Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd yr Aelodau’n gwybod o’m Datganiad Ysgrifenedig 3 Hydref 2014 i ymgynghoriad gael ei gynnal ddiwedd y llynedd ar drefniadau’r dyfodol o safbwynt y trefniadau gofal a chymorth i dderbynwyr y Gronfa Byw’n Annibynnol (ILF). Diben y Datganiad hwn yw rhoi’r newyddion diweddaraf i’r aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad a sut y bydd Llywodraeth Cymru’n gweinyddu’r cyllid ar gyfer gofal a chymorth derbynwyr ILF yng Nghymru o 1 Gorffennaf eleni.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU i’r Senedd ym Mawrth y llynedd y byddai’n dod â’r Gronfa Byw’n Annibynnol (ILF) i ben ar 30 Mehefin 2015. Gwnaed y penderfyniad hwn heb gyfeirio ymlaen llaw at y gweinyddiaethau datganoledig. Pan fydd y Gronfa’n dod i ben bydd y cyfrifoldeb dros ddiwallu anghenion cymorth derbynwyr ILF yng Nghymru yn trosglwyddo i Lywodraeth Cymru. Cafodd ILF ei sefydlu ym 1988 fel Corff Cyhoeddus Anadrannol Anweithredol o’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’n darparu cymorth ariannol i bobl anabl ledled y DU y mae arnynt angen lefel uchel o gymorth er mwyn gallu byw’n annibynnol. Mae’n cael ei hariannu ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU a’i gweithredu gan yr ILF.
Mae’r ILF yn gwneud taliadau arian parod uniongyrchol i bobl anabl ag anghenion gofal sylweddol iawn er mwyn iddynt dalu cost y gofal a’r cymorth y mae arnynt eu hangen, neu i gyflogi eu cynorthwywyd personol eu hunain. Gellir defnyddio’r taliadau am ystod o bethau megis: cymorth gyda bwyta ac yfed; coginio a pharatoi bwyd a diod; cymorth i wisgo; glanhau, golch a dyletswyddau domestig eraill. Ar 30 Ionawr eleni roedd 1,648 o dderbynwyr ILF yng Nghymru, a oedd yn cael ychydig dros £335 yr wythnos o’r ILF ar gyfartaledd i ddiwallu eu hanghenion.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 3 Hydref a 23 Rhagfyr y llynedd a gofynnodd am safbwyntiau ar ba un o bedwar dewis oedd orau gan yr ymatebwyr fel y cyfrwng i barhau i ddarparu gofal a chymorth i dderbynwyr ILF yng Nghymru. Y pedwar dewis a oedd o dan ystyriaeth oedd:
- Sefydlu corff olynol yng Nghymru i’r ILF.
- Sefydlu Cynllun Cenedlaethol Byw’n Annibynnol.
- Trosglwyddo Cyfrifoldeb ac Ariannu i’r Awdurdodau Lleol trwy eu Mecanwaith Ariannu Arferol; neu
- Drosglwyddo Cyfrifoldeb ac Ariannu i’r Awdurdodau Lleol trwy Grant Arbennig gyda’r amodau’n cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru.
Rhoes swyddogion wybod bod 279 o ymatebion wedi dod i law ar ddiwedd yr ymgynghoriad, a bod lefelau amrywiol o gefnogaeth yn eu plith i bob dewis. Aeth fy swyddogion ati i goladu a dadansoddi’r ymatebion a rhoesant friffio a chyngor imi ar lefel y gefnogaeth i bob un o’r dewisiadau ynghyd â manteision ac anfanteision bwrw ymlaen â phob dewis.
Ar ôl rhoi ystyriaeth ofalus i’r ymatebion a’r safbwyntiau a fynegwyd rwyf wedi penderfynu rhoi Dewis Pedwar ar waith, sef cynllun grant sy’n cael ei weinyddu gan yr awdurdodau lleol i dalu’r lefel bresennol o gyllid i’r rhai sy’n derbyn ILF ar hyn o bryd. Mae’r dull hwn yn adlewyrchu’r angen am frys wrth roi trefniadau ar waith erbyn 30 Mehefin eleni a natur fyrdymor y cynnig ariannu presennol. Bydd y cynllun grant yn para o fis Gorffennaf 2015 tan ddiwedd Mawrth 2017. Mae cyllid o £20.4m eisoes wedi’i gadarnhau am y cyfnod Gorffennaf 2015 i ddiwedd Mawrth 2016. Seilir hyn ar nifer y bobl sy’n cael ILF pan ddaw’r cynllun presennol i ben ar 30 Mehefin. Mae cyllid y tu hwnt i’r dyddiad hwn yn ddarostyngedig i’r Cylch Gwario nesaf. Os caiff cyllid sy’n seiliedig ar nifer y derbynwyr yn cael ei gadarnhau bryd hynny fel rhan o gyllideb hirdymor Llywodraeth Cymru yna byddaf yn ailystyried y camau y mae eu hangen i ddatblygu corff olynol yng Nghymru i’r ILF fel ateb tymor hwy.
Rwyf yn gyfan gwbl ymwybodol bod derbynwyr presennol ILF wedi bod yn pryderu o ganlyniad i’r cyhoeddiad bod y cynllun yn dod i ben. Bydd y cynllun grant yr wyf wedi’i gyhoeddi heddiw’n sicrhau bod lefelau presennol o gyllid yn cael eu cynnal tra’n cadw ar agor y posibilrwydd o gorff parhaol i weithredu ILF yng Nghymru os bydd yr amodau’n caniatáu. Yn y cyfamser, mae penderfyniad heddiw’n cynnig eglurdeb i dderbynwyr presennol ILF yng Nghymru y bydd eu llwybrau gofal a chymorth presennol yn cael eu cynnal, gan leddfu’r pryderon a fynegwyd gan dderbynwyr LIF a chan ddileu’r pryderon o ran cyflogaeth a godwyd gan eu gofalwyr.
Bydd swyddogion bellach yn cydweithio â chynrychiolwyr yr awdurdodau lleol a’u cyrff a rhanddeiliaid i weithio trwy fanylion y cynllun grant er mwyn sicrhau ei fod wedi cael ei sefydlu erbyn diwedd Mehefin.
Byddaf wrth gwrs yn sicrhau bod Aelodau’n cael gwybod am y datblygiadau o ran y trefniadau ar gyfer ILF yng Nghymru.