Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Yng Nghyllideb 2011, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun Cyfnewid Cyllideb newydd i ddisodli'r cynllun Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn blaenorol ar gyfer rheoli gwariant cyhoeddus ar draws blynyddoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi egluro nad yw nifer o nodweddion y system Cyfnewid Cyllideb newydd yn addas i Weinyddiaethau Datganoledig ac mae wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i newid y trefniadau.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi, yn dilyn trafodaethau'r wythnos ddiwethaf rhwng Prif Ysgrifennydd y Trysorlys (CST) a mi, a rhwng Gweinidogion Cyllid y tair Weinyddiaeth Ddatganoledig a'r CST, fod Llywodraeth y DU bellach wedi cytuno y caiff fersiwn ddiwygiedig o'r system Cyfnewid Cyllideb ei chymhwyso i danwariant gan y Gweinyddiaethau Datganoledig yn ystod cyfnod yr Adolygiad o Wariant. Bydd Gweinyddiaethau Datganoledig yn gallu cario tanwariant drosodd, â chytundeb o ran ei gapio. Yn wahanol i adrannau Whitehall ni fydd yn ofynnol hysbysu'r Trysorlys o'r tanwariant disgwyliedig cyn y flwyddyn ddilynol er mwyn cario'r cyllid drosodd.
Ond os bydd Gweinyddiaeth Ddatganoledig yn dymuno hysbysu'r Trysorlys am danwariant a fwriedir cyn i'r flwyddyn ddod i ben yna gallant sicrhau'r cyllid sy'n cael ei gario drosodd yn gynharach yn y flwyddyn ariannol ddilynol.
Cytunwyd y bydd ein cyllideb Terfynau Gwariant Adrannol Adnoddau (RDEL) yn cael ei gapio ar 0.6% a'n cyllideb Cyfalaf Terfynau Gwariant Adrannol Cyfalaf (CDEL) yn cael ei gapio ar 1.5%. Ar gyfer 2011-12, bydd hyn yn £83m ar gyfer RDEL a £19m ar gyfer CDEL. Er na fydd tanwariant sy'n fwy na'r terfynau hyn yn cael ei gario drosodd, mae capio ar y lefel hon yn ddigon i sicrhau, gyda rheolaeth ariannol ofalus, na fydd yr adnodd a ddyfarnwyd i Gymru'n cael ei golli. Mae'r cap yn fwy o lawer na'n tanwariant yn ystod y blynyddoedd diweddar. Er enghraifft, eleni roedd ein tanwariant RDEL yn 0.14%, a'n tanwariant CDEL yn 0.20%.
Rwy'n falch fod y Trysorlys wedi ymateb yn gadarnhaol i ddull cydgysylltiedig y Gweinyddiaethau Datganoledig o weithredu ar y mater hwn ac mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi cydnabod ein statws unigryw yn y trefniadau newydd. Bydd y trefniadau newydd hyn yn cynnig hyblygrwydd y mae ei angen yn fawr ar Lywodraeth Cymru i'n helpu ni i ymateb i'r her o reoli â chyllidebau llai. Fodd bynnag, rwyf wedi mynegi fy siom fod y Trysorlys wedi parhau i wrthod rhyddhau mwy na £400m mewn stociau presennol o hyblygrwydd diwedd blwyddyn a ddyfarnwyd gan y Senedd i Gymru. O'u rhyddhau gellid eu defnyddio i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a rhoi hwb i'r economi yng Nghymru.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod yr aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Os hoffai'r aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull byddwn yn hapus i wneud hynny.