad yw COVID-19 ar ben, a bod angen i’r trefniadau pontio gael eu pennu gan y cyflyrau iechyd cyhoeddus sy’n bodoli ar y pryd. Mae’r cynlluniau hefyd yn cadw mewn cof yr angen i gadw’r gallu i ehangu ein hymateb o dan unrhyw senario COVID Brys, a byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd gymesur os oes angen.
Fel y nodir yn y cynllun byddwn yn rhoi’r gorau i’r taliadau cymorth hunanynysu a’r broses reolaidd o olrhain cysylltiadau ar 30 Mehefin. Bydd hyn yn cyd-fynd â’n cyngor a’n deunyddiau cyfathrebu ar ymddygiadau amddiffynnol – aros gartref pan fydd gennych symptomau, golchi dwylo’n rheolaidd ac annog gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau gorlawn a lleoliadau iechyd a gofal.
Bydd ein hamcanion wrth symud ymlaen yn parhau i ganolbwyntio ar y canlynol:
- Diogelu’r rheini sy’n agored i niwed rhag clefyd difrifol drwy alluogi mynediad at driniaethau; a diogelu pobl rhag y risg o gael eu heintio.
- Cynnal y capasiti i ymateb i frigiadau o achosion yn lleol ac mewn lleoliadau risg uchel.
- Cadw systemau gwyliadwriaeth effeithiol ar waith i nodi unrhyw ddirywiad yn y sefyllfa megis yn sgil amrywiolion niweidiol a mwtaniadau sy’n peri pryder;
- Paratoi ar gyfer dychweliad posibl y feirws.
Roedd ein cynllun o dan COVID Sefydlog yn cydnabod ein bod yn dal i ddisgwyl i donnau ychwanegol o heintiau ac amrywiolion newydd ddod i’r amlwg, ac y gallai rhai ddod yn ffurfiau mwyaf cyffredin. Ond ni fydd y tonnau hyn yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Disgwylir i frechlynnau ac ymyriadau fferyllol eraill barhau i fod yn effeithiol wrth atal salwch difrifol. Rydym yn annog pobl sy’n gymwys am bigiad atgyfnerthu'r gwanwyn i ddod i gael eu brechu cyn 30 Mehefin os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny. Bydd hyn yn sicrhau bod ganddynt amddiffyniad da rhwng nawr a phan gynigir pigiad atgyfnerthu yn yr hydref. Rydym hefyd yn annog rhieni i ystyried brechu eu plant cyn y dyddiad cau o 30 Mehefin er mwyn iddynt gael eu hamddiffyn yn llawn erbyn i’r flwyddyn ysgol newydd ddechrau ym mis Medi, i leihau unrhyw darfu pellach ar eu bywyd ysgol.
Ar hyn o bryd, ar ôl gostyngiad graddol mewn achosion a chyffredinrwydd yn ystod y cyfnod pontio, rydym yn gweld cynnydd mewn achosion. Dangosodd arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer yr wythnos 5 i 11 Mehefin 2022 gynnydd ar draws y DU ac amcangyfrifir bod gan 2.13% (1 o bob 45) o boblogaeth gymunedol Cymru COVID-19. Mae’r is-amrywiolion BA.4 a BA.5 yn cyfrannu at y cynnydd hwn wrth iddynt ddod yn fwy cyffredin ar draws y DU. Mae tystiolaeth gronnol o sawl gwlad yn awgrymu nad yw’r is-amrywiolion hyn yn ymddangos yn fwy difrifol.
Yn unol â’n hamcan i ddiogelu’r rheini sy’n agored i niwed y byddwn yn parhau i ddarparu’r canlynol o 1 Gorffennaf ymlaen:
- Profion llif unffordd a PCR i’r rheini sy’n gymwys am driniaethau COVID-19.
- Profion PCR am COVID-19 a feirysau anadlol eraill ar gyfer preswylwyr symptomatig mewn cartrefi gofal a charcharorion.
- Profion PCR a phrofion llif unffordd yn unol â’r fframwaith profi cleifion a barn glinigol.
- Profion llif unffordd i staff symptomatig iechyd a gofal cymdeithasol.
- Profion llif unffordd ar gyfer profi ansymptomatig rheolaidd i staff iechyd a gofal cymdeithasol (Bydd hyn yn cael ei adolygu pan fydd nifer yr achosion rhwng 1-2% a bod risg uwch o ganlyniadau positif ffug).
- Ymestyn y cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol COVID-19 tan 31 Awst i gefnogi staff gofal cymdeithasol i aros i ffwrdd o’r gwaith os ydynt wedi cael prawf positif.
Oherwydd cynnydd mewn cyfraddau heintio sy’n gysylltiedig â BA.4 a BA.5, dros yr hyn a ddisgwylir i fod yn don fer, byddwn hefyd yn parhau i ddarparu profion llif unffordd am ddim hyd at ddiwedd mis Gorffennaf i’r cyhoedd sy’n symptomatig; ac i bobl sy’n mynychu cartrefi gofal ac yn ymweld â rhywun sy’n gymwys ar gyfer triniaethau COVID-19 newydd. Bydd pobl sy’n cael prawf positif yn cael eu cynghori i aros gartref am 5 diwrnod a phrofi eu bod yn negyddol ar ddiwrnod 5 a 6.
Rydym yn parhau i weithio ar ein cynllun heintiau anadlol ar gyfer yr hydref/gaeaf a darpariaeth wrth gefn ar gyfer COVID Brys, yn ogystal â’r posibilrwydd y gallai amrywiolyn newydd ddod i’r amlwg sydd â gallu sylweddol i ddianc rhag effaith y brechlynnau neu fanteision eraill sy’n rhoi nifer fawr o bobl mewn perygl o salwch difrifol. Byddaf yn rhoi diweddariadau pellach i’r Aelodau ar y cynlluniau cyn yr hydref.