Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi eu hadolygiad ar y cyd heddiw o drefniadau llywodraethu ansawdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o wendidau sylfaenol yn nhrefniadau llywodraethu’r bwrdd iechyd o ran ansawdd gofal ac o ran diogelwch cleifion. Mae hefyd yn adlewyrchu canfyddiadau allweddol nifer o adroddiadau blaenorol ac yn cadarnhau pam y bu’n rhaid uwchgyfeirio’r bwrdd iechyd i statws ymyrraeth wedi’i thargedu yn gynharach eleni.
Fel y mae’r adroddiad yn nodi’n glir, er bod modd i rai pethau gael eu gwneud yn gyflym a bod hynny eisoes ar waith, mae cryn dipyn o waith i’w wneud o hyd i fynd i’r afael â’r materion sylfaenol sydd wedi dod i’r amlwg. Rwy’n falch bod y bwrdd iechyd wedi derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion yn llawn ac wedi cymryd cryn gamau eisoes i ymdrin â nhw. Maen nhw hefyd wedi ymrwymo i wneud hynny mewn ffordd agored a thryloyw, fel y dangoswyd yn ddiweddar wrth iddynt gymryd gamau i adolygu a gwella’r ffordd y maent yn rheoli eu rhestrau aros.
Mae’r bwrdd iechyd wedi datgan ei fod yn benderfynol o roi ffocws cryf ar ansawdd a diogelwch drwy’r sefydliad cyfan. Ymysg y camau sydd ar y gweill yn barod mae pwyslais sylweddol ar ymgysylltu â staff wrth ddatblygu cyfres o werthoedd ac ymddygiadau craidd i lywio’r diwylliant sefydliadol; rhoi model gweithredu newydd a strwythurau cysylltiedig ar waith, sicrhau llinellau atebolrwydd cryf; a chryfhau prosesau er mwyn sicrhau trefn gadarn ar gyfer llywodraethu ansawdd a rheoli risg. Ond, yn amlwg, mae llawer mwy i’w wneud. Mae cynnydd y bwrdd iechyd yn cael ei fonitro’n agos drwy ein trefniadau uwchgyfeirio, a bydd hynny’n parhau, er mwyn sicrhau’r manylder a’r cyflymder angenrheidiol. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynnydd, ac yn cyhoeddi datganiad pellach am hyn ac am y gwasanaethau mamolaeth yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Hefyd yn sgil yr adroddiad hwn, bydd materion y bydd gofyn i holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru eu hystyried a dysgu oddi wrthynt. Rwyf wedi ysgrifennu at holl Gadeiryddion a Phrif Weithredwyr y GIG heddiw, yn gofyn iddynt ystyried eu trefniadau llywodraethu ansawdd eu hunain a’u hadolygu yn unol â’r argymhellion yn yr adroddiad.
Mae nifer o gamau gweithredu eraill ar waith i sicrhau bod gan bob Bwrdd drefniadau llywodraethu cadarn. Mae hyn yn cynnwys trefniadau cynefino newydd ar gyfer Aelodau Annibynnol, a fydd yn orfodol ar gyfer pob aelod newydd a benodir. Bydd y rhaglen yn atgyfnerthu pwysigrwydd rôl yr Aelod Annibynnol fel penodiad cyhoeddus. Bydd hefyd yn helpu i ddatblygu eu sgiliau o ran craffu a gofyn am sicrhad, fel aelod o fwrdd. Yn ogystal, rwyf wedi gofyn am gynnal adolygiad o’r Cod Ymddygiad ar gyfer Byrddau a Rheolwyr y GIG er mwyn atgyfnerthu’r safonau a ddisgwylir ganddynt fel Aelodau o Fwrdd. Er fy mod yn cydnabod mai cyfrifoldeb ar y cyd yw llywodraethu’r Bwrdd a’r sefydliad, rwyf hefyd wedi ymrwymo i gryfhau rôl Ysgrifennydd y Bwrdd fel ceidwad llywodraethu da o fewn sefydliadau’r GIG yng Nghymru.