Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 13 Mawrth llynedd bydd Aelodau'n gwybod am fy mwriad i ailystyried yr opsiynau ar gyfer darparu cymorth tymor hir i'r rhai a arferai dderbyn taliadau o'r Gronfa Byw'n Annibynnol, ar ôl adolygiad o wariant Llywodraeth y DU. Bwriad y taliadau hyn oedd helpu pobl anabl i dalu costau ychwanegol byw'n annibynnol yn y gymuned. Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y trefniadau i ddarparu'r cymorth hwn yn 2016-17, ac am yr opsiynau posibl ar gyfer cymorth tymor hir sy'n cael eu datblygu ymhellach.  

Daeth Llywodraeth y DU â'r Gronfa Byw'n Annibynnol i ben ar 30 Mehefin llynedd, gan drosglwyddo'r cyfrifoldeb am ddarparu cymorth i'r rhai oedd yn derbyn taliadau'r Gronfa yng Nghymru i Lywodraeth Cymru. Er mwyn parhau i roi cymorth, sefydlais gynllun grant tymor byr gyda'r awdurdodau lleol - Grant Byw'n Annibynnol Cymru - i redeg hyd at 31 Mawrth 2017 o leiaf. Dan y cynllun hwn, darparwyd £20.4 miliwn i awdurdodau yn 2015-16 er mwyn eu galluogi i gynnal taliadau ar yr un lefel i'r rhai a arferai dderbyn taliadau o'r Gronfa. Mae Grant Byw'n Annibynnol Cymru wedi gweithio'n dda, gyda phobl anabl a arferai gael taliadau o'r Gronfa bellach yn eu cael gan eu hawdurdod lleol yn lle hynny, ac ychydig iawn o broblemau gododd. Rhaid i mi gofnodi fy ngwerthfawrogiad i'r awdurdodau lleol am gyflawni hyn.

Yn dilyn adolygiad o wariant Llywodraeth y DU, gallaf gadarnhau bellach bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 yn cynnwys £27 miliwn i alluogi Grant Byw'n Annibynnol Cymru i barhau hyd at 31 Mawrth 2017, yn unol â'r cynllun. Mae'n newyddion y bydd y rhai sy'n derbyn taliadau'n ei groesawu, gan y bydd awdurdodau lleol bellach yn medru parhau i gynnal eu taliadau yn y flwyddyn ariannol nesaf ar yr un lefel â thaliadau'r Gronfa Byw'n Annibynnol pan ddaeth i ben. Bydd hyn yn eu helpu i fedru byw'n annibynnol yn y gymuned. Cyn gynted ag y bydd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 yn cael ei chytuno, bydd swyddogion yn dyrannu grantiau i awdurdodau er mwyn eu galluogi i wneud taliadau 2016-17 ar amser.

Gan edrych i’r dyfodol, mae lefel y cyllid rheolaidd y mae Llywodraeth y DU yn ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni'r cyfrifoldeb hwn yn aros yn wastad ar £27 miliwn y flwyddyn. Mae hyn yn ddigon i fedru cynnal taliadau ar yr un lefel â thaliadau'r Gronfa pan ddaeth i ben. Fodd bynnag, nid yw'n caniatáu ar gyfer unrhyw newid yn anghenion person, neu unrhyw newidiadau yng nghostau'r cymorth angenrheidiol. Nid yw chwaith yn cynnwys unrhyw elfen ar gyfer costau gweinyddu neu sefydlu'r trefniadau i ddarparu cymorth yng Nghymru. Byddai rhaid tocio'r £27 miliwn y flwyddyn i dalu costau o'r fath, gan ostwng lefel y taliadau y gellid fforddio eu talu. O ganlyniad, mae lefel yr arian sy'n cael ei drosglwyddo'n cyfyngu'n ddifrifol ar yr opsiynau y mae modd eu hystyried ar gyfer darparu cymorth i'r derbynwyr yn y tymor hir.

Yng ngoleuni hyn, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio gyda chynrychiolwyr y rhanddeiliaid i ddatblygu opsiynau manwl ar gyfer trefniadau tymor hir, y tu hwnt i 31 Mawrth 2017.Bydd rhain yn cynnwys y posibilrwydd o ymestyn y trefniadau presennol, trefniant posibl gyda’r corff a sefydlwyd yn yr Alban i ddarparu taliadau i'r rhai arferai gael arian o'r Gronfa er mwyn iddynt wneud yr un fath yng Nghymru neu, fel sy’n digwydd yn Lloegr, trosglwyddo’r cyllid i awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn i’r rhai arferai dderbyn arian o’r Gronfa ddod o dan drefniadau darparu gofal a chymorth a nodir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gyfer pobl anabl yn gyffredinol. Mae modd ystyried opsiynau pellach wrth iddynt godi mewn trafodaethau gyda'r rhanddeiliaid, ond byddai’n rhaid i bob un weithredu o fewn y £27 miliwn y flwyddyn sy’n cael ei ddarparu at y diben hwn gan Lywodraeth San Steffan. Hefyd byddai’n rhaid i bob un ddangos eu bod yn rhoi’r gyfran fwyaf bosibl o’r £27 miliwn hwnnw i helpu’r derbynwyr, yn hytrach na’i wario ar gostau gweinyddol. Bydd y gwaith uchod yn digwydd  cyn gynted â phosib, er mwyn i'r Llywodraeth newydd fedru gwneud penderfyniad yn gynnar yn nhymor nesaf y Cynulliad ynghylch pa opsiwn i'w roi ar waith. Mae hyn er mwyn sicrhau bod digon o amser ar gael yn ddiweddarach eleni a'r flwyddyn nesaf i ystyried a gosod trefniadau ar gyfer y dyfodol, er mwyn iddynt fod yn barod erbyn y daw Grant Byw'n Annibynnol Cymru i ben ar 31 Mawrth 2017.

Byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr Aelodau'n cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.