Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel rhan o raglen barhaus Llywodraeth y DU o ddiwygio lles, mae elfennau o’r Gronfa Gymdeithasol bresennol a ddarperir gan Lywodraeth y DU, yn benodol y Grantiau Gofal Cymunedol a Benthyciadau Argyfwng Dewisol, yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth 2013. Felly bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei chynllun ei hunan o 1 Ebrill 2013. Gelwir y cynllun newydd yn Gronfa Gymorth Ddewisol.  

Yn dilyn ymgynghori ac ymgysylltu â’n sefydliadau partner ar draws y Sector Statudol a’r Trydydd Sector yng Nghymru, rwyf wedi penodi Gwasanaethau Cyhoeddus Northgate i weithio fel ein darparwr i gyflwyno’r cynllun newydd hwn yng Nghymru, a hynny mewn partneriaeth â Chronfa’r Teulu a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.    

Diben y Gronfa Gymorth Ddewisol yw cynnig taliadau neu gymorth o fath arall er mwyn galluogi pobl i fyw’n annibynnol a darparu cymorth brys i bobl y mae angen diogelu eu hiechyd a’u lles. Bydd y taliadau hyn ar gael i bobl sydd heb unrhyw fodd o dalu am eu costau byw ar y pryd; nid ydynt wedi’u bwriadu i dalu costau treuliau parhaol. Felly, nid oes angen ad-dalu’r taliadau o’r gronfa hon. Bydd yn rhedeg yn y lle cyntaf am ddwy flynedd, a bydd y gyllideb flynyddol yr wyf wedi’i neilltuo ar gyfer y gronfa newydd yn £10.2 miliwn bob blwyddyn.

Mae dwy elfen i’r Gronfa Gymorth Ddewisol. Yr elfen gyntaf fydd y Taliadau Cymorth Unigol. Caiff y rhain eu gwneud i gynorthwyo pobl sy’n agored i niwed fel y gallant fyw’n annibynnol yn y gymuned lle mae’n amlwg nad oes modd gwneud hyn heb gymorth. Bydd y taliadau hyn yn helpu i osgoi’r angen am ofal sefydliadol, yn lleddfu unrhyw bwysau eithriadol ar deuluoedd ar incwm isel ac yn helpu pobl sydd ar fudd-daliadau lles sy’n gysylltiedig ag incwm i adsefydlu yn y gymuned.

Ail elfen y Gronfa fydd y Taliadau Cymorth Brys. Bydd y rhain ar gael i bawb dros 16 oed i dalu am dreuliau sy’n codi oherwydd argyfwng neu drychineb na ellir ei ragweld. Nid yw’r hawl i dderbyn y taliadau hyn yn seiliedig ar dderbyn budd-daliadau lles sy’n gysylltiedig ag incwm.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn parhau i wneud rhai benthyciadau mewn argyfwng. Bydd hyn yn digwydd mewn achosion o galedi ac yn talu am gostau bwyd a gwres pan fydd budd-dal i bobl sy’n agored i niwed wedi’i wrthod neu’i wahardd. Bydd rhagdaliadau tymor byr o fudd-daliadau lles yn parhau i fod ar gael yn achos hawlydd na all dalu am gostau bwyd a gwres cyn iddo dderbyn ei fudd-dal neu daliad diwrnod cyflog nesaf.

Caiff y trefniadau a’r meini prawf cymhwyster am Daliadau Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru eu hadolygu wrth i’r gronfa gael ei gweithredu o fis Ebrill ymlaen. Bydd Gwasanaethau Cyhoeddus Northgate yn datblygu ac yn cynnal perthynas waith agos â sefydliadau partner cydnabyddedig ar draws y Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau bod y bobl sy’n fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn gallu manteisio ar y gefnogaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.